Awgrymu codi £10,000 i newid enw o Gymraeg i Saesneg
- Cyhoeddwyd
Dylid codi'r gost o newid enw tŷ yng Ngwynedd o £55 i £10,000, er mwyn atal newid enwau o Gymraeg i Saesneg.
Yn ôl aelodau grŵp Y Blaid Genedlaethol (YBG) ar Gyngor Gwynedd, gallai'r arian gael ei ddefnyddio i ddysgu Cymraeg i fewnfudwyr.
Mae Cyngor Gwynedd yn dweud fod gan bobl hawl i ddewis enw ar eu cartref, ond y dylen nhw ystyried arwyddocâd diwylliannol a hanesyddol enwau lleol.
Cafodd 140 o enwau tai eu newid yn 2019 yn ôl y cyngor, ond dim ond chwech o'r rheiny oedd yn newidiadau o Gymraeg i Saesneg.
Ond mae'r mater wedi codi cryn sylw yn ddiweddar gyda'r newyddiadurwr Huw Edwards, y cyflwynydd Tudur Owen, a chyn-brif weinidog Cymru, Carwyn Jones, ymhlith y rhai sydd wedi codi llais, oherwydd ofnau fod hanes a diwylliant Cymru'n cael ei golli.
'Dibrisio ein diwylliant'
Does gan awdurdodau lleol ddim hawl cyfreithiol i wrthod cais i newid enwau i'r Saesneg, ond fel arfer maen nhw yn gofyn i ymgeiswyr feddwl dros y peth am bythefnos, cyn dod yn ôl gyda chais ffurfiol.
Mae'r Blaid Genedlaethol - nid Plaid Cymru - wedi ffurfio grŵp ar Gyngor Gwynedd yn ddiweddar ac yn dweud mai un o'u hamcanion yw i beidio "dibrisio ein diwylliant er mwyn hwylustod i dwristiaid."
Mae'r Blaid Genedlaethol yn blaid newydd dan arweiniad yr Aelod o'r Senedd dros Ganol De Cymru, Neil McEvoy. Ond mae'r Comisiwn Etholiadol yn ail-ystyried enw Cymraeg y blaid oherwydd pryder y gallai etholwyr ddrysu'r blaid a Phlaid Cymru.
Roedd cynnig y blaid ynglŷn â newid enwau tai yn un syml, meddai'r Cynghorydd Peter Read, sy'n cynrychioli ardal Abererch.
Galw am ddeddf i ddiogelu enwau
"Fe fydd perchnogion tai yn dal i allu newid enw Cymraeg ar eiddo, ond bydd rhaid talu crocbris er mwyn gwneud hynny," meddai.
"Os ydi rhywun yn barod i dalu swm felly er mwyn dileu ein treftadaeth, rydym yn credu y dylid defnyddio'r arian i gyfrannu at ddiogelu'r cyrsiau dwys y ceisiodd y cyngor eu torri yn y gorffennol.
"Unwaith y bydd deddfwriaeth genedlaethol yn ei le i ddiogelu enwau Cymraeg byddwn yn hapus i ostwng y pris eto," meddai.
Mewn ymateb dywedodd Cyngor Gwynedd ei fod yn gwerthfawrogi ofnau lleol fod newid a dileu enwau Cymraeg ar dai yn niweidiol i'n diwylliant ac yn cael effaith negyddol, ond y byddai swyddogion yn cysylltu â phobl mewn achosion o'r fath ac yn gofyn iddyn nhw ailystyried.
"Mae enwau tai o bwysigrwydd hanesyddol sylweddol gan eu bod yn adlewyrchu defnydd gwreiddiol eiddo, ei le o fewn y gymuned a nodweddion daearyddol lleol," meddai llefarydd ar ran y cyngor.
Mae deiseb yn galw am ddeddfu i ddiogelu enwau Cymraeg ar dai wedi denu dros 17,500 o gefnogwyr, ac mae disgwyl i'r Senedd drafod y mater yn fuan.
Yn 2017 methodd cais yn y Senedd i gyflwyno mesur ar enwau Cymraeg.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd15 Mawrth 2017