Rhybudd i gerddwyr beidio mynd yn sownd wrth i'r llanw droi
- Cyhoeddwyd

Dywedodd yr RNLI bod mwyafrif o bobl gafodd eu hachub yn 2020 yn "cerdded neu redeg a ddim yn disgwyl mynd i'r dŵr"
Mae pobl sy'n cerdded ar hyd arfordir Cymru dros benwythnos Gŵyl y Banc wedi cael eu rhybuddio o'r peryglon o fynd yn sownd wrth i'r llanw droi.
Dywedodd yr RNLI eu bod galwadau wedi cynyddu 70% ers dechrau'r pandemig, wrth i fwy o bobl fentro i'r awyr agored yn nes at adref.
Mae'r elusen yn rhagweld mai'r haf hwn fydd "y prysuraf erioed", gyda mwy o bobl yn aros yn y DU am eu gwyliau oherwydd yr ansicrwydd am deithio dramor.
Mae nifer y bobl sy'n mynd yn sownd wrth i'r llanw newid yng Nghymru bron i ddwbl y cyfartaledd ledled y DU, ac mae Gwylwyr y Glannau yn gofyn i gerddwyr baratoi a gwneud eu gwaith ymchwil.

Mae Goleudu'r Mwmbwls yn enghraifft dda o rhywle sy'n hollol wahanol pan fo'r llanw allan...

...a'r llanw i mewn
Dywedodd yr elusen bod mwyafrif y 991 o bobl gafodd eu hachub ganddyn nhw yn 2020 yn "cerdded neu redeg a ddim yn disgwyl mynd i'r dŵr".
Mae ffigyrau'r RNLI ar gyfer Cymru a gogledd-orllewin Lloegr yn dangos bod pobl wedi gorfod cael eu hachub 115 gwaith yn 2020 ar ôl mynd yn sownd wedi i'r llanw newid.
Roedd 112 o ddigwyddiadau'n ymwneud â phobl oedd wedi disgyn neu lithro, gyda'r elusen yn dweud bod y ffigwr hynny yn "sylweddol uwch nag unrhyw le arall yn y DU ac Iwerddon".
'Llefydd yn edrych yn wahanol iawn'
Dywedodd Chris Cousens o'r RNLI bod modd "osgoi nifer o'r digwyddiadau wrth wybod pryd mae'r llanw'n mynd mewn ac allan, a bod llefydd yn gallu edrych yn wahanol iawn pan fo'r llanw yn dod mewn".
Rhybuddiodd bod nifer yn mynd yn sownd ar draethau mawr fel yr un yn Y Rhyl.
"Mae'n edrych fel traeth gwastad pan fo'r llanw allan. Mae'n edrych yn berffaith i fynd am dro hir ond pan ddaw'r llanw mewn mae pobl yn gallu ffeindio eu hunain ar ddarn o dywod sydd ychydig yn uwch, wedi'u hamgylchynu gan ddŵr," meddai.

Rhybuddiodd yr RNLI bod nifer yn mynd yn sownd ar draethau mawr fel yr un yn Y Rhyl
Mae'r elusen yn galw ar gerddwyr i gymryd cyfrifoldeb o'u diogelwch eu hunain.
"Mae rhai llefydd yn gallu bod yn waeth na'i gilydd, ond mae wastad yn syniad da os ydych chi'n mynd i gerdded ar hyd yr arfordir yng Nghymru i ddeall beth mae'r llanw'n ei wneud," meddai Mr Cousens.
"Rydyn ni'n annog pawb i gymryd golwg ar amserlen y llanw a'r tywydd o flaen llaw."
Gyda'r disgwyl y bydd mwy o bobl nag erioed yn aros yn y DU am eu gwyliau eleni oherwydd y pandemig, ychwanegodd Mr Cousens eu bod yn rhagweld "haf eithriadol o brysur".
"Roedden ni'n brysur iawn rhwng Mehefin ac Awst y llynedd ond ry'n ni'n disgwyl haf prysurach nag erioed eleni," meddai.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd7 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd29 Gorffennaf 2020