UGC: Cei Conna a'r Seintiau Newydd yn brwydro am y teitl

  • Cyhoeddwyd
Aeron EdwardsFfynhonnell y llun, FAW/John Smith
Disgrifiad o’r llun,

Enillodd Aeron Edwards Uwch Gynghrair Cymru naw gwaith yn ystod ei gyfnod gyda'r Seintiau Newydd

Nid ers 2012 y mae tynged Pencampwriaeth Uwch Gynghrair Cymru wedi bod yn y fantol tan benwythnos olaf y tymor.

Bryd hynny sicrhaodd y Seintiau Newydd y teitl gyda buddugoliaeth o 5-0 dros bencampwyr y tymor blaenorol, Bangor.

Aelod o dîm buddugol y Seintiau'r diwrnod hwnnw oedd Aeron Edwards.

Bydd Edwards unwaith eto yn chwarae'r penwythnos hwn wrth i'r ddau dîm fynd am y teitl.

Ond yn chwarae i Gei Connah, nid y Seintiau, y bydd Edwards ddydd Sadwrn wrth i'r clybiau geisio ddod yn bencampwyr Cymru.

'Yn ein dwylo ni i ennill'

Mae Cei Connah, pencampwyr y llynedd, ar y brig gyda mantais o ddau bwynt dros Y Seintiau, sydd yn ail.

"Dyma be ti eisiau chwarae amdan, i ennill tlysau a 'da ni mewn sefyllfa dda i ennill un eto," meddai Edwards.

"Roedd 'na lot o siarad amdana'i yn symud i Gei Connah a pham gwnes i wneud o.

"Ro' ni'n gwybod fod Cei Connah ar y ffordd i fyny, wnes i gymryd siawns ac roedd o'n teimlo'n dda i fynd.

"Mae o yn ein dwylo ni i ennill o a dwi'n hapus yn y sefyllfa lle ydan ni."

Ffynhonnell y llun, NCM Media
Disgrifiad o’r llun,

Fe gurodd y Nomadiaid y Seintiau Newydd yn rownd derfynol y gynghrair y llynedd

Symudodd Edwards i Gei Connah o'r Seintiau ychydig wythnosau wedi i'r Nomadiaid gael eu coroni yn bencampwyr wedi i'r tymor ddod i ben yn ddisymwth oherwydd Covid-19.

Roedd y Seintiau wedi mynd â Chymdeithas Bêl-droed Cymru i'r llys yn dilyn eu penderfyniad i ddod â thymor Uwch Gynghrair Cymru i ben.

Aflwyddiannus oedd ymdrechion cyfreithiol y Seintiau ac fe gadarnhawyd Cei Connah yn bencampwyr, y tro cyntaf iddynt ennill y teitl.

Mae'r clybiau wedi bod yn geffylau blaen unwaith yn rhagor y tymor hwn gydag Edwards am y tro cyntaf yn ei yrfa yn gobeithio na fydd Y Seintiau yn hawlio'r teitl.

"Mae'n iach i'r gynghrair bod rhywun yn rhoi sialens iddyn nhw ac i ni fod yn y sefyllfa lle ydan ni, mae'n wych," ychwanegodd Edwards.

Pen-y-bont v Cei Connah

Tîm Pen-y-bont sy'n wynebu Cei Connah.

Mae'r ddwy gêm rhwng y ddau glwb yma ym Mhen-y-bont wedi gorffen yn ddi-sgôr yn y ddwy flynedd ddiwethaf.

Bydd hi'n dalcen caled i Gei Connah hefyd gan fod eu prif sgoriwr, Mike Wilde wedi'i wahardd ar ôl iddo dderbyn ei bumed cerdyn melyn o'r tymor yn y gêm yn erbyn Caernarfon yr wythnos ddiwethaf.

Dim ond un gêm gartref mae Cei Connah wedi colli'r tymor hwn, a Pen-y-bont oedd yn gyfrifol am hynny pan enillon nhw o 2-0 yn stadiwm Glannau Dyfrdwy nôl ym mis Ebrill.

Penderfyniad anodd i reolwr Pen-y-bont

Mae gan reolwr Penybont, Rhys Griffiths benderfyniad enfawr i'w wneud am ei dim.

Mae Pen-y-bont eisoes wedi sicrhau eu lle yn y gemau ail gyfle fydd yn cael ei chwarae'r wythnos nesaf.

Ydy hyn y golygu y bydd Pen y Bont yn gorffwys rhai o'u chwaraewyr gorau yn erbyn Cei Connah rhag ofn iddyn nhw gael eu hanafu neu ei gwahardd cyn y gemau ail gyfle? Neu a fydd yn gobeithio gorffen y tymor yn gryf ac yn carlamu fewn i'r gemau ail gyfle yn erbyn y Drenewydd gyda momentwm?

Y Seintiau Newydd v Y Bala

Yn wahanol i Gei Connah, mae gan Y Seintiau Newydd y fantais o chwarae eu gêm olaf gartref, a hynny yn erbyn Y Bala.

Dyw'r Bala heb ennill ar gae'r Seintiau mewn 18 gem ond gyda'r Bala eisoes wedi llwyddo i sicrhau ei lle yn Ewrop y tymor nesaf does gan dîm Colin Caton ddim byd i'w golli.

Ffynhonnell y llun, FAW/John Smith
Disgrifiad o’r llun,

Ymunodd Leo Smith gyda'r Seintiau Newydd o Gaernarfon yr haf ddiwethaf

Yn syml, mae'n rhaid i'r Seintiau Newydd ennill y gêm a gobeithio y bydd Cei Connah una'i yn colli neu yn cael gêm gyfartal ym Mhen-y-bont. Os bydd hynny'n digwydd, yna'r Seintiau Newydd fydd yn cael eu coroni'n bencampwyr am y 14eg tro.

Os gwnaiff y Bala ennill yn erbyn y Seintiau yna bydd Cei Connah yn bencampwyr doed a ddel, ond mae rheolwr Cei Connah, Andy Morrison wedi pwysleisio'r wythnos hon nad yw'n disgwyl "ffafrau" gan unrhyw dîm a bod ganddyn nhw un "mynydd arall i'w ddringo" er mwyn bod yn bencampwyr.

Y canlyniad allan o ddwylo'r Seintiau

Mae'r Seintiau yn gwybod bod tynged y bencampwriaeth allan o'u dwylo a'n gobeithio y bydd canlyniadau yn mynd o'u plaid.

"Bydd rhaid i ni fynd allan a gwneud ein job ni'n gyntaf cyn meddwl am ddim byd arall," meddai'r chwaraewr ganol cae Leo Smith.

"'Da ni angen gwneud yn siŵr ein bod yn curo ein gêm ni hefyd i roi'r pwysau arnyn nhw.

"Ac efallai bydd y pwysau dipyn bach yn ormod iddyn nhw ac ellith Pen-y-bont cael gêm dda yn erbyn nhw.

"Dwi'n siŵr fydd 'na rai yn cadw golwg allan am y sgôr i adael ni wybod i weld os oes angen codi gêr arall ac i drio cael gôl a churo gêm."

Ffynhonnell y llun, NCM Media
Disgrifiad o’r llun,

Enillodd Cei Connah ei gêm ddiwethaf ym mis Ebrill yn erbyn y Seintiau Newydd 4-1

Mae gweddill safleoedd y gynghrair wedi cael eu penderfynu'n barod. Ni fydd neb yn disgyn o'r gynghrair eleni oherwydd y diffyg chwarae yn y cynghreiriau is o ganlyniad i Covid-19.

Bydd y gemau ail gyfle yn cynnwys Y Barri v Caernarfon a Phenybont v Y Drenewydd. Bydd y gemau yma'n digwydd yr wythnos nesaf, gydag enillwyr y ddwy gêm yn wynebu ei gilydd yn y rownd derfynol er mwyn penderfynu pwy fydd yn chwarae yn Ewrop y tymor nesaf.

Gyda chymaint yn y fantol, mae hi'n amhosib dweud pwy fydd yn codi'r tlws ar ddiwedd y prynhawn. Ond erbyn 14:00 brynhawn Sadwrn, byddwn yn gwybod pwy fydd pencampwyr Uwch Gynghrair Cymru 2021.

Pynciau cysylltiedig