Dim hawl i her gyfreithiol ar y Ddeddf Marchnad Fewnol

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
BrexitFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ddeddf wedi bod yn un dadleuol iawn yn y gwledydd datganoledig

Mae'r Uchel Lys wedi gwrthod yr hawl i Lywodraeth Cymru gynnal her gyfreithiol yn erbyn Llywodraeth y DU dros y Ddeddf Marchnad Fewnol.

Fe wnaeth Cwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cymru, Jeremy Miles geisio herio'r ddeddf yn yr Uchel Lys gan ddweud ei fod yn "tanseilio datganoli", ac y gallai atal y Senedd rhag deddfu ar fwyd a rhai safonau amgylcheddol.

Dywedodd Llywodraeth y DU nad oes unrhyw ran o'r ddeddf yn newid pwerau datganoledig y Senedd a Llywodraeth Cymru.

Yn ei benderfyniad ddydd Llun fe wnaeth yr Uchel Lys wrthod yr achos, gan ddweud bod y cais am arolwg barnwrol wedi'i wneud yn "rhy gynnar".

Barn y llys oedd nad oes tystiolaeth bod Llywodraeth y DU yn bwriadu atal Llywodraeth Cymru rhag deddfu ar faterion datganoledig.

Beth ydy'r ddeddf?

Mae'r ddeddf - gafodd ei gwneud yn gyfraith ym mis Rhagfyr 2020 - yn dweud, os yw hi'n gyfreithiol gwerthu rhywbeth mewn un rhan o'r DU, y byddai modd ei werthu yn holl wledydd y DU.

Nod y mesur - ddaeth yn sgil ymadawiad y DU o'r Undeb Ewropeaidd - ydy helpu busnesau i osgoi rheolau sy'n ei gwneud yn anoddach i fasnachu ar draws ffiniau pedair gwlad y DU.

Ond mae Llywodraeth Cymru'n dweud ei bod yn tanseilio gallu'r Senedd i reoleiddio nwyddau a gwasanaethau.

Roedd seneddau datganoledig Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi penderfynu peidio â chymeradwyo'r mesur cyn iddi gael ei phasio yn San Steffan.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Jeremy Miles y gellir dehongli'r gyfraith fel ei fod yn gwrthddweud Deddf Llywodraeth Cymru (2006)

Pan lansiodd yr her gyfreithiol ym mis Ionawr dywedodd Mr Miles fod y ddeddf yn "ymosodiad" ar bwerau'r Senedd.

Mewn gwrandawiad yr wythnos ddiweddaf fe wnaeth y gweinidog ofyn i'r Uchel Lys roi caniatâd ar gyfer achos llawn rhwng y ddwy lywodraeth yn ddiweddarach eleni.

Ond dywedodd yr Arglwydd Ustus Lewis o'r Uchel Lys ddydd Llun nad oes hawl gan Lywodraeth Cymru i fynd ymlaen â'r achos gan nad yw'n gallu profi y bydd pwerau yn cael eu cymryd oddi arnynt, ac nad oes tystiolaeth bod Llywodraeth y DU yn bwriadu gwneud hynny.

"Byddai'n amhriodol i wneud penderfyniadau cyffredinol am y modd y gallai'r pwerau yn y ddeddf gael eu gweithredu," meddai.

Wrth ymateb i'r dyfarniad dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r cais wedi cael ei wrthod ar y sail ei fod yn rhy gynnar yn hytrach na bod dim modd ei ddadlau.

"Bydd ystyriaeth nawr yn cael ei roi i gamau pellach, gan gynnwys apêl."