'Y dyn o'r Barri a ryddhaodd Nelson Mandela'
- Cyhoeddwyd
Yn 1991 cafodd deddfwriaeth ei basio yn Ne Affrica yn datgan y dylai system apartheid y wlad ddod i ben. Blwyddyn ynghynt cafodd Nelson Mandela ei ryddhau o'r carchar, ac yn 1994 aeth ymlaen i fod yn Arlywydd y wlad.
Roedd gan un gŵr o'r Barri, Abdulrahim Abby Farah, rôl bwysig yn y broses o ddiweddu apartheid.
Yma mae'r academydd Dr Ian James Johnson, sydd hefyd o'r Barri, yn adrodd hanes y dyn a oedd rhwng 1979 a 1990 yn gweithio fel Is-ysgrifennydd-Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig - yr ail swyddog uchaf yn yr holl sefydliad.
Yn wreiddiol o'r Barri, roedd Abdulrahim Abby Farah yn ffigwr gwleidyddol allweddol a dreuliodd ei yrfa yn gweithio ar lefel rhyngwladol yn erbyn system apartheid De Affrica.
Roedd apartheid yn golygu 'arwahanrwydd' yn yr iaith Afrikaans. Trefniant cymdeithas ar sail hil oedd hyn, a oedd yn weithredol rhwng 1948 a'r etholiad rhydd cyntaf ar 27 Ebrill, 1994.
Trefnwyd boicot economaidd a diwylliannol byd-eang yn erbyn llywodraeth hiliol De Affrica. Roedd protestiadau yn erbyn busnesau a thimau chwaraeon oedd yn ymweld â'r wlad dros gyfnod o ddegawdau.
Roedd gan Abdulrahim Abby Farah ran allweddol yn y frwydr hon, fel cynrychiolydd Somalia yn y Cenhedloedd Unedig, yn cadeirio'r Pwyllgor Arbennig yn erbyn Apartheid (UN Special Committee Against Apartheid). Bu hefyd yn arwain dirprwyaeth y Cenhedloedd Unedig i Dde Affrica yn 1990, gan adrodd yn ôl am ymdrechion llywodraeth FW de Klerk i ddod ag apartheid i ben.
Dociau'r Barri
Cafodd Farah ei eni yn ardal aml-ddiwylliannol Dociau'r Barri yn 1919, a oedd bryd hynny yn un o ddociau pwysicaf y byd. Ond roedd Dociau'r Barri hefyd yn lleoliad terfysg hil ar y pryd - rhywbeth oedd yn digwydd yn nhrefi a dinasoedd de Cymru ac ar draws Loegr y flwyddyn honno. Roedd ei dad yn ddyn busnes o Somalia, a'i fam yn dod o Loegr.
Ar ôl cwblhau ei addysg ysgol yn Y Barri aeth Farah i weithio yn Hargeisa yn Nwyrain Affrica. Pan ddechreuodd yr Ail Ryfel Byd, roedd e'n aelod o'r Gwasanaeth Arfog, cyn dychwelyd i Ewrop gan astudio ar gyfer gradd mewn Gweinyddiaeth Cyhoeddus yng Nghaerwysg a Rhydychen.
Aeth nôl i Somalia Brydeinig, fel oedd yn cael ei alw ar y pryd, ble roedd e'n gweithio yn y gwasanaeth sifil ac yn paratoi'r llwybr at Somalia annibynnol. Daeth annibyniaeth swyddogol yn 1960 gan uno tiriogaeth Prydain yng ngogledd Somalia (a oedd yn cynnwys Hargeisa) gyda'r diriogaeth a oedd yn nwylo'r Eidal yn y dwyrain a'r de, a oedd yn cynnwys y brifddinas newydd, Mogadishu.
Ers 1991, mae'r gogledd, sef yr hen dir Prydeinig, wedi datgan annibyniaeth fel Somaliland, ond dydi'r wlad hon heb ei chydnabod yn rhyngwladol.
Y Cenhedloedd Unedig
Yn dilyn annibyniaeth Somalia, cafodd Farah ei benodi fel llysgennad y wlad i Ethiopia, y wlad drws nesaf. Roedd hon yn swydd bwysig ar y pryd gan fod ffrae ynglŷn â'r ffiniau rhwng y ddwy wlad, ac fe arweiniodd hyn at ryfel rhyngddyn nhw yn y 1970au.
Cafodd Farah ei benodi'n Gynrychiolydd Parhaol (Permanent Representative) Somalia i'r Cenhedloedd Unedig yn Efrog Newydd yn 1965, lle wnaeth ei farc ar y byd.
Yn 1968 fe gadeiriodd Farah gyfarfod llawn Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig gan drafod apartheid, a blwyddyn yn ddiweddarach daeth yn gadeirydd ar bwyllgor arbennig yn erbyn apartheid am dair blynedd, rhwng 1969 a 1972.
'Apartheid yw caethwasiaeth yr ugeinfed ganrif' ysgrifennodd mewn erthygl yn 1970 am y sefyllfa yn Ne Affrica, gan atgyfnerthu ei gred a'i rwystredigaeth o'r hyn yr oedd yn gweld yno.
Ar ddechrau 1972 cafodd Abdulrahim Abby Farah y fraint o fod yn llywydd cyfarfod Y Cyngor Diogelwch ar ran Somalia, yn trafod 'Cwestiynau perthnasol i Affrica', gan gynnwys y sefyllfa yn Namibia, Rhodesia ac, wrth gwrs, apartheid.
Addis Ababa, prifddinas Sudan, oedd lleoliad y cyfarfod dan nawdd yr Ymerawdwr Haile Sailassie. Hwn oedd y tro cyntaf mewn ugain mlynedd i'r Cyngor Diogelwch gwrdd i ffwrdd o'u pencadlys yn Efrog Newydd - a'r unig dro iddyn nhw gwrdd yn Affrica yn yr ugeinfed ganrif.
Brwydro yn erbyn apartheid
Tra roedd yn byw yn Efrog Newydd cafodd ei benodi'n is-ysgrifennydd cyffredinol i'r Cenhedloedd Unedig. Fe oedd â'r cyfrifoldeb dros faterion gwleidyddol yn ystod yr 1980au a gweithio tuag at gonsensws rhyngwladol i stopio apartheid.
Fe lwyddodd i wneud hyn erbyn diwedd y ddegawd - adeg lle roedd tensiwn y Rhyfel Oer rhwng y pwerau Gorllewinol a'r Undeb Sofietaidd yn dal i fodoli.
Ar ddiwedd 1989 fe wnaeth cyfarfod Cynulliad Lawn y Cenhedloedd Unedig dderbyn 'Datganiad ar Apartheid a'i Ganlyniadau Distrywiol yn Ne Affrica'.
Ar ôl degawdau o bwysau cynyddol rhyngwladol daeth ymateb bron yn syth. O fewn dau fis cafodd Nelson Mandela, arweinydd gwrthblaid De Affrica, yr ANC, ei ryddhau o'r carchar wedi 27 mlynedd ar Robben Island. Am hyn, cafodd Farah ei ddisgrifio fel 'y dyn o'r Barri a ryddhaodd Nelson Mandela'.
Ond allwch ddim newid degawdau o hiliaeth sefydliadol dros nos, felly yn 1990 sefydlwyd dirprwyaeth dan oruchwyliaeth Farah i gadw golwg ar y camau yr oedd Llywodraeth De Affrica yn ei gymryd, a sicrhau bod addewidion yn cael eu cadw ar lawr gwlad.
Fel arwydd o ewyllys da gan Lywodraeth De Affrica cafodd 48 o garcharorion gwleidyddol, y rhan fwyaf yn aelodau o'r ANC, eu rhyddhau i gyd-fynd gyda mynediad ei ddirprwyaeth i'r wlad ar ddechrau mis Mehefin 1990.
Fe wnaeth Farah gwrdd gyda bron i 40 o grwpiau ac arweinwyr ar draws y wlad i gymryd tystiolaeth er mwyn cadarnhau bod llywodraeth a chymdeithas De Affrica ar y llwybr cywir i gynnig tegwch i'r holl ddinasyddion.
Wedi i ymchwiliad Farah ddod i ben fe wnaeth Nelson Mandela annerch y Cenhedloedd Unedig, ac yn 1994 fe enillodd etholiad hanesyddol, rydd, yn Ne Affrica.
Bu farw Abdulrahim Abby Farah yn Efrog Newydd yn 2018, yn 98 mlwydd oed.
Hefyd o ddiddordeb: