Ailagor canolfan ddydd Capel y Waen wedi 'cyfnod anodd'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Capel y WaenFfynhonnell y llun, Capel y Waen
Disgrifiad o’r llun,

Bydd achos dathlu eto yr wythnos hon wrth i'r ganolfan ddydd ailagor wedi'r cyfnod clo

"Ry'n ni wedi bod yn edrych ymlaen gymaint at ddydd Iau pan fydd modd ailagor canolfan ddydd Capel Waengoleugoed a darparu unwaith eto y gofal y mae henoed a phobl sâl yr ardal wir ei angen," medd yr Athro Mari Lloyd-Williams.

"Mae hi wedi bod yn gyfnod anodd a phryderus iawn - i unigolion ond i deuluoedd pobl sâl hefyd.

"Weithiau mae'r teuluoedd sy'n gofalu o ddydd i ddydd wedi stryglo mwy ac mae'r gofal 'dan ni yn ei ddarparu yn rhoi seibiant i ofalwyr. Roedd cau am wythnosau dibendraw yn anodd i ni gyd.

"Er ein bod wedi bod yn darparu pecynnau crefft ac anrhegion 'Dolig a Phasg yn ystod y cyfnod clo dydy o ddim yr un fath â chynnig y gofal dydd."

Ffynhonnell y llun, Capel y Waen
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ganolfan yn darparu gofal dydd ddwy waith yr wythnos i 60 o bobl

Mae canolfan Capel y Waen ger Llanelwy wedi bod yn darparu gofal dydd i henoed a phobl sâl yr ardal ers yn agos i 10 mlynedd - mae'r cyfan yn wirfoddol ac yn costio dros £30,000 y flwyddyn.

Gofal am un diwrnod yr wythnos oedd ar gael i ddechrau ond oherwydd cymaint y galw mae'r ganolfan bellach yn darparu gofal am ddeuddydd yr wythnos i oddeutu 60 o bobl.

Ffynhonnell y llun, Prifysgol Lerpwl
Disgrifiad o’r llun,

"Mae wedi bod yn gyfnod anodd i nifer - yn enwedig i ofalwyr," medd yr Athro Mari Lloyd-Williams

"'Dan ni'n trefnu cludo pawb yma, yn trefnu bwyd a gweithgareddau a does yna ddim cost o gwbl - ry'n ni'n gwbl ddibynnol ar roddion," meddai'r Athro Lloyd-Williams.

"Cyn y cyfnod clo dim ond dwywaith yr oedden ni wedi gorfod cau a hynny oherwydd eira.

"Yn ffodus mi lwyddon ni i agor rhwng Medi a Rhagfyr y llynedd wedi'r cyfnod clo cyntaf ac er bod y cyfan yn llawer o waith roedden ni'n hynod o falch ein bod wedi llwyddo i gadw pawb yn ddiogel."

Ffynhonnell y llun, Capel y Waen
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ganolfan yn darparu amrywiol weithgareddau

Ychwanegodd: "Ry'n ni bellach wedi symud o'n hestyniad bach lyfli i'r capel ei hun.

"Mae'r adeilad yn fwy addas - mae yna nenfwd uchel a digon o fentiau i adael yr aer i mewn ac mae modd gadael drysau a ffenestri yn agored.

"Ond mae'r cyfan yn llawer mwy o waith - bydd rhaid glanhau yn gwbl drwyadl yn gyson.

Bydd rhaid i bawb gael bwrdd ei hun ar gyfer gwneud gweithgaredd a bydd rhaid i ni dreulio mwy o amser tu allan."

Cais am flancedi

Oherwydd yr angen i fod allan mwy mae'r ganolfan yn galw am flancedi gwely sengl i gadw pobl yn gynnes.

Ffynhonnell y llun, Capel y Waen
Disgrifiad o’r llun,

Bydd angen bod allan fwy wedi'r cyfnod clo ac mae yna gais am flancedi

"Dwi'n ofni y bydd rhaid iddyn nhw fod yn flancedi newydd ond petai rhywun yn dymuno anfon rhai atom fe fyddai hynna yn gymorth mawr," ychanegodd yr Athro Lloyd-Williams.

"Tîm bach iawn ohonom sy'n gwirfoddoli yma ond mae pawb yn gweithio mor galed. Mae'n wych gallu ailagor eto wedi cyfnod rhwystredig iawn.

"Eleni fe fydd y ganolfan yn ddeg oed ac mae'r pen-blwydd yn rhywbeth ry'n ni gyd yn edrych ymlaen ato yn fawr iawn."