Agor a gohirio cwest yn achos marwolaeth Pen-pych

  • Cyhoeddwyd
Pen PychFfynhonnell y llun, Geograph | Jaggery

Mae cwest wedi ei agor a'i ohirio yn achos dyn 18 oed a fu farw wrth gerdded gyda ffrindiau ar fynydd yn Rhondda Cynon Taf.

Bu farw Fynley Jones, oedd yn byw gyda'i rieni ym Mhentre, ar ôl disgyn o fynydd Pen-pych ar 7 Mai.

Clywodd y gwrandawiad ym Mhontypridd ei fod "ger clogwyn ac wedi syrthio o uchder".

Daeth archwiliad post mortem yn Ysbyty Athrofaol Cymru i'r casgliad ei fod wedi marw o ganlyniad i anaf yn sgil taro ei ben.

Cafodd y cwest ei ohirio tan 20 Hydref 2022, ond dywedodd Crwner Canol De Cymru, David Regan ei fod yn gobeithio cynnal y gwrandawiad cyn hynny unwaith y bydd y cyfyngiadau coronafeirws wedi cael eu codi.

Pynciau cysylltiedig