'Rwyf eisiau i bobl deimlo bod eu pleidlais wedi cyfri'
- Cyhoeddwyd
Mae plaid Reform UK yn galw am newid i'r ffordd y mae aelodau Senedd Cymru'n cael eu hethol fel bod pobl yn teimlo "y bydd eu pleidlais yn cael ei gyfri".
Dywed arweinydd Cymreig y blaid, Nathan Gill, ei fod eisiau system fwy cyfrannol ac mae'n gobeithio taw dyma fydd etholiad olaf y Senedd i ddefnyddio'r drefn 'cyntaf heibio'r postyn'.
Mae hefyd o blaid prif weinidog wedi ei ethol yn uniongyrchol.
Mr Gill wnaeth arwain ymgyrch plaid UKIP a lwyddodd i gipio saith sedd ym Mae Caerdydd yn 2016.
Wedi anghytuno o fewn y blaid honno, fe adawodd y grŵp ym mis Awst 2016 i fod yn aelod annibynnol.
Yn Rhagfyr 2017, cafodd Mr Gill ei gyhuddo gan wleidydd Plaid Cymru o fradychu pleidleiswyr trwy fethu â mynychu sesiynau yn y Cynulliad, fel ag yr oedd y Senedd ar y pryd.
Ag yntau hefyd yn aelod o Senedd Ewrop ar y pryd, fe ymddiswyddodd Mr Gill fel AC yn ddiweddarach yn yr un mis.
Gofynnwyd iddo ar raglen Politics Wales BBC Cymru pam ddylai pobl fwrw pleidlais drosto ar sail ei brofiadau blaenorol ym Mae Caerdydd.
Atebodd: "Gan fod fy rôl a'r holl reswm dros gael fy ethol yn y lle cyntaf yn ymwneud â Brexit, ynghylch cael Prydain allan o'r UE."
Reform UK yw enw newydd Plaid Brexit, a gafodd ei sefydlu gan gyn arweinydd UKIP, Nigel Farage, i ymgyrchu yn etholiadau Senedd Ewrop yn 2019.
POLISÏAU: Cymharwch addewidion y pleidiau
DWY GROES MEWN DAU FLWCH: Pam bod gennych chi ddwy bleidlais?
PWY SY'N SEFYLL YN FY ARDAL I?: Rhowch eich cod post yn y blwch
PODLEDIAD: Croes yn y bocs
Pan ofynnwyd a yw'r blaid yn cael trafferth bod â rheswm i fodoli wedi Brexit, atebodd Mr Gill: "Mae gyda ni bwrpas yn bendant... dyna enw'r blaid, Reform UK.
"Rydym eisiau diwygio cryn dipyn o'r pethau ynghylch y ffordd rydym yn cael ein llywodraethu, pethau ynghylch y ffordd y mae'r wlad yn gweithredu a rhai o'r materion mawr, fel y BBC hyd yn oed a'r ffordd rydym yn talu ffi am drwydded.
"Nid yw dod o hyd i bwrpas yn broblem" ychwanegodd.
Mae Reform UK wedi gwneud addewid i bleidleiswyr na fyddai'r blaid yn gweithredu rhagor o gyfnodau clo oherwydd y pandemig.
O fewn "contract" y blaid gydag etholwyr, dywedodd y byddai hefyd yn mynd i'r afael â'r holl driniaethau sydd wedi pentyrru o fewn y GIG ac yn dileu trethi busnes.
Mae Politics Wales ar gael ar iPlayer.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Mawrth
- Cyhoeddwyd24 Mawrth 2021