'Mae bywyd heb Ethan yn hunllef barhaus'

  • Cyhoeddwyd
Ethan
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Ethan ym Medi 2020 ddeuddydd wedi gwrthdrawiad ar yr A55

Mae mam i fachgen 17 oed a fu farw wedi i'w foped fod mewn gwrthdrawiad ger Llanelwy ym Medi y llynedd yn galw am fwy o gymorth iechyd meddwl i fechgyn yn eu harddegau.

Yn dilyn marwolaeth Ethan Ross, a oedd yn ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Dinbych, dywed ei fam Helen ei bod wedi gweld pa mor anodd mae bywyd wedi bod i ffrindiau ei mab ar adegau.

"Mae bywyd yn anodd iddyn nhw," meddai, "nid yn unig oherwydd yr hyn sydd wedi digwydd i Ethan ond mae dysgu o adref hefyd wedi cael effaith anferth arnyn nhw.

"Yn aml does dim digon o sylw yn cael ei roi i fechgyn, ac er bod ffrindiau Ethan wedi cael cymorth a bod y bechgyn yn siarad gyda'i gilydd doedden nhw ddim yn barod i ofyn am help ychwanegol.

"Mae yna stigma. Mae'n rhaid iddyn nhw wybod bod hi'n iawn iddyn nhw ofyn am help."

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Helen a Paul Ross eu bod yn awyddus i godi arian i Ambiwlans Awyr Cymru a Young Minds

Ychwanega mam Ethan bod bywyd yn un uffern ers iddo adael y cartref a pheidio dychwelyd ar 12 Medi y llynedd.

Bu farw mewn ysbyty yn Stoke ddeuddydd wedi gwrthdrawiad ar ffordd yr A55 ger Llanelwy - roedd o wedi cael anafiadau difrifol i'w ymennydd. Dywed Heddlu'r Gogledd bod ymchwiliad i'r digwyddiad a oedd yn cynnwys car Vauxhall Astra yn parhau.

"Mae'n hunllef barhaus - cofio nad yw o yma bellach," meddai.

Roedd Ethan newydd ddychwelyd i'r ysgol wedi gwyliau'r haf. Roedd o wedi dewis Mathemateg a Ffiseg yn bynciau lefel A ac roedd o â'i fryd ar fynd i astudio Peirianneg Awyrofod yn y brifysgol.

Ym mis Ebrill, y diwrnod y byddai wedi dathlu ei ben-blwydd yn 18, bu teulu a ffrindiau yn cofio amdano ar lan yr afon gan saethu roced a oedd yn cynnwys rywfaint o lwch Ethan.

"Y gofod a rocedi oedd byd Ethan ac roeddwn am ei anfon i fyny cyn uched â phosib," meddai ei fam.

"Dyna un o ddiwrnodau anoddaf fy mywyd - dylwn fod wedi bod yn dathlu gydag Ethan. Fe ddylai fod wedi bod yno."

Disgrifiad,

'Roedd Ethan yn gymeriad mawr, yn hwyl i fod o gwmpas'

Dywed Gracie a Ffion, dwy ffrind a oedd yn gyd-ddisgyblion i Ethan: "'Dach chi'n clywed am beth fel hyn ond doeddan ni ddim yn disgwyl i hyn ddigwydd i ni. Mae'n dangos fod popeth yn gallu newid mewn diwrnod.

"Roeddan ni'n treulio lot o amser gyda'n gilydd. 'Dan ni wedi cael help gan yr ysgol ac mae'r cwnsela yn dda. 'Dan ni'n cytuno ei bod yn anodd i'r bechgyn ac mae dal yn anodd iddyn nhw.

"Roedd Ethan yn gymeriad mawr ac yn hwyl i fod o gwmpas."

Codi arian

Wrth i'r teulu aros am ganlyniadau ymchwiliad maent yn ceisio trefnu digwyddiad traws gwlad anferth er mwyn codi arian i gofio am eu mab.

"Mae trefnu digwyddiad o'r fath yn ein cadw ni fynd ac yn rhywbeth y gallwn ganolbwyntio ein meddwl arno," medd Paul Ross, tad Ethan.

Disgrifiad o’r llun,

Bydd y penwythnos gweithgareddau yn ffordd wych i gofio am Ethan, medd Siân Rogers

£10,000 oedd y targed ond erbyn hyn mae £23,000 yn y coffrau a dywed y teulu bod cymorth y gymuned wedi bod yn rhyfeddol.

Mae digwyddiadau wedi'u trefnu ar y cyd â thri deg o ysgolion yn Sir Ddinbych ac fe fydd yr arian o her 'Move a Marathon for Ethan' yn cael ei rannu rhwng Ambiwlans Awyr Cymru a Young Minds.

Dywed y teulu bod y ddwy elusen yn golygu llawer iddyn nhw wedi i ambiwlans awyr gludo Ethan i ysbyty yn Stoke wedi'r digwyddiad. Mae nhw hefyd yn awyddus i helpu iechyd meddwl pobl ifanc wedi'r cyfnodau clo.

Bydd nifer o ffrindiau Ethan yn cymryd rhan yn y digwyddiad codi arian ganol Mehefin. Mae nhw hefyd wedi paentio wal yn yr ysgol i gofio amdano ac wedi llunio llyfr lloffion a fydd yn cael ei gyflwyno i'w rieni.

Y nod yw cwblhau marathon drwy gerdded, nofio, rhedeg neu gwblhau unrhyw weithgaredd fel coginio, gwnïo neu arddio.

Dywed Siân Rogers, Cyfarwyddwr Cwmni Hamdden Sir Ddinbych: "Mae'n ffordd i ni gael ysgolion at ei gilydd yn y gymuned.

"Mae'r cyfan yn drasiedi. Roedd Ethan yn chwarae pêl-droed yn Ninbych, ro'dd o'n rhan o'i gymuned. Mae pawb isio cefnogi'r ymgyrch yma ar ran y teulu.

"Dyma ffordd wych i gofio am Ethan - mae hefyd yn helpu ffrindiau a theulu i gadw'n actif sy'n golygu bod eu hiechyd meddwl yn cael ei warchod yn y cyfnod yma."

Ychwanega Paul, tad Ethan: "Mae'n bwysig cofio nad yw problemau iechyd meddwl yn stigma mwyach. Dwi'n hapus i ddweud fy mod i wedi cael cymorth cwnsela. Os ydych yn cael bywyd yn anodd - mae hi mor bwysig deud wrth rywun."

Dywed y teulu eu bod hefyd yn falch bod eraill wedi elwa o organau Ethan. Mae dynes yn ei 50au wedi derbyn aren, dyn wedi cael ei galon a phlentyn wedi cael coluddyn, pancreas ac iau.

"Bydd yr hyn mae Ethan wedi ei adael ar ôl yn parhau ac mae hynna o gysur," ychwanegodd Paul Ross.

Pynciau cysylltiedig