Gerald Davies: Camp Lawn 1971 ac 'asgellwyr arbennig' heddiw

  • Cyhoeddwyd
Gerald DaviesFfynhonnell y llun, Getty Images

Y penwythnos yma bydd carfan rygbi Cymru'n teithio i Baris i wynebu Ffrainc ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad, gan wybod y bydd buddugoliaeth yn cipio'r Gamp Lawn iddyn nhw. Mae Cymru wedi ennill 12 Camp Lawn hyd yma, gyda'r diweddara'n dod ond dwy flynedd yn ôl.

Mewn cyd-ddigwyddiad, i Baris y teithiodd carfan Cymru dan reolaeth Clive Rowlands ym mis Mawrth 1971 i ennill y Gamp Lawn. Aelod blaenllaw o garfan Cymru 50 mlynedd yn ôl oedd yr asgellwr byd-enwog, Gerald Davies.

"O'n i wedi rhoi'r gore i'r gêm rhyngwladol yn nhymor 1969-70, a gêm gynta'r Pum Gwlad yn 1971 yn erbyn Lloegr oedd fy gêm gyntaf nôl yn y crys coch" meddai Gerald Davies.

"Fe gymerais i seibiant o chwarae'n rhyngwladol gan oedd gen i arholiadau pwysig yng ngholeg Emmanuel, Caergrawnt - o'n i'n gwario gormod o amser i ffwrdd o'r coleg. Ond o'n i'n hapus ofnadwy i ddod nôl i chwarae dros Gymru wrth gwrs."

Cymru 22-6 Lloegr; 16 Ionawr, 1971

Gêm gyntaf ymgyrch 1971 oedd yn erbyn Lloegr ar Barc yr Arfau. Sgoriodd Gerald Davies ddau gais wrth i Gymru ddechrau'r bencampwriaeth gyda buddugoliaeth.

"Dwi ddim yn cofio lot am fanylion y gêm mae rhaid imi gyfadde', ond dwi'n cofio un cais lle roedd 'na symudiad da gan Gymru.

"Roedd y tri-chwarteri yn arbennig ar y pryd, yn enwedig gyda John Dawes yn y canol oedd yn gallu amseru'r bas mor dda i unrhyw un odd ar yr asgell, ac yn wir ges i'r bêl a rhedeg am y llinell."

Disgrifiad o’r llun,

Gerald yn croesi am un o'i geisiau yn erbyn Lloegr ar Barc yr Arfau, 1971

Yr Alban 18-19 Cymru; 6 Chwefror, 1971

Fel y gêm gyfatebol eleni, roedd taith i'r Hen Ogledd yn un anodd ar ddechrau'r 70au. Ond ennill a wnaeth Cymru unwaith eto, gyda Gerald Davies yn croesi am gais arall.

"Roedd Caeredin yn cael ei alw gan rai 'the graveyard of Welsh hopes' oherwydd roedd hi'n dipyn o her i fynd fyny 'na ac ennill. Roedd tîm da ganddyn nhw ar y pryd gyda chwaraewyr arbennig; Billy Steele ar yr asgell, John Frame yn y canol, Alastair Biggar, Chris Rea, Jock Turner yn faswr arbennig...roedd tîm arbennig gyda nhw.

"Roedd hi'n gêm arbennig iawn gyda dim ond un pwynt ynddi yn y diwedd, ac fe newidiodd y sgôr bedair neu bump gwaith yn ystod y gêm - reit tan y funud olaf nes bod John Taylor yn cicio'r gic 'na i ennill y gêm.

Disgrifiad o’r llun,

Gerald Davies yn curo amddiffynwr ar yr asgell yn Murrayfield, 1971

"Roedd digon o symudiad gan ni a gan yr Alban, roedden nhw'n hoff iawn o chwarae gêm agored, o feddwl am y cefndir sydd ganddyn nhw efo saith bob ochr ac ymosod drwy'r amser, ond fe gaethon ni'r gorau ohoni ar y diwrnod."

Cymru 23-9 Iwerddon; 13 Mawrth, 1971

"Erbyn hyn roedd hyder mawr o fewn y tîm, roedd y peth yn tyfu o gêm i gêm, a wir oedden ni'n dechrau sefydlu'n hunain fel tîm cryf iawn yng Nghymru."

Disgrifiad o’r llun,

Sgoriodd Gerald Davies 20 cais dros Gymru rhwng 1966 ac 1978

Sgoriodd Gerald Davies ddau gais arall yn y gêm yma. Roedd wedi tirio bum gwaith yn y dair rownd gyntaf a olygai mai ef oedd prif sgoriwr y bencampwriaeth y flwyddyn honno.

"Fe dderbyniais i bas gan Arthur Lewis y canolwr a nes i sgorio yn y gornel. O'n i'n falch iawn o'r cais hynny - o'n i'n teimlo o hyd bod Arthur yn dal ymlaen i'r bêl ychydig yn rhy hir ac o'n i moen y bêl yn gynharach er mwyn cael rhywfaint o le i symud ond yn wir fe amserodd ei bas yn iawn ac fe ges i'r bêl i groesi yn y gornel.

"Roedd hi'n eitha' clos mae rhaid i mi ddweud, ond erbyn hyn roedd y tîm yn chwarae gyda dipyn o steil."

Ffrainc 5-9 Cymru; 27 Mawrth, 1971

Felly fe deithiodd tîm Cymru i Ffrainc mewn ymgais i ennill y Gamp Lawn. Oedd Gerald yn disgwyl ennill yno?

"Wel na doedden ni ddim yn sicr o gwbl achos roedd tîm cryf 'da Ffrainc ar y pryd."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Gareth Edwards yn ymosod yn erbyn Ffrainc yn Stade de Colombes, 1971

"Roedd croesi i chware ym Mharis yn dipyn o job ar y pryd, ond roedd y gêm ei hun yn gystadleuaeth top notch. Roedd hi'n ddwys, digon o drafod ar y bêl - roedden ni'n fodlon rhedeg ac roedd Ffrainc fodlon rhedeg.

"Roedd y gêm yn un gwerth ei gweld ac roedd hi'n ffordd wych i ni ennill y Gamp Lawn."

Disgrifiad o’r llun,

Tabl Pencampwriaeth y Pum Gwlad 1971

'Asgellwyr arbennig' heddiw

O edrych ar dîm Cymru heddiw, mae Gerald Davies yn llawn edmygedd o'r gwibwyr ar y ddwy asgell.

"Mae 'na ddau asgellwr arbennig gyda ni yng Nghymru ar y funud. Mae un yn ifanc iawn a newydd ddechre, Rees-Zammit wrth gwrs, a Josh Adams ar yr ochr arall.

"Maen nhw'n codi nghalon i bob tro ma nhw'n chware achos bob tro mae nhw'n cael gafael ar y bêl mae disgwyl i rywbeth ddigwydd, a wir mae e yn digwydd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Asgellwyr Cymru; Louis Reez-Zammit sy'n cael tymor anhygoel ers ennill ei gap cyntaf yn Hydref 2020, ac Josh Adams sydd wedi cael 16 cais dros Gymru mewn 31 gêm

"Mae'n neis iawn gweld y tîm yn chwarae gyda dipyn o hyder, dipyn o steil iddyn nhw, ac yn datblygu fel tîm fydd yn werth edrych arno - gan chwarae gêm agored a thrafod y bêl yn dda gyda chyflymder. Ac wrth gwrs, maen nhw'n cael eu harwain gan y gŵr arbennig 'na yn yr ail-reng."

'Un o'r goreuon erioed'

Mae Gerald Davies yn ystyried capten presennol Cymru, Alun Wyn Jones, fel un o'r chwaraewyr gorau yn hanes y gêm.

"Mae e, dwi'n credu, yn un o'r goreuon erioed, nid ond yng Nghymru, ond ledled y byd; Awstralia, Seland Newydd neu unrhywle.

"Mae Alun Wyn Jones ar dop ei gêm bob gêm a dydy e byth bron yn ymadael y cae, mae e'n chwarae tan ddiwedd y gêm.

"Dwi byth wedi gweld Alun Wyn Jones yn chwarae pan dydy o ddim ar ei orau, mae'n ddyn arbennig, yn gapten arbennig, ac yn gystadleuwr ac yn arwr i ni yng Nghymru."

Ffynhonnell y llun, Insidefoto
Disgrifiad o’r llun,

Mae Alun Wyn Jones wedi ennill 147 o gapiau dros Gymru ac naw dros y Llewod

"Mae'r tîm hyn yn dechrau ffeindio'i ffordd i fod yn dîm cryf yn y dyfodol, drwy chwarae'r ffordd maen nhw eisiau - gêm agored gyda digon o redeg a thrafod y bêl. Ac mae 'na weledigaeth ganddyn nhw o sut maen nhw am chware'r gêm."

Camp Lawn yn 2021?

Ydy Gerald Davies yn credu bydd Camp Lawn rhif 13 yn dod i Gymru nos Sadwrn?

"Mae tîm Ffrainc yn gryf iawn ac maen nhw'n gallu chwarae gêm gwerth ei gweld hefyd. Mae yna ddau dîm da am wynebu ei gilydd ac mae e am fod yn agos.

"Ond ar ddiwedd y dydd dwi byth yn gwylio Cymru'n chwarae heb feddwl bod nhw am ennill, felly dwi'n meddwl gwnawn ni e."

Hefyd o ddiddordeb: