Galwad i beidio dileu cyllid gwasanaeth iaith arwyddo

  • Cyhoeddwyd
Ann a Ken LovellFfynhonnell y llun, Emma Trainor
Disgrifiad o’r llun,

Ken ac Ann Lovell - fe dreuliodd Mr Lovell gyfnod yn yr ysbyty yn ystod y pandemig

Mae galwadau i barhau i gyllido gwasanaeth sy'n cynorthwyo pobl fyddar neu drwm eu clyw i gael mynediad at wasanaethau iechyd yn ystod y pandemig.

Mae gwasanaeth 24 awr BSL Health Access (Iaith Arwyddo Prydeinig) wedi bod yn galluogi pobl i siarad gyda chlinigwyr proffesiynol mewn cyfnod lle mae cael apwyntiadau wyneb-yn-wyneb (tra'n gwisgo masgiau) wedi bod yn heriol.

Ond ni fydd cyllid i'r gwasanaeth gan y GIG yn cael ei adnewyddu ar draws y DU.

Dywedodd Emma Trainor bod y gwasanaeth wedi bod yn werthfawr iawn i'w rhieni, Ann a Ken Lovell, sydd yn byw ym Mhont-y-pŵl, Torfaen.

"Mae fy rhieni wedi bod yn hollol fyddar ers cael eu geni," meddai.

"Pan ddaeth y pandemig, roedd hi'n anodd iawn iddyn nhw gan fod fy nhad wedi cael diagnosis o diabetes Math 1 ychydig fisoedd yn gynt.

"Roedd nyrs yn dod ato i'w gefnogi, ond roedd hi'n gwisgo masg. Roedd hi'n anodd felly i gyfathrebu gyda hi, a doeddwn i'n methu mynd draw atyn nhw oherwydd y cyfnod clo."

Ar un cyfnod, cafodd Mr Lovell ei gludo i'r ysbyty gydag amheuaeth o fod Covid arno. Er iddo brofi'n negyddol am coronafeirws, doedd Ms Trainor - sydd hefyd yn fyddar - yn methu ffonio i holi beth oedd yn digwydd iddo.

"Yn ffodus fe wnaeth ffrind ddweud wrtha i am BSL Health Access. Roeddwn i'n ei ddefnyddio i ffonio'r ysbyty bob dydd, ac roedd yn wych gan fy mod i'n medru siarad yn fy iaith i gyda nyrs a doctor."

'Hawl, nid braint'

Cafodd y gwasanaeth am ddim ei lansio gan yr elusen SignHealth pan aeth y DU i'r cyfnod clo cyntaf yn 2020.

Fe wnaeth yr elusen fuddsoddi £800,000 i ddechrau'r gwasanaeth, ac yn ddiweddarach yn y flwyddyn fe wnaeth GIG Lloegr gytuno i dalu am gostau rhedeg y gwasanaeth rhwng Rhagfyr a diwedd Mawrth 2021 a hynny ar draws y DU.

Ond maen nhw nawr wedi cadarnhau na fydd y cyllid yna'n cael ei adnewyddu, ac nid yw SignHealth yn medru parhau i dalu amdano.

Dywedodd prif weithredwr SignHealth, James Watson-O'Neill: "Mae mynediad i wasanaethau iechyd yn hawl, nid yn fraint.

"Mae iechyd pobl fyddar fel arfer yn waeth na phobl sy'n clywed, ac maen nhw'n haeddu mynediad da at ofal iechyd mewn Iaith Arwyddo BSL."

Dywedodd llefarydd ar ran Adran Iechyd Llywodraeth y DU: "Dylai pawb fedru cael mynediad ar ofal iechyd pryd bynnag y maen nhw ei angen."

Pynciau cysylltiedig