'Prinder dychrynllyd' radiolegwyr yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
SganFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan Gymru 38% yn llai o ymgynghorwyr na'r angen i ateb y galw, yn ôl Coleg Brenhinol y Radiolegwyr

Gallai "prinder dychrynllyd" mewn meddygon delweddu beryglu diogelwch cleifion a'i gwneud yn "anodd iawn" i dorri rhestrau wnaeth ddatblygu yn ystod y pandemig Covid-19, yn ôl arbenigwyr.

Mae Coleg Brenhinol y Radiolegwyr (RCR) wedi rhybuddio mai Cymru sydd â'r prinder gwaethaf yn y DU, gyda 38% yn llai o ymgynghorwyr na'r angen i ateb y galw.

Yn ôl elusennau, mae'r ffigyrau'n frawychus.

Mae pleidiau sy'n brwydro i arwain llywodraeth nesaf Cymru yn dweud y byddan nhw'n recriwtio mwy o staff i'r GIG.

Gweithwyr yn 'ddigalon'

Mae'r RCR yn amcangyfrif bod angen i'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru recriwtio 97 yn fwy o radiolegwyr i ateb y galw cynyddol - ond mae ei ymchwil yn awgrymu na fu cynnydd yn nifer yr ymgynghorwyr yma yn 2019-20.

Mae'n rhybuddio y gallai'r sefyllfa waethygu, gyda'i arolwg yn awgrymu bod 11% o radiolegwyr yng Nghymru yn bwriadu gadael y GIG y flwyddyn nesaf, a 43% o'r rhai sy'n aros ymlaen yn bwriadu lleihau eu horiau.

Hefyd, mae cyfran sylweddol o weithlu radiolegwyr Cymru, meddai'r RCR, yn teimlo'n "ddigalon".

Mae meddygon yn dweud eu bod yn poeni nad oes digon o ymgynghorwyr i gadw cleifion yn ddiogel, a bydd y prinder yn ei gwneud yn anodd iawn i ddelio ag ôl-groniad sylweddol o brofion a thriniaethau a ddatblygodd yn ystod y pandemig.

Mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos ym mis Chwefror bod mwy na hanner miliwn o bobl ar restrau aros yng Nghymru, a bu'n rhaid i 20,548 o gleifion yma aros dros wyth wythnos am sgan ar ôl cael eu cyfeirio gan ymgynghorydd neu feddyg teulu - 33 gwaith yn uwch nag ar yr un adeg y llynedd.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dr Toby Wells fod "ôl-groniad enfawr o gleifion yn aros i weld llawfeddygon"

Yn ôl y radiolegydd ymgynghorol Dr Toby Wells, sy'n cynrychioli'r RCR yng Nghymru, mae'r pandemig wedi pentyrru ar y pwysau ond mae "argyfwng" wedi bod wrth recriwtio ers blynyddoedd, gan arwain at "brinder dychrynllyd".

"Rydyn ni'n ceisio dal i fyny' gyda'r ôl-groniad hwnnw ond mae mewn cyd-destun o brinder radiolegwyr, prinder sganwyr, prinder radiograffwyr," meddai.

Ond bu newidiadau hefyd mewn arferion gwaith, gyda radiolegwyr yn sganio llai o bobl mewn diwrnod oherwydd mesurau ymbellhau cymdeithasol.

"Mae ceisio darparu ar gyfer hynny a gwneud unrhyw gynnydd, a dal i fyny, yn anodd," meddai Dr Wells.

Er bod nifer y cleifion sy'n aros am sganiau wedi gostwng ers mis Chwefror, dywedodd fod "ôl-groniad enfawr o gleifion yn aros i weld llawfeddygon" a fyddai'n arwain at gynnydd yn y llwyth gwaith.

Beth mae'r arolwg yn ei ddangos?

Mae arolwg gweithlu blynyddol Coleg Brenhinol y Radiolegwyr yn tynnu sylw at bryderon allweddol i Gymru.

Mae'n awgrymu bod gweithlu radiolegwyr Cymru 38% yn brin o staff - y diffyg mwyaf mewn unrhyw wlad yn y DU.

Mae'n golygu bod Cymru ymhell y tu ôl i gyfartaledd yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer nifer y radiolegwyr fesul claf.

Mae gan Gymru 7.8 radiolegydd i bob 100,000 o bobl - cyfartaledd y DU yw 8.6 a chyfartaledd yr UE yw 12.8.

O ran diogelwch cleifion, mae'r coleg yn dweud bod 60% o gyfarwyddwyr delweddu Cymru yn dweud nad oes ganddynt ddigon o ymgynghorwyr i gadw cleifion yn ddiogel.

Cymru hefyd sydd â'r ddarpariaeth radioleg ymyriadol (radiolegwyr sy'n ymgymryd â gweithdrefnau) waethaf o unrhyw wlad yn y DU, gyda 60% o fyrddau iechyd yn methu â darparu rotâu 24/7 neu drefniadau trosglwyddo ar gyfer cleifion sydd angen gofal ymyriadol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan Gymru 7.8 radiolegydd i bob 100,000 o bobl - cyfartaledd y DU yw 8.6 a chyfartaledd yr UE yw 12.8

Ddechrau mis Ebrill, fe arolygodd yr RCR 1,089 o ymgynghorwyr ledled y DU am eu teimladau ar weithio yn y GIG ar ôl Covid. Roedd cyfanswm o 37 yn dod o Gymru ac, o'r rheiny:

  • Roedd 40.5% yn teimlo'n ddigalon;

  • Bwriad 43% oedd torri eu horiau;

  • Mae 11% yn dweud eu bod yn bwriadu gadael y GIG yn y 12 mis nesaf - tair gwaith y gyfradd ymadael arferol, yn ôl y coleg.

Meddygon yw radiolegwyr, sy'n arbenigo mewn dehongli pelydrau-x, sganiau a mathau eraill o ddelweddau meddygol sy'n hanfodol i ganfod rhoi diagnosis ar gyfer anafiadau a chlefydau gan gynnwys canser.

Mae'r RCR wedi rhybuddio o'r blaen am "risg wirioneddol" i ddyfodol gwasanaethau canser yng Nghymru oherwydd prinder sylweddol o arbenigwyr.

Beth mae'r pleidiau'n ei ddweud?

Dywedodd Plaid Cymru: "Dros y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi gweld eiddilwch ac anghynaliadwyedd gwasanaethau gofal iechyd a'r diffyg buddsoddiad a arweiniodd at orddibyniaeth ar ewyllys da ac ymroddiad llwyr y gweithlu iechyd a gofal.

"Nid yw'n syndod bod canran fawr o weithwyr yn teimlo'n ddigalon, gyda lefelau gorweithio a straen yn uchel iawn.

"Mae'n ddyletswydd arnom yn awr i leddfu'r pwysau, i'w had-dalu am eu hymrwymiad yn ein hawr o angen, i roi iddynt y cymorth sydd ei angen arnynt i wneud yr hyn y maent wedi'u hyfforddi i'w wneud.

"Mae gan lywodraeth Plaid Cymru gynllun pum mlynedd i recriwtio a hyfforddi 1,000 o feddygon ychwanegol, 4,000 o nyrsys, a 1,000 o weithwyr gofal iechyd proffesiynol perthynol, gan gynnwys radiolegwyr."

Dywedodd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru: "Nid yw hyn yn rhywbeth a fydd yn cael ei ddatrys dros nos.

"Mae hyfforddi staff meddygol yn cymryd amser a dyna pam mae gan ein maniffesto ar gyfer etholiad yr wythnos nesaf ymrwymiadau i hybu recriwtio meddygol yn ogystal â gwella lefelau cadw staff.

"Rydyn ni'n gwybod bod llawer o staff yn gadael y GIG oherwydd gorweithio a straen ac nad yw llawer yn teimlo bod ganddyn nhw'r cymorth iechyd meddwl sydd ei angen arnynt i barhau."

Dywedodd Llafur Cymru: "Mae llywodraeth Lafur Cymru wedi ymrwymo i gefnogi radiolegwyr a holl staff hanfodol y GIG.

"Helpodd ein cefnogaeth gwerth £3.4m y tymor diwethaf i agor Academi Delweddu Genedlaethol Cymru ym mis Awst 2018 sy'n hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o radiolegwyr a gweithwyr delweddu proffesiynol.

"Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yw ein prif flaenoriaeth ac rydym wedi addo cynllun adfer y GIG ar y diwrnod cyntaf gyda mwy na £1bn o gyllid y tu ôl iddo a all gefnogi ein gwasanaeth iechyd a'i staff a mynd i'r afael yn gynaliadwy â'r achosion gohiriedig sydd wedi cronni dros y flwyddyn ddiwethaf.

"Bydd y cynllun adfer hwnnw'n cynnwys datblygu ysgol feddygol newydd yng Ngogledd Cymru fel y gallwn hyfforddi'r gweithwyr proffesiynol newydd sydd eu hangen arnom dros y blynyddoedd nesaf; cymorth i les staff a chynlluniau wedi'u costio i hyfforddi'r 12,000 o feddygon, nyrsys a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol cysylltiedig sydd eu hangen arnom i gefnogi adferiad y GIG."

Dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig: "Mae'r rhain yn ffigyrau pryderus ac yn tynnu sylw at y modd mae Llafur wedi rheoli ein gwasanaethau cyhoeddus ni'n wael dros y ddau ddegawd diwethaf.

"Mae Llafur wedi dangos nad oes ganddyn nhw gynllun i fynd i'r afael â phethau ac mae ei record wael nhw dros y 22 flynedd ddiwethaf wedi gadael Cymru a'r GIG mewn safle peryglus.

"Bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn adeiladu economi gref fel ein bod ni'n gallu buddsoddi yn ein GIG a mynd i'r afael â'r problemau hyn gyda phum ysbyty newydd, 1,200 yn rhagor o ddoctoriaid a 3,000 yn rhagor o nyrsys."

Beth mae elusennau canser yn ei ddweud?

Dywedodd Judi Rhys MBE, prif weithredwr Tenovus Cancer Care: "Nid unwaith ers dechrau'r pandemig mae nifer y bobl sy'n cael eu hanfon ar gyfer profion canser yn cyfateb i'r lefelau cyn pandemig.

"Mae hyn wedi arwain at gymuned goll o 35,755 o bobl, o bosibl gyda chanser, sydd eto i ymgysylltu â'r gwasanaeth iechyd.

"Mae Gofal Canser Tenovus yn amcangyfrif, hyd yn oed pe bai nifer y bobl sy'n cael eu hanfon am sganiau 10% yn uwch yn y dyfodol, y byddai'n cymryd mwy na dwy flynedd i glirio'r ôl-groniad hwn."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Judi Rhys bod "cymuned goll o bobl, o bosibl gyda chanser, sydd eto i ymgysylltu â'r GIG"

Ychwanegodd Richard Pugh, pennaeth partneriaethau Cymorth Canser Macmillan yng Nghymru, ei fod yn "bryderus am lefel bylchau yn y gweithlu radioleg yng Nghymru, sy'n rhan o fylchau ehangach ar draws gweithlu canser Cymru".

"Mae dadansoddiad Macmillan o amseroedd aros canser Cymru yn dangos bod tua 1,550 yn llai o driniaethau cyntaf ar gyfer canser yn y flwyddyn ers dechrau'r pandemig o gymharu â'r un cyfnod flwyddyn ynghynt," meddai.

"Mae'n hanfodol bod llywodraeth nesaf Cymru yn rhoi blaenoriaeth i gael gwasanaethau canser yn ôl ar y trywydd iawn i sicrhau bod pobl â chanser yn cael diagnosis a thriniaeth amserol am y siawns orau o oroesi."

Pynciau cysylltiedig