Cymuned wedi 'syfrdanu' gan benderfyniad i werthu tai

  • Cyhoeddwyd
bwythyn

Mae yna alwad am drosglwyddo dau dŷ elusennol hynafol yn Llangwnnadl ym Mhen Llŷn i ofal y gymuned leol yn hytrach na'i gwerthu ar y farchnad agored.

Mae ymddiriedolwyr Elusen Llain Fatw wedi rhoi'r tai ar werth am amcanbris o £175,000.

Ond yn ôl ymgyrchwyr lleol dylid trosglwyddo'r tai i'r gymuned i gael darparu cartrefi i bobl y cylch.

Dywedodd Margiad Roberts, sy'n byw yn lleol, bod Tai Llain Fatw, adeiladau rhestredig Gradd II, yn arbennig iawn am nifer o resymau.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Margiad Roberts fod y tai wedi eu hadeiladu yn y dull traddodiadol

"Dyma enghraifft berffaith o dŷ mwd ym Mhen Llŷn," meddai.

"Fel hyn oedan nhw i gyd yn cael eu codi a welwch chi drwch y waliau.

"Mae'n debyg bod nhw yn eithriadol o gynnes….rhai da i gadw gwres i mewn," meddai am y tai sydd â tho sinc ac wedi eu peintio'n binc.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r tai pinc wedi eu hadeiladu o bridd

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r bythynnod ar y ffordd i lawr am Borth Colmon

"Tai Elusen ydan nhw ac mi roddodd Richard Griffiths, Pen yr Orsedd, Llangwnnadl arian ar gyfer eu prynu yn 1788, " meddai Ms Roberts.

"Wedyn person y plwy oedd yn gyfrifol fel ymddiriedolwr amdanyn nhw ac ma' nhw wedi cael eu rhoi ar rent ers 1788 ymhell dros 200 mlynedd yn ôl.

"Mae pawb wedi eu syfrdanu bod nhw ar werth... roedd y gymuned wedi meddwl ers erioed mai y nhw sydd yn berchen y tai yma….tai i'r gymuned sydd wedi bod yn gartrefi cyntaf i lawer o bobl ifanc."

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Sian Parri fod yna brinder tai ar gyfer pobl leol

Sian Parri ydi Cadeirydd Cyngor Cymuned Tudweiliog a dywedodd ei bod am weld y tai yn cael eu tynnu oddi ar y farchnad ac yn cael eu trosglwyddo i'r gymuned.

Y gobaith, meddai, oedd eu hadnewyddu a'i gosod i bobl leol.

"Mae pobl ifanc yn awyddus i sefydlu rhywbeth newydd yn y gymuned er mwyn trio gwneud rhywbeth i ateb y broblem o ddiffyg tai i bobl leol yng ngwyneb y mewnlifiad a'r tai haf sydd yn digwydd yn yr ardal yma, ac efo sefyllfa'r Covid rwan.

"Mae'r sefyllfa gan gwaith yn waeth nag oedd hi flwyddyn yn ôl.

"Dwi ddim yn meddwl bod ni wedi gweld yr effaith ar ein cymunedau Cymraeg ni hyd yn hyn'.

Mae Richard Wood, ficer eglwysi Bro Madryn, yn llefarydd ar ran Elusen Llain Fatw a dywedodd nad oedd am ymateb ar hyn o bryd i'r alwad iddyn nhw dynnu'r tai oddi ar y farchnad a'u trosglwyddo i'r gymuned leol.

Yn ôl ymgyrchwyr mae cynigion am y tai i fod i mewn gyda'r arwerthwyr erbyn ddydd Gwener.

Pynciau cysylltiedig