Apêl Gweinidog Iechyd newydd Cymru: 'Ewch am frechiad'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Disgrifiad,

Brechlyn yw'r 'arf gorau' yn erbyn amrywiolyn India

Brechu yw'r ffordd orau o hyd o warchod pobl rhag amrywiolion newydd "bygythiol" o'r coronafeirws, medd Gweinidog Iechyd newydd Cymru.

Mae dros ddwy filiwn o bobl wedi cael eu brechu rhag y feirws yng Nghymru erbyn hyn, ond dywed Eluned Morgan bod amrywiolyn India'n creu her newydd.

Daw wrth i ragor o gyfyngiadau Covid lacio ar draws y wlad, gan gynnwys caniatáu i fwytai a thafarndai weini pobl dan do.

Mae sinemâu, orielau ac amgueddfeydd hefyd yn cael agor o ddydd Llun wrth i Gymru symud i Lefel 2 y cynllun rheoli coronafeirws.

Wrth ymweld â Chanolfan Brechu Torfol y Bae yng Nghaerdydd, dywedodd Ms Morgan ei bod yn gobeithio y bydd y rhaglen frechu'n gwarchod pobl rhag niwed.

"Y'n ni'n gw'bod mai dyma'r arf orau sy' gyda ni - i sicrhau fod pobl yn ca'I y brechiad." meddai.

"Dyma'r ffordd orau o gael diogelwch oddi wrth yr amrywiolyn newydd yma.

Disgrifiad o’r llun,

Eluned Morgan yn trafod gyda swyddogion y ganolfan frechu

"Dy'n ni ddim yn gw'bod pa amrywiolyn sydd yn dod yn y dyfodol, ond am y tro ni'n awgrymu bod pob un sy'n cael gwahoddiad yn sicrhau bod nhw'n cymryd y gwahoddiad yna i fyny, eu bod yn diogelu eu hunain a'r bobl o'u hamgylch nhw."

'Yr ail ora' drwy'r byd'

Dyma oedd ei hymweliad cyntaf fel gweinidog iechyd ers i Gymru gyrraedd y garreg filltir o frechu dros ddwy filiwn o bobl.

Hyd at 09:00 ddydd Sul, 16 Mai roedd 2,027,803 o bobl wedi cael un dos o'r brechlyn a 917,431 wedi cael y cwrs llawn.

Dywedodd mai rhaglen frechu Cymru yw'r "ail ora' yn y byd o ran faint o bobl sy' 'di cael eu brechu".

Ddydd Gwener dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford ei fod wedi ystyried llacio'r rheolau ymhellach ond ei fod wedi gohirio gwneud penderfyniad oherwydd y pryder ynghylch lledaeniad amrywiolyn India.

Yn ôl yr ystadegau diweddaraf, mae 26 achos o'r amrywiolyn wedi eu cofnodi yng Nghymru. Y gred yw bod cysylltiad â theithio tramor ymhob un o'r achosion hynny.

Mae'n bosib i fynd ar wyliau i rai gwledydd tramor o ddydd Llun ond mae Llywodraeth Cymru'n gofyn i bobl ystyried peidio oni bai bod y daith yn hanfodol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dywedodd Ms Morgan na fyddai Llywodraeth Cymru'n diystyru targedu brechiadau mewn ymateb i gynnydd newydd yn nifer achosion o'r feirws.

"Ma'r system eisoes yn eitha' hyblyg," meddai. "Ma'r ffaith bo' ni mor bell ymlaen [yn brawf o hynny] felly dwi'n meddwl y'n ni eisoes wedi cyflawni lot.

"Ar hyn o bryd, y'n ni'n barod i awdurdodau lleol neud y penderfyniad yna yn lleol. Os ma' angen i ni newid y ffordd y'n ni'n neud pethau, wrth gwrs wnawn ni edrych ar hynny."

Mae Ms Morgan yn annog pobl sydd heb gael eu brechu eto i drefnu apwyntiad.

"Dy'n ni ddim really wedi cael y diogelwch llawn tan bo ni'n cael yr ail ddos," meddai.

"Tan hynny mae'n bwysig bod pobl yn sicrhau bod nhw'n cadw pellter, bod nhw'n golchi dwylo, bod nhw'n cymryd y feirws o ddifri' o hyd, yn arbennig wrth i ni ailagor."

Ffynhonnell y llun, EPA
Disgrifiad o’r llun,

Y brechiad Pfizer sy'n cael ei roi i bobl yn y grwpiau iau, oni bai eu bod wedi cael dos cyntaf o'r brechlyn AstraZeneca

Mae'r cyngor, meddai, "yn fwy pwysig nag erioed" ymhlith pobl iau "sy'n fwy tebygol o gymysgu".

Mae'r grwpiau iau wedi dechrau cael eu brechu, gyda 41.1% o'r rhai rhwng 18 a 29 oed wedi cael dos cyntaf.

"Mae'n rhaid iddyn nhw gymryd hwn o ddifri, achos dyna ble dwi'n poeni fydd yr ymlediad yn dod o", meddai.

Dywedodd Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro, sy'n rhedeg Canolfan Brechu Torfol Y Bae, y bydd wedi estyn gwahoddiad i bawb dros 18 sy'n gymwys erbyn diwedd yr wythnos hon.

Dywed swyddogion bod gobaith y byddan nhw wedi brechu pawb sy'n cadw'u hapwyntiadau erbyn diwedd mis Mai.