Ateb y Galw: Y gitarydd Dafydd Dabson
- Cyhoeddwyd
Y gitarydd a'r cyfansoddwr Dafydd Dabson sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma ar ôl iddo gael ei enwebu gan SERA yr wythnos diwethaf.
Mae Dafydd yn gitarydd ac yn gyfansoddwr sy'n byw yng Nghaerdydd. Mae'n perfformio fel gitarydd ac yn ysgrifennu i'r bandiau Codewalkers a Derw. Ar hyn o bryd mae'n perfformio gyda Donna Marie (sy'n canu caneuon Lady Gaga) a gyda'r sioe theatr A Star is Born this Way. Mae Dafydd newydd berfformio yn Tafwyl gyda Derw ac mae hefyd yn gweithio fel tiwtor gitâr.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Cerdded adra o dŷ ffrind yn gafael llaw Mam a bwyta darn o fara. Oeddan ni'n byw yn Llundain ar a pryd felly rhaid bo' fi rhyw dri neu bedwar. S'gen ai ddim syniad pam dwi'n cofio fo, mae o'n eitha' dibwys rili.
Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn neud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?
'Dio'm yn bell iawn yn ôl ond 'nes i weld Mam a Dad am y tro cyntaf mewn bron i flwyddyn wythnos diwethaf.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Jest cyn y cyfnod clo roedd gen i gig flwyddyn newydd yn Sochi efo'r Lady Gaga Tribute dwi'n chwarae efo. Oeddan nhw'n sortio'r offerynnau i gyd so nes i jest mynd â cwpwl o pedals, jacks a clip-on tiwnar. Camgymeriad mawr! Oedd y soundcheck yn grêt ond pan aethom ni allan ar y llwyfan roedd 'na ormod o sŵn i'r clip-on weithio ar yr acwstic. Pan wnaeth yr amser ddod i chwarae Shallow (y gân oedd pawb yn aros i glywed) 'oedd y gitâr rili allan o diwn. Ma' hanner gynta'r gân jest yn gitâr a llais ac yn araf a melodic felly doedd 'na n'unlle i guddio. Nes i gario 'mlaen ond oedd hi mor boenus! Dwi 'di dysgu ngwers ond 'di gweddill y band ddim yn gadael i fi anghofio fo!
Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?
O ran podcasts dwi'n lecio Making Sense gan Sam Harris ar gyfer pethau difrifol, Hello Internet pan dwi eisio rhywbeth llai intense - jest dau foi yn siarad am bethau random am gwpl o oriau.
Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?
Gig cyntaf Codewalkers efo'r band llawn. Oeddan ni newydd ddod oddi ar y llwyfan ac wedi gafael ar rhywun i dynnu'n llun ni - oedd hi'n deimlad grêt chwarae'n caneuon ni efo grŵp o ffrindiau am y tro cyntaf.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod? Pam?
Ar hyn o bryd dwi jest eisio cael peint efo cwpl o ffrindiau. Mae hi 'di bod rhy hir!
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Cnoi gwinedd. Dwi'n gorfod cadw'n llaw dde chydig yn hirach ar gyfer gitâr felly dwi'n sticio at y llaw chwith!
O archif Ateb y Galw:
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Anodd dewis. 'Oedd gweld Neil Young yn Glastonbury yn eitha' arbennig.
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Dadansoddol, penderfynol, lletchwith
Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?
Byswn i'n leicio bod yn Jacob Collier am ddiwrnod. 'Swn i'n sgwennu llwyth o fiwsig, ebostio fo i fi fy hyn a wedyn dileu unrhyw drywydd fel bysa fo byth yn gwybod!
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Dwi'm yn cofio'n benodol. Mwy na thebyg wrth wylio ffilm neu rhywbeth ar y teledu, dio'm yn cymeryd lot!
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
'Swn i'n lecio dweud rhywbeth ecseiting ond mwy na thebyg byswn i jest yn panicio.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Unrhyw le heibio Criccieth ar yr A470 pan dwi'n mynd adra. Wastad yn teimlo fel bod ni bron yna!
Dyweda rhywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Dwi bron byth yn bwyta brecwast.
Beth ti'n edrych mlaen at wneud mwya' unwaith fydd pandemig Covid wedi dod i ben?
Gallu gwneud mwy o bethau heb orfod planio gymaint.