Cyfarwyddwr ifanc yn ennill gwobr am ffilm o'r cyfnod clo

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Fe wnaeth Hedydd Ioan, 17, sgriptio, ffilmio, ac actio yn ei ffilm fer

Mae gŵr ifanc o Wynedd wedi ennill gwobr Gwneuthurwr Ffilm Ifanc y flwyddyn yng Ngwobrau'r Cinemagic 2020 Young Filmmaker yn Belfast.

Fe wnaeth Hedydd Ioan, 17, o Benygroes, ddod i'r brig mewn ffilm oedd o wedi ei sgriptio, ffilmio, ac actio ynddi.

Roedd y cynhyrchiad, gafodd ei gomisiynu gan Cymru Fyw fel rhan o gyfres o ffilmiau byrion gan bobl ifanc, yn edrych ar anhawster cyfathrebu a chynnal perthynas oherwydd cyfyngiadau Covid-19.

Dywedodd Hedydd: "Dwi mor falch efo'r ymateb i'r ffilm, wrth greu darnau fel yma y gobaith ydi eu bod nhw'n gallu llwyddo i gysylltu efo pobl ar lefel emosiynol a ddynol."

Mae Y Flwyddyn Goll wedi ei dewis ar gyfer gwyliau ffilmiau eraill yn Llundain, Toronto a'r Unol Daleithiau, ac mae Hedydd hefyd newydd ei wobrywo yn un o Sêr y Dyfodol yng ngwobrau Into Film.

Gwyliwch ffilmiau byrion eraill Haf Dan Glo

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Hedydd ar brentisiaeth gyda chwmni theatr Frân Wen

Dywedodd Hedydd am ei ffilm: "Dwi'n teimlo fod y ffordd mae pobl ifanc yn cysylltu yn anhygoel o ddiddorol, a sut mae hynny yn effeithio ar ein bywydau ac yr y digwyddiadau a phrofiadau rydym yn cael.

"Yn ystod y cyfnod yma mae bob dim wedi cael ei wthio i'r eithaf ac fe benderfynais edrych ar y cysylltiad rhwng rhywun yn trio siarad a rhannu ei deimladau efo rhywun arall yn ganol y clo yma."

Hefyd o ddiddordeb: