Dwsinau o bobl yn ciwio dros nos i roi cynnig ar dai

  • Cyhoeddwyd
pobl yn ciwioFfynhonnell y llun, Gavin Williams
Disgrifiad o’r llun,

Bydd llawer o'r rhai fuodd yn ciwio yn gymdogion newydd i'w gilydd

Mae 13 o dai wedi'u gwerthu mewn llai na thair awr ar ôl i ddwsinau o bobl gysgu y tu allan i werthwr tai i roi cynnig am gartrefi newydd yn Aberdâr.

Cyrhaeddodd hyd at 30 o bobl Bidmead Cook ddydd Iau gyda chadeiriau, blancedi a prosecco, gan baratoi ar gyfer noson hir.

Dywedodd y gwerthwr tai Gavin Williams nad oedd erioed wedi gweld prynwyr yn ciwio dros nos.

Cafodd y golygfeydd eu disgrifio fel rhai "hollol boncyrs".

Roedd rhai wedi ciwio am fwy na 18 awr cyn i'r 14 cartref fynd ar werth.

Ffynhonnell y llun, Angharad Hamilton-Shaw
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Angharad (chwith) yn benderfynol o gael ei chartref newydd

Angharad Hamilton-Shaw, 32, o Gwmaman, oedd ar flaen y ciw ar ôl cyrraedd am 15:15 y diwrnod cynt.

"Yn wreiddiol roedden ni'n bwriadu mynd i giwio am hanner nos ond gyda mwy o ddiddordeb, fe aeth yr amser yn gynharach ac yn gynharach," meddai.

"Ac mae'n beth da wnaethon ni achos fe ddaeth y person nesaf am tua pedwar o'r gloch."

'Oer trwy'r nos'

Dywedodd Ms Hamilton-Shaw bod teulu a ffrindiau wedi ciwio trwy'r nos mewn shifftiau i wneud yn siŵr ei bod yn eu helpu i brynu ei chartref.

"Mae wedi bod yn emosiynol iawn - teimladau o gyffro a phryder," meddai.

"Roedd hi'n oer iawn trwy'r nos, ond roedd pawb mewn hwyliau da ac roedd hynny'n helpu i basio'r amser.

"Ac yn dechnegol mae'r rhai ohonom ni sydd â'r eiddo bellach i gyd yn gymdogion ac rydym wedi gwneud ffrindiau erbyn i ni symud i mewn."

Dywedodd y cyd-gyfarwyddwr gwerthwr tai, Jeanne Fry-Thomas, "na allai gredu fy llygaid" a bod cydweithwyr wedi dosbarthu coffi a thoesenni (doughnuts) dros nos i'r rhai oedd yn aros.

Mae gan y safle o'r enw Cwm Heulwen dai tair ystafell wely am bris o £184,950 a gyda chartrefi pedair gwely yn £320,000.

Ar hyn o bryd, pris tŷ ar gyfartaledd yng Nghymru yw £209,723, yn ôl Cymdeithas Adeiladu'r Principality.

Ffynhonnell y llun, Gavin Williams
Disgrifiad o’r llun,

Roedd pobl yn archebu pitsas a choffi wrth iddyn nhw giwio am dai

Dywedodd Ms Thomas fod prynwyr tai bellach yn chwilio am le ychwanegol.

"Mae pobl eisiau gerddi a mwy o le," meddai.

"Mae'n hollol boncyrs. Pobl leol, pobl sy'n symud o'r tu allan i'r ardal, buddsoddwyr - mae'n wallgofrwydd, ein swyddfeydd prysuraf yw holl swyddfeydd y cymoedd.

"Ac does gennym ni just ddim digon o stoc. Mae'r galw yno, ond does gennym ni ddim yr eiddo."

'Hollol anghredadwy'

Dywedodd Bidmead Cook fod y tai yn ail gam yn natblygiad gan y cwmni teuluol o Gymru, Davis Homes.

Dywedodd y datblygwr Matthew Davis, o Bontyclun: "Mae'r farchnad dai yn gryf ond mae hyn yn gwbl anghredadwy.

"Penderfynodd y ddynes gyntaf barcio a gwersylla ganol prynhawn a rhaid ei bod wedi creu sefyllfa lle roedd pobl yn meddwl y dylen nhw ddechrau ciwio hefyd."

Pynciau cysylltiedig