Ethol Comisiynwyr Heddlu a Throsedd ar gyfer Cymru
- Cyhoeddwyd
Ar yr un diwrnod ag etholiad Senedd Cymru ar 6 Mai bydd etholiad arall hefyd yn cael ei gynnal a hynny i ddewis y Comisiynwyr Heddlu a Throsedd.
Ond beth yw eu rôl a'u cyfrifoldebau a phwy sy'n eu hariannu?
Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am blismona Cymru ond er hynny nid oes gan San Steffan reolaeth lwyr.
Traean o gyllid lluoedd heddlu Cymru ar gyfer 2021-22 sy'n dod o'r Swyddfa Gartref, gyda'r gweddill yn dod o'r pwrs cyhoeddus Cymreig.
Mewn sawl ardal mae dros hanner cyllid yr heddlu wedi cael ei bennu gan y Comisiynydd Heddlu a Throsedd lleol wrth iddyn nhw osod y gyllideb.
Mae'r Comisiynwyr hefyd yn cael cyfrannu at y drafodaeth ar faint o dreth gyngor y dylid ei godi gan fod cyfran helaeth ohoni yn mynd tuag at ariannu'r heddlu. Mae'r gyfran honno'n cael ei chapio yn Lloegr, ond nid felly yma yng Nghymru.
Eleni, er enghraifft, mae'r dreth gyngor yn talu am 47% o gyllideb yr heddlu yng Nghymru. Daw'r gweddill, 18.6%, gan Lywodraeth Cymru.
Dyletswyddau
Prif waith yr heddlu yw delio gyda throseddau a dal drwgweithredwyr. Dyw'r rhan fwyaf o alwadau 999 ddim yn droseddau newydd - mae llawer yn ymwneud â phroblemau iechyd meddwl, pobl fregus a phobl sydd wedi mynd ar goll.
Mae'r heddlu yn cael eu galw yn aml i roi cymorth - does dim rhaid bod trosedd wedi'i chyflawni.
Y Comisiynydd Heddlu a Throsedd sy'n gyfrifol am bennu blaenoriaethau a'r ffordd orau i gydweithio gyda sefydliadau fel y Gwasanaeth Iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdodau lleol.
"Fe fyddan nhw'n gwrando ar bryderon y cyhoedd a'u pasio 'mlaen i'r Prif Gwnstabl," medd Allison Turner, cyn blismon sydd bellach yn ddarlithydd ym Mhrifysgol De Cymru.
"Fe fyddan nhw'n cydweithio ar gynllun heddlu a throsedd, sy'n cynnwys nifer o flaenoriaethau ar gyfer y gymuned leol."
Mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi dangos sut y mae modd i'r heddlu yng Nghymru weithio mewn ffordd wahanol wrth i'r ddwy lywodraeth, y naill ochr a'r llall o Glawdd Offa, greu rheolau gwahanol er mwyn delio gyda'r pandemig.
Mae'r Comisiynwyr Heddlu hefyd yn gyfrifol am ariannu gwasanaethau cefnogi troseddwyr sydd wedi bod yn gorddefnyddio cyffuriau ag sydd a phroblemau iechyd meddwl.
Pam bod yna Gomisiynwyr Heddlu a Throsedd?
Cafodd y Comisiynwyr Heddlu a Throsedd eu cyflwyno gan Lywodraeth San Steffan yn 2012, gan ddisodli'r awdurdodau heddlu wedi galwadau bod angen i'r broses o oruchwylio plismona fod yn fwy democrataidd.
"Mae nhw'n bont rhwng y cyhoedd a'r Prif Gwnstabl," ychwanega Allison Turner.
"Nhw sy'n gyfrifol am benodi a diswyddo'r Prif Gwnstabl, gan sicrhau fod y cyhoedd yn cael gwerth am eu harian.
"Bydd y comisiynydd hefyd yn craffu ar blismona ac yn sicrhau bod y Prif Gwnstabl yn atebol i'r ffordd y mae'r llu yn gweithredu. Mae Comisiynydd yr Heddlu hefyd yn atebol i'r cyhoedd."
Mae gofyn i bob Comisiynydd Heddlu a Throsedd dyngu llw i fod yn hollol ddiduedd wrth ymgymryd â'r rôl - hyd yn oed os ydy nhw'n aelodau o blaid wleidyddol.
Mae'r etholiad eleni yn cael ei gynnal mewn cyfnod di-gynsail, gyda'r pandemig yn golygu fod gan yr heddlu bwerau newydd.
Yn ogystal, fe allai Bil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a'r Llysoedd, sy'n mynd drwy'r senedd ar hyn o bryd, roi mwy o bwerau - mae'r bil am gyfyngu ar yr hawl i brotestio ac mae eisoes wedi arwain at wrthdaro rhwng yr heddlu a phrotestwyr.
Mae etholiad Comisiynwyr yr Heddlu a Throsedd yn digwydd bob pedair blynedd. Roedd yr etholiad i fod i ddigwydd yn 2020 ond oherwydd Covid-19 cafodd ei ohirio tan 6 Mai 2021.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd16 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd16 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd16 Ebrill 2021