Cynllun i gloddio ar safle oes-efydd Pen Dinas
- Cyhoeddwyd
Mae archeolegwyr yn bwriadu cloddio rhannau o hen gaer o'r oes efydd ar Ben Dinas uwchlaw Aberystwyth.
Yn ôl trefnwyr y cynllun mae'r gaer ymhlith y mwyaf o'i bath yng Nghymru, a'u bwriad ydy edrych yn fanylach ar adeiladau sydd i'w cael yno er mwyn gallu dyddio'r safle yn well.
Mae'r archeolegwyr eisoes wedi cael caniatâd gan gorff Cadw ar gyfer y gwaith cloddio, ac mae Cyngor Sir Ceredigion wedi rhoi caniatâd mewn egwyddor i'r criw fynd ar eu tir er mwyn cynnal y gwaith.
Nawr mae'r tîm yn apelio am wirfoddolwyr i'w cynorthwyo gyda'r gwaith, a fydd yn digwydd dros gyfnod o dair wythnos ym mis Awst.
"Mae'n un o'r bryn caer haearn mwyaf a gorau yng Nghymru gyfan", meddai Ken Murphy o Archeolegwyr Dyfed.
"Dwi'n credu ei fod yn ased sydd wedi cael ei esgeuluso ar gyfer yr ardal i gyd. Er bod arwyddion newydd yno, sy'n wych, does dim byd yno i arwain twristiaid neu gerddwyr yn gyffredinol i ymweld â'r safle.
"Byddai'r gwaith cloddio yma nid yn unig o gymorth i ni o ran casglu gwybodaeth, ond gobeithio y bydd e hefyd yn codi proffil y safle a rhoi cynllun rheoli yn ei le."
Mae'r archeolegwyr yn gobeithio dechrau cloddio ar safle sydd eisoes wedi cael ei archwilio, a hynny yn 30au'r ganrif ddiwethaf.
"Byddwn ni'n edrych ar beth fyddwn ni'n ei ddarganfod," meddai Mr Murphy, "ac mae'r datblygiadau sydd wedi bod mewn gwyddoniaeth o'i gymharu â'r 30au yn mynd i fod o gymorth enfawr i ni.
"Bydd modd i ni, gobeithio, allu gweld ble o fewn y gaer roedd y tai, y cartrefi, y ffiniau ac adeiladau eraill o bwys."
Mae hanes a bodolaeth y gaer o'r oes efydd wedi bod o ddiddordeb enfawr hefyd i grŵp hanes cymunedol yn ardal Penparcau, sydd wrth droed Pen Dinas.
"Roedden ni i gyd yn sylweddoli bod ganddon ni'r ased anhygoel yma o fewn tafliad carreg i ni", meddai Dr Alan Chamberlain o Grŵp Hanes a Diwylliant Penparcau, "ac nad oedden ni mewn gwirionedd yn gwybod fawr dim amdano."
"Dechreuon ni wneud gwaith ymchwil i'r safle fel grŵp, a threfnu sgyrsiau a mynd am deithiau o gwmpas y safle, ac roedd y diddordeb yn amlwg achos fe ddaeth o leiaf 100 o bobl i bob digwyddiad.
"Ein bwriad ni oedd ceisio rhannu'r wybodaeth yma rhwng pobl leol, ac mewn ysgolion hefyd, fel eu bod nhw'n dod i glywed mwy am y trysor yma ar y bryn, a mwy am eu hanes lleol nhw."
Yn 2017 fe drefnodd y grŵp archwiliad geoffisegol o'r safle, cyn iddyn nhw wedyn dderbyn galwad ffôn i ddweud bod gan Archeolegwyr Dyfed ddymuniad i gloddi'r safle.
"Dwi wrth fy modd bod hwn yn digwydd o'r diwedd", meddai Mr Chamberlain.
"Mae e wedi bod yn llawer o waith i gyrraedd y man yma, ond o leia allwn ni ddechrau ar y gwaith nawr o ddarganfod beth yn union oedd yno, a pham ei fod e yno'n y lle cyntaf."
Safle anferth
"Mae safle Pen Dinas yn anferth," meddai Ken Murphy.
"O'i gymharu â safle tebyg o'r un adeg, yng Nghastell Henllys, mae e o leia 80% yn fwy, ac mae'n ased enfawr i'r ardal hon.
"Dros y mis nesaf fe fyddwn ni'n apelio am wirfoddolwyr i'n cynorthwyo ni ym mis Awst.
"Gobeithio mai dim ond y cychwyn bydd hwn, ac y bydd modd i ni ehangu'r gwaith chwilio yn y dyfodol."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd2 Chwefror 2020