Datgelu cyfrinachau diwydiant copr anferthol Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Gwaith Hafod-Morfa pan oedd yn cynhyrchu coprFfynhonnell y llun, Cyngor Abertawe
Disgrifiad o’r llun,

Gwaith Hafod-Morfa pan oedd yn cynhyrchu copr

Mae archeolegwyr wrthi'n datgelu cyfrinachau gwaith copr yn Abertawe oedd yn un o brif ddiwydiannau'r byd yn ei gyfnod.

Yn ei anterth yn y 19eg ganrif, roedd y ddinas yn cynhyrchu 90% o gopr y byd.

Dros y blynyddoedd nesaf bydd safle gwaith Hafod-Morfa yn cael ei drawsnewid gydag adnewyddu adeilad y Pwerdy yno ac ehangu distyllfa chwisgi Penderyn gerllaw.

Cyn hynny bydd cwmni Archaeoleg y Mynydd Du o Sir Fynwy yn ceisio achub cymaint o henebion ag sy'n bosib.

Maen nhw hefyd am greu modelau 3D o'r holl ddarganfyddiadau cyn i'r gwaith ddechrau ar y safle.

Dywedodd y rheolwr gyfarwyddwr Richard Lewis nad yw'r gwaith mor syml ag y byddai rhywun yn disgwyl.

"Mewn safle cymharol ddiweddar fel hwn," meddai, "fe fyddech chi'n disgwyl i'r deunydd mwyaf newydd fod yn agos i'r top.

"Ond gan fod Hafod wedi ei ailgynllunio cymaint o weithiau dros y blynyddoedd mae'r tir cynhenid yn agos i'r top a'r hen wastraff copr wedi ei gladdu'n eitha dwfn."

Ychwanegodd bod yr holl safle rhyw 2-3m yn uwch heddiw nag yr oedd pan agorodd y gwaith yn 1809.

Ffynhonnell y llun, Cyngor Abertawe
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Richard Lewis fod ystod y darganfyddiadau yn dyst i faint byd eang y diwydiant copr

Roedd mwynau copr yn cael eu mewnforio i Abertawe o Dde America er mwyn ei doddi, ac roedd y diwydiant yn defnyddio llawer iawn o lo.

Erbyn 1855 roedd llongau'n teithio'n ddyddiol o Chile, "rownd yr Horn" ac i Abertawe.

Roedd y rhan fwyaf o'r copr yn cael ei ddefnyddio i'w roi ar waelod llongau er mwyn eu hatal rhag pydru.

Hyd yma ar safle Hafod-Morfa mae ffwrnes gyfan, ystafelloedd cawod a chwpanau a soseri Georgaidd wedi dod i'r fei.

"O ystyried faint o waith sydd wedi digwydd yma dros 200 mlynedd, mae'n anhygoel canfod baddonau yn gyflawn yma," medd Mr Lewis.

"Bydd rhaid adeiladu dros ben pethau mor fawr â hynny, ond dyw hi ddim yn ddiogel symud y darganfyddiadau porcelain o'r safle gan eu bod wedi bod yn amsugno cemegau gwenwynig am ganrif a mwy."

Ffynhonnell y llun, Archaeoleg y Mynydd Du
Disgrifiad o’r llun,

Gweddillion adeilad castio o'r 1840au

Ychwanegodd fod cynifer o ddarganfyddiadau yn dyst i ystod anferth y diwydiant copr.

"Doedd llawer o'r pethau ry'n ni wedi darganfod ddim i fod i bara tan heddiw... roedden nhw'n rhan o system dechnolegol oedd yn datblygu mor gyflym," meddai.

"Y gymhariaeth agosaf fedrai feddwl amdano yw chwilio yn yr attic adre a dod o hyd i beiriant VHS o dan beiriant DVD, o dan liniadur o dan ffôn clyfar!

"Copr oedd diwydiant 'tech' ei ddydd... fel Google heddiw, ac ar un safle ry'n ni wedi datgelu dwy ganrif o gynnydd gwyddonol."