Galwad am wneud taclo tlodi plant yn flaenoriaeth

  • Cyhoeddwyd
Plant

Mae cynghrair sy'n ymgyrchu dros ddod â thlodi plant i ben yn galw ar i Lywodraeth Cymru wneud hynny'n flaenoriaeth, wrth i ffigyrau newydd awgrymu mai Cymru sydd â'r gyfradd waethaf o ran tlodi plant o holl wledydd y DU.

Yn ôl ymchwil gan Brifysgol Loughborough ar ran UK End Child Poverty Coalition, mae 31% o blant Cymru yn byw o dan y llinell dlodi, gydag o leiaf un o bob pump o blant ymhob awdurdod lleol yn byw mewn amgylchiadau o'r fath.

Mae'r gynghrair yng Nghymru yn dweud bod angen i Lywodraeth newydd Cymru gael cynllun clir gyda thargedau uchelgeisiol, er mwyn sicrhau nad oes yr un plentyn o dan anfantais oherwydd incwm y teulu.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi cynyddu'r gefnogaeth i blant a theuluoedd sydd angen cymorth.

Mae'r ymchwil yn dangos, o holl wledydd y DU mai Cymru sydd a'r ganran uchaf o blant yn byw mewn tlodi (31%), yna Lloegr (30%), a'r Alban a Gogledd Iwerddon (24%).

Yn ôl yr adroddiad hefyd:

  • Cyn y pandemig, roedd bron i 4 o bob 10 plentyn yn byw mewn tlodi mewn rhai rhannau o Gymru, wrth ystyried faint o incwm y teulu oedd yn mynd tuag at gostau'r cartref;

  • Caerdydd ydi'r awdurdod lleol sydd a'r gyfradd uchaf o dlodi plant yng Nghymru, gyda thros un rhan o dair (36%) o blant yn Ne Caerdydd a Phenarth yn byw mewn tlodi;

  • Wrecsam ydyr awdurdod lleol sydd wedi gweld y twf mwyaf o ran tlodi plant yn y pum mlynedd ddiwethaf, gyda'r gyfradd wedi cynyddu deirgwaith y cyfartaledd cenedlaethol;

  • Roedd 75% o blant oedd yn byw mewn tlodi yn 2019/20 yn dod o gartrefi lle roedd o leiaf un oedolyn mewn gwaith cyflogedig, o'i gymharu a 61% yn 2014/15.

Galw am fwy o gefnogaeth i rieni

Mae sefydliadau sy'n rhan o'r gynghrair yng Nghymru wedi bod yn clywed gan deuluoedd sut y mae'r pandemig wedi effeithio arnyn nhw, a'u pryderon ynglŷn â'r dyfodol.

Dywedodd Melanie Simmonds, pennaeth elusen Achub y Plant yng Nghymru: "Rydym wedi clywed dro ar ôl tro gan deuluoedd sy'n byw ar incwm isel, sut y mae nhw gorfod torri nôl ar eitemau hanfodol fel bwyd, gwres a dillad i'w plant, a'u bod yn suddo yn ddyfnach i ddyled."

Mae'r gynghrair yn galw am ragor o gefnogaeth i rieni allu bod yn rhan o ddysgu a datblygiad eu plant gartref, ac i brydau ysgol am ddim fod ar gael, yn ystod y tymor a'r gwyliau, i bob plentyn lle mae eu rhieni neu warchodwyr yn derbyn y Credyd Cynhwysol neu fudd-daliadau cyfatebol.

Mae 'na alw hefyd ar i Lywodraeth y DU gydnabod maint y broblem a'i effaith ar fywydau plant, ac i roi'r gorau i gynlluniau i gwtogi ar y Credyd Cynhwysol.

Yn ôl Ellie Harwood, Pennaeth Datblygu Cymru Child Poverty Action Group: "Mae nifer annerbyniol o blant yn parhau i fyw mewn tlodi yng Nghymru, er bod gan y rhan fwyaf rieni sydd mewn gwaith.

"Allwn ni ddim caniatáu i'r sefyllfa yma barhau. Mae tlodi yn niweidio pob agwedd o ddatblygiad plentyn, ac mae gan hynny oblygiadau ar gyfer cymdeithas yn ei chyfanrwydd."

Cynyddu cefnogaeth

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y byddan nhw'n rhoi cefnogaeth i blant a theuluoedd sydd angen help.

Maen nhw'n dweud eu bod wedi cynyddu'r gefnogaeth sydd ar gael yn ystod y pandemig gan weithredu ar frys i roi cymorth i deuluoedd sy'n byw mewn tlodi.

Mae hynny'n cynnwys darparu dros £52m at brydau ysgol am ddim hyd at Pasg 2022 a £13.9m yn ychwanegol drwy'r Gronfa Cymorth Dewisol.

Pynciau cysylltiedig