Teithio tramor 'hanfodol yn unig' am dair wythnos arall
- Cyhoeddwyd
Bydd gweinidogion Cymru yn annog pobl i deithio dramor ond am resymau "hanfodol" am dair wythnos arall, er bod y rheolau wedi newid yn Lloegr.
Cyngor Llywodraeth y DU ydy bod pobl yn Lloegr yn cael teithio i rai gwledydd tramor o ddydd Llun.
Mae Portiwgal ac Israel ar y rhestr 'gwyrdd' o leoliadau o'r DU, ond mae Llywodraeth Cymru'n dweud y dylid ond teithio dramor am resymau hanfodol o 17 Mai.
Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford mai hon yw'r flwyddyn i fanteisio ar y "cyfleoedd ffantastig" am wyliau yng Nghymru.
Mae arweinydd Plaid Cymru wedi croesawu'r cyngor, gan ddweud bod angen neges yr un mor "gadarnhaol" ar yr economi yng Nghymru hefyd.
Ychwanegodd Mr Drakeford hefyd bod amrywiolyn India yn "achos pryder" i'w lywodraeth, ac y byddai'n cadw golwg manwl ar y sefyllfa.
Mae 26 achos o'r amrywiolyn yng Nghymru bellach, meddai yng nghynhadledd y llywodraeth ddydd Gwener, gyda'r "mwyafrif helaeth" yn deillio o bobl yn dychwelyd o deithiau tramor.
Mae Mr Drakeford wedi cadarnhau y bydd Cymru'n symud i Lefel 2 y cynllun rheoli Covid-19 o ddydd Llun.
Mae hynny'n golygu bod busnesau lletygarwch a lleoliadau adloniant dan do yn cael ailagor.
Fe fydd mwy o bobl yn cael mynychu digwyddiadau wedi eu trefnu yn yr awyr agored a dan do.
Er y bydd hawl i deithio dramor o 17 Mai, bydd "camau diogelu" ychwanegol i bobl sy'n dychwelyd o rai gwledydd er mwyn atal yr haint rhag lledaenu eto.
Fe fydd Cymru'n defnyddio system oleuadau traffig fel yn Lloegr a'r Alban.
Mae'n golygu y bydd modd teithio i rai gwledydd heb orfod hunan-ynysu pan yn cyrraedd adref.
O 24 Mai, bydd tystysgrif papur ar gael i bobl sydd wedi cael dau ddos o frechlyn ac sydd angen profi hynny wrth deithio.
Ond mae'r llywodraeth yn dweud na fydd yn annog teithio heb ei fod yn angenrheidiol.
Dywedodd Mr Drakeford na allai atal pobl rhag mynd ar wyliau dramor eleni ond byddai'n well ganddo petaen nhw'n dewis peidio.
"Hon yw'r flwyddyn i fynd ar wyliau yng Nghymru ac mae'n well osgoi teithio dramor," meddai.
Ond dywedodd y byddai gwahardd pobl Cymru rhag teithio dramor o feysydd awyr yn Lloegr yn "anymarferol".
Dywedodd: "Unwaith y bydd y meysydd awyr hynny ar agor ac mae hawl i deithio ar draws y Deyrnas Unedig, yna bydd pobl o Gymru yn gallu teithio felly does dim pwynt rhoi gorchymyn na ellir ei orfodi.
"Mae'r cyngor yng Nghymru'n gwbl glir. Mae gyda ni gyfleoedd ffantastig yng Nghymru i fynd ar eich gwyliau, hon yw'r flwyddyn i fanteisio ar hynny."
'Amrywiolyn India yn bryder'
Dywedodd Mr Drakeford ei fod wedi ystyried llacio pellach ddydd Llun, ond bod ei lywodraeth yn aros am y cyngor diweddara' ynghylch amrywiolyn India o'r feirws.
Mae 26 achos o'r amrywiolyn yng Nghymru yn ôl ffigyrau dydd Gwener, ond dywedodd Mr Drakeford bod cynnydd sylweddol mewn achosion yng ngogledd orllewin Lloegr yn bryder oherwydd yr agosatrwydd at ffin Cymru.
Mae dros 1,500 o achosion o'r amrywiolyn yn Lloegr, meddai.
Dywed bod yr amrywiolyn yn cael ei drosglwyddo'n rhwydd o berson i berson - tebyg i amrywiolyn Caint ond o bosib yn cael ei drosglwyddo'n gynt.
Ychwanegodd y byddai'n oedi camau nesaf y broses o lacio cyfyngiadau "os ydy'r risg o wneud yn rhy fawr".
"Os mai'r cyngor ar amrywiolyn India ydy ei fod yn ddiogel i symud ymlaen, yna ni fydd angen aros tan ddiwedd y tair wythnos i wneud hynny, ond mae'r amrywiolyn yn achos pryder i ni."
Beth sy'n digwydd dydd Llun, 17 Mai?
Fe fydd gan hyd at chwech o bobl o chwe aelwyd wahanol yng Nghymru hawl i gyfarfod dan do mewn caffis, tai bwyta a thafarndai o ddydd Llun ymlaen.
Wrth lacio'r cyfyngiadau ar 17 Mai, mae'r newidiadau canlynol wedi eu cadarnhau:
Agor lletygarwch dan do i chwe pherson o chwe aelwyd;
Agor pob llety gwyliau;
Sinemâu, theatrau a lleoliadau adloniant eraill yn cael agor;
Atyniadau dan do fel amgueddfeydd ac orielau yn cael agor;
Hyd at 30 mewn digwyddiadau wedi eu trefnu dan do, a 50 y tu allan.
Dywed Mr Drakeford y gallai newidiadau i gyfarfod pobl yn eu cartrefi fod yn bosib os yw amodau'n ffafriol erbyn yr adolygiad nesaf ymhen tair wythnos.
Gall hynny hefyd roi cyfle i gynyddu faint sy'n cael mynychu digwyddiadau wedi eu trefnu.
Croesawodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, alwad y Prif Weinidog am i bobl fynd ar wyliau yng Nghymru yn hytrach na mynd dramor.
"Mae'n neges gadarnhaol - mae ei hangen arnom ar gyfer yr economi hefyd," meddai Mr Price.
"Nid yw'n ymwneud â diogelwch iechyd yn unig ond hefyd cefnogi busnesau twristiaeth a lletygarwch sydd wedi cael amser diflas."
Ond dywedodd Mr Price fod angen cymorth ariannol pellach ar y sector o hyd: "Beth yw'r cynllun ar gyfer y misoedd i ddod ar gyfer lletygarwch?"
Croesawodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Russell George, bod Cymru'n symud i lefel dau hefyd.
Ond dywedodd y dylai Llywodraeth Cymru fod wedi "cyhoeddi cynllun i'r dyfodol i roi gobaith i fusnesau a chymunedau".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Mai 2021
- Cyhoeddwyd13 Mai 2021
- Cyhoeddwyd11 Mai 2021