Drakeford yn erbyn datganoli lles yn 'gyfan gwbl'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Dyn yn edrych drwy ffenestr Job Centre Plus yn BargoedFfynhonnell y llun, Matthew Horwood/Getty
Disgrifiad o’r llun,

Nid oes pwerau lles wedi cael eu trosglwyddo i Gymru

Mae'n well cadw pwerau dros fudd-daliadau lles a'r rhan fwyaf o drethi ar lefel y Deyrnas Unedig gyfan, meddai arweinydd Llafur Cymru.

Wrth siarad â phodlediad Walescast y BBC, dywedodd Mark Drakeford ei fod yn erbyn datganoli "y system fudd-daliadau a threthiant yn gyfan gwbl" oherwydd eu bod yn "rhan o'r glud sy'n dal y Deyrnas Unedig at ei gilydd".

Dywedodd Plaid Cymru bod Mr Drakeford yn blaenoriaethu'r undeb dros sosialaeth unwaith eto, mae'r Ceidwadwyr yn gwrthwynebu pwerau ychwanegol i'r Senedd, tra bod y Democratiaid Rhyddfrydol yn cefnogi datganoli budd-daliadau.

Mae Llywodraeth Cymru eisoes yn gyfrifol am rai trethi, gan gynnwys y dreth ar brynu tai a chyfran o'r dreth incwm, ond mae'r rhan helaeth o bwerau lles yn nwylo Llywodraeth y DU yn San Steffan.

'Hunan-reolaeth'

Ym mis Ionawr 2019, dywedodd Mr Drakeford ar lawr y Senedd y dylai Llywodraeth Cymru "archwilio datganoli gweinyddiaeth" budd-daliadau lles i Gymru.

Yng nghynhadledd wanwyn Llafur Cymru eleni, galwodd Mr Drakeford am fwy o bwerau i'r Senedd - "hunan-reolaeth i Gymru", meddai "mewn Deyrnas Unedig lwyddiannus".

Disgrifiodd Mr Drakeford "hunan-reolaeth" yn ei araith yn y gynhadledd fel "setliad datganoli mwy pwerus" i Gymru - llywodraeth "rhyngwladol, nid cenedlaethol; un sy'n wynebu tuag allan, nid tuag i mewn".

Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood/Getty
Disgrifiad o’r llun,

Mae Mark Drakeford wedi bod yn brif weinidog ac yn arweinydd Llafur Cymru ers mis Rhagfyr 2018

'Rhan o'r glud sy'n dal y DU at ei gilydd'

Gofynnwyd iddo ar Walescast am un gred wleidyddol sydd ddim yn cyd-fynd â weddill ei werthoedd.

Dywedodd: "Rwyf bob amser wedi bod yn ddatganolwr argyhoeddedig sydd bob amser wedi bod ar ben devo-max y sbectrwm.

"Ond nid wyf yn rhannu'r brwdfrydedd sydd gan rai o fy nghydweithwyr dros ddatganoli'r system fudd-daliadau a threthi yn gyfan gwbl.

"Rwy'n credu bod hynny weithiau yn fy synnu, ac mae'n bendant yn eu synnu nhw weithiau, oherwydd maent yn ddau beth sy'n rhan o'r glud sy'n dal y Deyrnas Unedig at ei gilydd ac, ar y cyfan, mae o ddiddordeb mawr i Gymru bod gennym y peiriannau hynny sy'n caniatáu ailddosbarthu yn y ffordd sosialaidd honno.

"Yn amlwg [nid yw] yn cael ei ddefnyddio yn y ffordd honno gan y llywodraeth bresennol, ond [gan] lywodraeth Lafur sydd â'i dwylo ar y liferi hynny sy'n caniatáu i chi ddefnyddio polisi macro-economaidd, yn ogystal â'r system nawdd cymdeithasol er budd y bobl hynny sydd ei angen fwyaf.

"Rwy'n dal i feddwl bod y rheiny'n bethau sy'n cael eu rhyddhau'n well ar lefel y DU," ychwanegodd.

Mae rhannau o'r system les eisoes wedi'u datganoli i Lywodraeth Yr Alban.

Yn 2019, canfu gwaith ymchwil gan Ganolfan Llywodraeth Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd y gallai trosglwyddo'r un buddion lles i Gymru roi hwb o £200m y flwyddyn i gyllideb Cymru.

Canfu pwyllgor cydraddoldeb trawsbleidiol y Senedd hefyd yn 2019 y gallai datganoli greu system fudd-daliadau mwy "tosturiol" ond na fyddai'n digwydd yn awtomatig.

Beth mae Plaid Cymru, Y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn ei ddweud?

Dywedodd Liz Saville Roberts, cyfarwyddwr ymgyrch etholiadol Plaid Cymru, fod "hunan-dwyll syfrdanol" safbwynt Mr Drakeford ar ddatganoli lles "yn gadael Cymru ar drugaredd llywodraethau Torïaidd olynol sydd â'r bwriad i wneud i'r tlotaf mewn cymdeithas dalu'r pris uchaf".

"Mae'r prif weinidog yn sgrablo i amddiffyn yr hyn na all ei amddiffyn - dyma'r enghraifft diweddaraf o flaenoriaethu ei undebaeth dros ei sosialaeth," meddai.

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, Andrew RT Davies: "Mae Ceidwadwyr Cymru wedi bod yn hollol glir; dim mwy o bwerau, dim mwy o drethi, dim mwy o anrhefn cyfansoddiadol.

"Ni yw'r unig blaid sy'n sefyll yn etholiad y Senedd mis Mai heb siarad am bwerau na'r cyfansoddiad, ond gyda'r unig ffocws ar adferiad economaidd Cymru."

Dywedodd Jane Dodds, arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, ei bod wedi ei "siomi" gan y sylwadau gan arweinydd Llafur Cymru.

"Nid yn unig y byddai datganoli lles yn ein rhoi ni'n fwy cyfartal â'r Alban, byddai am y tro cyntaf yn rhoi'r offer unigryw inni ddatrys y problemau y mae cymaint o gymunedau yma yn eu hwynebu," meddai.