Tri wedi'u harestio wedi marwolaeth mewn gwrthdrawiad

  • Cyhoeddwyd
Robbie-Lee SelwayFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd teulu Robbie-Lee Selway bod ei farwolaeth "wedi ein gadael heb dad, mab, ewythr, partner a ffrind"

Bu farw dyn 21 oed a chafodd pedwar arall eu hanafu mewn gwrthdrawiad ar Ffordd Blaenau'r Cymoedd ddydd Iau.

Lladdwyd Robbie-Lee Selway o Ferthyr Tudful yn y gwrthdrawiad a ddigwyddodd ar yr A465 am tua 11:00.

Mae dau ddyn arall 18 a 22 oed, dyn 25 oed o Gaerdydd a menyw 32 oed o Ddinbych y Pysgod yn cael triniaeth yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.

Dywedodd yr heddlu fod dyn 18 oed o Ferthyr Tudful wedi cael ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus.

Mae dau ddyn arall hefyd wedi'u harestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad.

Mewn datganiad dywedodd teulu Mr Selway: "Rydym fel teulu wedi ein chwalu gan ddigwyddiad sydd wedi ein gadael heb dad, mab, brawd, ewythr, partner a ffrind.

"Gofynnwn i bawb am breifatrwydd yn y cyfnod hynod drist yma, ac rydym yn gwerthfawrogi cefnogaeth pawb."

Bu Ford Fiesta glas a Renault Clio gwyn mewn gwrthdrawiad rhwng cylchfannau Hirwaun a Llwydcoed.

Mae Heddlu'r De yn apelio ar unrhyw un a welodd y digwyddiad, neu'r modd yr oedd y Ford Fiesta'n cael ei yrru yn ardal Merthyr ac Aberdâr i gysylltu gyda nhw.

Pynciau cysylltiedig