Etholiad 2021: Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
PendineFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r etholaeth yn gymysgedd o bentrefi bychan, trefi mwy a threfi glan môr fel Pentywyn

Mae etholaeth Gorllewin Sir Gâr a De Penfro wedi bod yng ngafael y Ceidwadwyr ers i Angela Burns ei chipio hi i'r Blaid Geidwadol oddi ar y Blaid Lafur yn 2007.

Y tro yma mae yna saith ymgeisydd yn cystadlu am y sedd a phob un ohonyn nhw yn ddynion.

Oes yna bosibilrwydd y gallai'r sedd newid dwylo unwaith eto? Dim ond 250 oedd yn gwahanu'r Ceidwadwyr ddaeth yn gyntaf yn 2007 a Phlaid Cymru a ddaeth yn drydydd.

Ers hynny, mae'r Ceidwadwyr wedi cael gafael mwy cadarn ar y sedd, gyda mwyafrif o 1,504 yn 2011 a 3,373 yn 2016.

Disgrifiad o’r llun,

Mae etholaeth Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro yn cwmpasu nifer o drefi - yn eu plith Caerfyrddin

Sedd yw hon sydd yn cwmpasu pentrefi gwledig fel Llanboidy, Cynwyl Elfed, Llangynin a Llanpumsaint, a threfi fel Sanclêr, Hendy-gwyn ar Daf ac Arberth, ynghyd â thref Caerfyrddin ei hun.

Mae'r etholaeth hefyd yn ymestyn i drefi glan môr Penfro a Doc Penfro yn ne Sir Benfro.

Mae adferiad yr economi ar ôl Covid-19 yn debygol o fod yn un o'r pynciau llosg, ynghyd â pholisïau Llywodraeth Cymru ym maes amaethyddiaeth.

Mae'r polisi i gyflwyno rheolau llymach ar draws Cymru i geisio rheoli llygredd amaethyddol wedi bod yn amhoblogaidd tu hwnt gyda ffermwyr, a gyda nifer o ffermydd llaeth anferth yn yr etholaeth a nifer o fusnesau lleol yn dibynnu ar ffermio, tybed a fydd hynny yn dylanwadu ar y canlyniad?

Ers 2007, mae Angela Burns, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar faterion iechyd, wedi gwasanaethu fel yr aelod lleol, ond mae hi'n ildio'r awennau eleni.

Disgrifiad o’r llun,

Sam Kurtz yw ymgeisydd y Ceidwadwyr yn etholaeth Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro

Mae'r Ceidwadwyr yn gobeithio mai gwleidydd 29 oed uchelgeisiol o Ben-caer yn Sir Benfro fydd yn ei holynu.

Er nad yw'n byw yn yr etholaeth, mae Sam Kurtz yn gyn-newyddiadurwr gyda phapurau newydd y Pembrokeshire Herald a'r Western Telegraph, ac yn is-gadeirydd Ffermwyr Ifanc Sir Benfro.

Mae'n dweud taw ei brif ffocws fydd adferiad trefi bach fel Sanclêr, Hendy-gwyn ac Arberth ar ôl y pandemig.

"Yr economi yw'r pwnc pwysicaf. Sicrhau fod yna swyddi i bobl ifanc. Mae hwnna yn hollol bwysig," meddai.

"Gall pobl ifanc bleidleisio i ailagor yr economi a sicrhau fod ein diwydiant yn cael y cymorth sydd angen gan y llywodraeth yn y Senedd.

"Ry'n ni mo'yn gwneud y lle yma yn well. Prosiectau fel ffordd ddeuol yr A40, sicrhau bod hynny yn cael ei wneud. Ni eisiau bod yn uchelgeisiol.

"Mae pobl yn gweld y Senedd yn edrych ar ôl Caerdydd, fe fyddwn ni yn llywodraeth dros Gymru gyfan."

Ymddiheuriad

Yn fuan ar ôl iddo gael ei ddewis fel ymgeisydd swyddogol bu'n rhaid i Mr Kurtz ymddiheuro ar ôl iddi ddod i'r amlwg ei fod wedi gwneud sylwadau sarhaus am bobl hoyw ac am fenywod pan oedd yn y brifysgol, rhyw wyth mlynedd yn ôl.

"Dwi wedi ymddiheuro am hyn," meddai. "We ni'n ifanc, a beth wnes i sgwennu bryd hynny, dwi ddim yn cytuno gyda. Dwi wedi tyfu lan. Sai'n credu beth sgwennais i."

Disgrifiad o’r llun,

Cefin Campbell sy'n sefyll ar ran Plaid Cymru

Kurtz yw'r ffefryn clir i ddal ei afael ar y sedd, er bod gan Blaid Cymru ymgeisydd profiadol iawn sydd yn cael derbyniad da yn lleol.

Mae'r Cynghorydd Cefin Campbell yn aelod blaenllaw o Fwrdd Gweithredol Cyngor Sir Gâr ac mae'n hyderus y gall y Blaid herio'r Ceidwadwyr.

"Rwy'n gobeithio fod pobl yn gweld beth sydd yn digwydd yn Llundain. Ni'n gweld plaid Dorïaidd sydd yn llwgr, yn gwobrwyo cefnogwyr eu hunain. Mae cronyism yn rhemp," meddai.

"Mae hefyd yn anghofio fod 12 mlynedd o lymder o doriadau.

"Ac mae'r un blaid yn holi pam nad oes mwy o arian yn cael ei fuddsoddi mewn addysg a ffyrdd, heb sylweddoli mai dyma'r toriadau sydd yn dod gan y Blaid Dorïaidd.

"Ry'n ni wedi lansio maniffesto sydd yn llawn syniadau radical a thrawsffurfiol. Mae'r syniadau hyn yn cynnig newid byd i bobl yng Nghymru, a ni sydd â'r rhaglen fwyaf cyffrous."

Disgrifiad o’r llun,

Riaz Hassan sy'n cynrychioli'r Blaid Lafur

O 1999 tan 2007, Christine Gwyther o'r Blaid Lafur oedd yn dal y sedd. Eleni, mae'r blaid wedi dewis Riaz Hassan fel ei hymgeisydd.

Mae'n byw yn Abertawe, a does ganddo ddim cysylltiad amlwg gyda'r etholaeth.

Mae'n mynnu nad yw hynny yn wendid, ond mewn etholaeth gymharol wledig, sydd yn rhoi pwyslais mawr ar gysylltiadau lleol, mi allai hynny gostio'n ddrud i'r Blaid Lafur.

Mae Mr Hassan yn dweud fod arweiniad Mark Drakeford wedi bod yn hollbwysig yn ystod y pandemig.

"Mae gyda ni brofiad. Mae arweiniad Mark Drakeford wedi bod yn gadarn yn ystod cyfnod o ansicrwydd, fel ein bod ni gyd yn teimlo yn ddiogel," meddai.

"Mae e'n cynnig arweiniad cynhwysol i symud Cymru ymlaen. Fe fyddwn ni yn canolbwyntio ar yr adferiad.

"Mae angen arweiniad y gallwn ni ymddiried ynddo. Gallwn ni ddim â fforddio cael arweiniad newydd. Mae angen Mark Drakeford i'n harwain ni drwy'r pandemig."

Wrth ymateb i'r feirniadaeth nad yw yn ymgeisydd lleol dywedodd: "Mae hi'n 27 milltir o fy nghartref i'r etholaeth. Dwi ddim o'r tu allan. Dwi wedi gweithio yma o'r blaen ym maes addysg a chydlyniant cymdeithasol. Pan fydda i yn ennill, rwy'n addo symud i'r etholaeth."

Mae angen porwr modern gyda JavaScript a chysylltiad rhyngrwyd sefydlog i weld yr elfennau rhyngweithiol hyn. Mwy o wybodaeth am yr etholiadau hyn

Sylwer: Efallai y bydd etholiadau cynghorau plwyf neu is-etholiadau mewn cynghorau hefyd lle rydych chi, nad ydyn nhw wedi'u cynnwys fan hyn. Edrychwch ar wefan eich cyngor lleol am fanylion llawn. Diweddarwyd ddiwethaf: May 11, 2021, 12:35 GMT
Disgrifiad o’r llun,

Paul Dowson sy'n sefyll ar ran UKIP

Yn etholiad 2016, fe berfformiodd UKIP yn gryf yn yr etholaeth gan ennill 3,300 o bleidleisiau, yn bedwerydd ar ôl Plaid Cymru.

Go brin y bydd UKIP yn cael canlyniad tebyg y tro hwn, gyda'r blaid wedi symud tuag at y dde yn dilyn y bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae UKIP wedi dewis y Cynghorydd Paul Dowson fel ei hymgeisydd - cymeriad hynod o ddadleuol sydd wedi rhannu llwyfan gyda'r grwp asgell dde Voice of Wales.

Bu'n ymgyrchu yn erbyn presenoldeb ceiswyr lloches yng ngwersyll Penalun ger Dinbych-y-pysgod, ac mae'n sicr o rannu barn yn lleol, ac o bosib, o ddenu pleidleisiau gan y Ceidwadwyr.

Mae'n feirniadol iawn o ddylanwad Llywodraeth Cymru ar yr ardal.

"Mae'n waradwyddus, yn ofnadwy. Dwi ddim yn credu bod nhw'n poeni am y rhan yma o Gymru," meddai.

"Penderfynodd Drakeford i agor Cymru lan fel cenedl noddfa i ffoaduriaid a cheiswyr lloches, ac mae hynny yn gwahodd mewnfudo. Fe gostiodd hi filiwn o bunnau i redeg gwersyll Penalun.

"Fe wnes i brotestio pan roedd cynghorwyr eraill yn chwarae'r gêm ac yn moesymgrymu gerbron y Marcsiaid."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Alistair Cameron yn sefyll ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol

Canolbwyntio ar yr adferiad gwyrdd mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn lleol. Alistair Cameron yw ei hymgeisydd.

"Mae angen i ni feddwl am y dyfodol, oherwydd mae gymaint o bobl wedi colli eu gwaith yn lleol. Mae'n rhaid i'r llywodraeth newydd yn y Senedd flaenoriaethu'r adferiad," meddai.

"Mae'r adferiad gwyrdd yn bwysig iawn i'r etholaeth yma. Ry'n ni am sicrhau fod pob cartref newydd sydd yn cael ei adeiladu yn cael ei godi yn unol â'r safonau uchaf. Mae hyn yn medru darparu swyddi hefyd."

Disgrifiad o’r llun,

Peter Prosser yw ymgeisydd Reform UK yn etholaeth Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro

Mae Peter Prosser, ymgeisydd Reform UK, hefyd ar adain dde gwleidyddiaeth. Mae'n dweud ei fod e'n ymgyrchu dros blant yr etholaeth.

"Mae'r Senedd yn bwriadu gorfodi addysg grefyddol a rhyw ar blant, ac rwy'n gryf yn erbyn hynny. Dwi ddim yn hapus gyda beth maen nhw'n bwriadu dysgu i blant," meddai.

"Mae'r mesur wedi cael ei basio heb gydsyniad gwirioneddol. Dyw hi ddim yn iawn fod yna addysg grefyddol sydd yn gorfodi chi i ddysgu am bethau nad yw eich rhieni am i chi wybod amdano.

"Mae'n bygwth ein rhyddid ni. Dwi ddim yn credu bod yr ardal hon wedi cael ei chynrychioli yn dda iawn gan y Senedd, a dyna pam dwi'n sefyll fel ymgeisydd. Dwi ddim yn cytuno gyda datganoli. Prydain Fawr ydym ni."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Jon Harvey yn ymgeisydd annibynnol

Mae'r pwyslais ar faterion lleol yn glir ym maniffesto yr ymgeisydd Annibynnol, y Cynghorydd Jon Harvey.

Mae'n gwrthwynebu is-raddio pellach o Ysbyty Llwynhelyg, ac yn ymgyrchu dros godiadau cyflog i weithwyr y gwasanaeth iechyd.

Mae'n galw hefyd am feithrin busnesau a darparu swyddi sydd yn talu yn dda ar gyfer pobl leol.

"Does yna ddim gwleidyddiaeth bleidiol, dim sbin gwleidyddol - dim ond eich ymgeisydd Annibynnol yn ymladd dros faterion lleol ar y llwyfan cenedlaethol," meddai.

Rhestr ymgeiswyr

  • Alistair Ronald Cameron, Democratiaid Rhyddfrydol

  • Cefin Arthur Campbell, Plaid Cymru

  • Paul Haywood Dowson, UKIP

  • Jon Harvey, Annibynnol

  • Riaz Hassan, Llafur

  • Samuel Deri Kurtz, Ceidwadwyr

  • Peter Graham Prosser, Reform UK

Pynciau cysylltiedig