Teyrnged teulu i yrrwr gwrthdrawiad â bws ysgol
- Cyhoeddwyd
Mae teulu gyrrwr a fu farw wedi gwrthdrawiad rhwng car a bws ysgol yng ngogledd Sir Benfro ddydd Llun wedi rhoi teyrnged iddo.
Roedd Chris John o Glunderwen yn 31 oed ac yn dad i ddau o blant ifanc.
Bu farw yn safle'r gwrthdrawiad - yn ardal Efailwen, rhwng Dinbych-y-pysgod a Chrymych - rhwng ei gar a bws oedd yn cludo disgyblion i Ysgol y Preseli.
Dywedodd teulu Mr John eu bod "oll wedi ein dryllio gan farwolaeth sydyn a thrasig Chris, tad, gŵr, mab a brawd annwyl".
Ychwanega'r datganiad, a gafodd ei ryddhau ar ran y teulu gan Heddlu Dyfed-Powys, bod pawb y bu Mr John mewn cysylltiad â nhw "yn dotio ato... ac yn arbennig ei ddwy ferch ifanc".
"Er mai ei deulu oedd wastad yn dod yn gyntaf, rydym yn falch eithriadol o'i lwyddiant yn y byd chwaraeon, gan gynrychioli ei wlad wrth chwarae bowlio mat byr gyda'i dad a'i frawd iau.
"Mae cefnogaeth ffrindiau lu, yn Llanboidy ble y cafodd ei fagu a ble mae ei gartref yng Nghlunderwen, wedi cyffwrdd ynom fel teulu. Hoffwn amser nawr i alaru a gofynnwn am breifatrwydd i wneud hynny."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Mai 2021