'Gorfod disgwyl blynyddoedd cyn gweld orthodontydd'
- Cyhoeddwyd
Mae rhieni yng Ngheredigion yn dweud bod eu plant yn gorfod aros gormod o amser cyn gweld orthodontydd.
Dywed un fam o ardal Aberystwyth, sydd am aros yn ddienw, bod ei merch wedi cael ei chyfeirio am driniaeth orthodonteg yn 2014.
Ond saith mlynedd yn ddiweddarach dyw hi dal ddim wedi cael unrhyw driniaeth.
Dywedodd y fam: "Mae hi wedi cael ei gweld ddwywaith mewn clinig am ychydig funudau - y tro diwethaf yn 2017.
"Dywedwyd wrthi y byddai hi'n cyrraedd brig y rhestr aros erbyn Awst 2018. Mae hi'n dal i aros."
Yn ôl y fam, oherwydd newid yng nghanllawiau Llywodraeth Cymru ar driniaeth orthodontyddol mae achosion brys bellach yn cael eu blaenoriaethu ac felly dyw hi ddim yn fater o weithio trwy'r rhestr aros.
Ychwanegodd y fam: "Gallaf ddeall hynny i ryw raddau ond y broblem gyda hynny yw na fydd y plant sydd ddim yn cael eu hystyried yn achosion brys yn cyrraedd brig y rhestr."
Mewn negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol dywed rhieni eraill eu bod wedi cael profiadau tebyg gydag un rhiant yn cael gwybod bod angen talu £3,000 os oedd am i'r driniaeth ddigwydd ymhen llai na chwe mis. Y dewis arall oedd mynd ar y rhestr aros.
Covid wedi gwaethygu'r sefyllfa
Dyw y Gymdeithas Ddeintyddol Brydeinig, y corff sy'n cynrychioli deintyddion, ddim wedi gwneud datganiad swyddogol ond maen nhw'n dweud bod y sefyllfa yng Ngheredigion yn debyg i'r profiad mewn rhannau eraill o Brydain.
Yn ôl y Gymdeithas, bu'n rhaid atal triniaethau deintyddol arferol ar ddechrau'r pandemig ac mae hynny wedi golygu nad oedd modd i ddeintyddion gyfeirio cleifion am driniaeth orthodonteg.
Hefyd, mae mesurau diogelwch ychwanegol mewn deintyddfeydd yn golygu bod llai o gleifion yn cael eu gweld bob dydd ac mae hynny'n ychwanegu at y rhestrau aros.
Mae'r Gymdeithas yn dweud ei bod hi'n debygol mai achosion brys fydd yn cael eu blaenoriaethu ymhobman wrth i orthodontyddion weithio eu ffordd trwy'r rhestrau aros.
'Angen disgwyl dros bedair blynedd'
Mewn datganiad dywedodd Jill Paterson, Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol, Cymuned a Gofal Hirdymor Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: "Mae'r bwrdd iechyd yn cydnabod bod rhaid i rai cleifion aros am driniaeth orthodonteg, yn anffodus.
"Fodd bynnag, mae amseroedd rhestrau aros yn parhau i fod yn seiliedig ar angen clinigol, gydag achosion brys yn cael eu blaenoriaethu ar gyfer triniaeth.
"Ar gyfartaledd, yr amser aros i berson ifanc sy'n disgwyl i ddechrau triniaeth orthodonteg yw pedair blynedd a hanner ac i bobl ifanc ag angen brys mae'r amser aros ar gyfartaledd yn 6 mis."
Dywedodd y bwrdd iechyd hefyd ei bod hi'n bosib y bydd yn rhaid i bobl ifanc aros yn hwy na phedair blynedd a hanner oherwydd eu bod yn rhy ifanc i ddechrau'r driniaeth pan gawson nhw eu cyfeirio at y gwasanaeth.
Roedd gan y bwrdd iechyd gynlluniau ar waith i wella'r amseroedd aros ar gyfartaledd i ddwy flynedd a hanner erbyn Mawrth 2022, ond mae'r cynlluniau wedi cael eu gohirio oherwydd effaith y pandemig.
Mae'r bwrdd iechyd yn awyddus i sicrhau pobl ei fod wedi ymrwymo i wella'r sefyllfa, ac yn y cyfamser dylai unrhyw un sydd â phryderon am eu triniaeth gysylltu â'u deintydd neu'r Tîm Cymorth Deintyddol i gael cyngor a chefnogaeth.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd12 Medi 2020