Pum munud gyda'r bardd Gwion Hallam
- Cyhoeddwyd
Gyda'r Ewros ar y gorwel, mae'n dda bod Bardd y Mis Radio Cymru yn aelod o'r Wal Goch.
Daw Gwion Hallam yn wreiddiol o Rydaman, ond mae cefnogwr yr Elyrch wedi hen wneud ei nyth yn Y Felinheli lle mae'n byw gyda'i wraig a'u pedwar mab.
Mae'r cynhyrchydd teledu, enillodd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Môn yn 2017 newydd gyhoeddi ei nofel gyntaf i oedolion, Adnabod.
Petai'n bosib symud un peth o'ch ardal enedigol yn Rhydaman a'i osod yn Y Felinheli, heblaw am deulu a ffrindiau, beth fyddech chi'n ei ddewis?
Stadiwm clwb pêl-droed Abertawe, Y Swans, fyddwn i'n ei symud yma i'r Felinheli. Er yn gefnogwyr brwd o'r Elyrch yn ein tŷ ni mae'n dipyn o daith i lawr o'r gogledd orllewin i ddinas Abertawe a Stadiwm Liberty.
Mae'n haws teithio i gemau oddi cartref yn aml, a dros y blynyddoedd 'y ni wedi bod i weld yr Elyrch yn chwarae yn erbyn nifer o glybiau gogledd Lloegr, fel Lerpwl, Bolton, Manchester City a Preston. Mi fyddai symud stadiwm Liberty i fod ar lan Y Fenai yn hytrach nag ar lan afon Tawe yn handi iawn, i ni o leia'!
Rydych chi'n dilyn pêl-droed - y 'gêm brydferth' sy'n agos at gelfyddyd meddai rhai. Ydych chi'n cael yr un wefr o ddilyn y bêl gron â darllen cerdd? A pha chwaraewr sydd debycaf i fardd ar y cae a pham?
Y peth cyntaf i'w nodi falle yw nad yw gwylio gêm bêl-droed na darllen cerdd yn siŵr o roi gwefr bob tro. Mae yna gemau - a cherddi! - sy'n gallu bod yn arbennig o ddiflas. A bod yn hollol onest nid yw gwylio Abertawe'r tymor hwn wedi bod yn ysbrydoledig iawn yn aml. Er eu bod ar hyn o bryd (wrth ateb y cwestiynau yma) yng nghanol y frwydr gemau ail gyfle ar frig y gynghrair, nid ydynt wir wedi chwarae pêl-droed prydferth iawn wrth gyrraedd y fan yma.
O ran chwaraewr sy'n debyg i fardd? Mae yna nifer o chwaraewyr sy'n hoffi sylw a chlywed eu lleisiau eu hunain ac mae hynny'n wir am aml i fardd hefyd.
O ran chwaraewyr Abertawe efallai mai André Ayew sy'n dod i'r meddwl yn syth. Mae'n gallu bod yn hollol wych, ac fel ambell i fardd yn gallu creu rhywbeth creadigol weithiau o ddim byd, fel yr unig gôl yn y gêm gyntaf yn y gemau ail gyfle sydd newydd fod rhwng Abertawe a Barnsley.
Ond wedyn ar adegau mae fel petai ganddo fwy o sŵn na sylwedd - yn llawn sioe ac yn driciau anhygoel i gyd ond â dim byd i'w ddangos ar y diwedd. Ac mae yna gerddi sydd fel'na hefyd. Cerddi sy'n swnio'n arbennig o dda ond yn dweud fawr o ddim byd wir!
Rydych chi wedi cyhoeddi llyfrau i blant, pobl ifanc ac oedolion. Beth oedd eich hoff lyfr yn ystod y cyfnodau hynny o'ch bywyd chi?
Dwi ddim yn meddwl bod gen i un llyfr penodol sy'n hoff lyfr mewn unrhyw gyfnod a bod yn onest. Ond mae yna lyfrau sy'n bendant wedi aros yn fyw iawn i mi am flynyddoedd wedyn.
Yn blentyn ifanc fe wnes i ddarllen llyfr lluniau a stori Maurice Sendak, Where the Wild Things Are ac mae'r lluniau - a'r geiriau - yn dal i godi gwên a dychryn. "Y noson honno, yn ystafell Max, dyma yna goedwig yn tyfu a thyfu..."
Yn berson ifanc mi wnaeth darllen cerddi Bobi Jones fy nghyffroi a'm troi i gyfeiriad barddoni, a dangos sut y mae cerddi'n gallu bod yn glasurol a chwyldroadol yr un pryd.
Fel un sydd wedi siarad mewn ralïau Yes Cymru, ydych chi'n meddwl gwelwch chi'ch gwlad yn un annibynnol?
Yr ateb sydyn yw ydw. A gwlad annibynnol yn yr ystyr y o fod yn wlad normal fel cymaint o wledydd eraill sydd â'r hawl i reoli a threfnu ei dyfodol ariannol, cyfreithiol a gwleidyddol ei hunan.
Nid gwlad sy'n ynysig, ac yn dewis ymddwyn ar wahân heb ystyried y gwledydd sy'n gymdogion i ni; nac am fod yn annibynnol am ein bod yn well na gwledydd eraill. Ond gwlad sy'n haeddu bod yn annibynnol am ein bod yn gydradd o ran hawliau, gallu a chyfoeth naturiol i wledydd eraill annibynnol, e.e. Lloegr, Yr Alban ac Iwerddon (gan dderbyn fod yr Alban am ddewis annibyniaeth cyn hir!).
Petaech chi'n gallu bod yn unrhyw fardd arall am ddiwrnod - byw neu hanesyddol - pwy fyddai o neu hi, a pham?
Tudur fy mrawd. Mae'n dalach na fi ac mae ganddo lond pen o wallt. Mae beirdd ar y cyfan yn gallu poeni gormod am eu delwedd felly mae cael gwallt da yn bwysicach na dim!
Pa ddarn o farddoniaeth fyddech chi wedi hoffi ei ysgrifennu?
Mae cymaint o gerddi, neu linellau a delweddau penodol yn fwy na cherddi cyfan efallai. Mae yna ddarnau o gerddi sydd wedi gorfodi eu hunain ar fy nhafod a'm cof, nes mod i wedi trio eu gwneud yn rhan ohonof. Ond nid fi wnaeth eu sgwennu o hyd!
Eryri yw Iwerydd / un ias fer rhwng dwy nos faith / pan oedd Sadyrnau'n las / mae lôn yn ein calonnau / a chawsom iaith er na cheisiem hi
O ba le ymroliai'r môr goleuni? / Mae'r coed yn noeth ond ni bia'r awyr / ac mae ciwcymbars Wolverhampton yn Gymreiciach na'r Cymry i gyd!
Beth sydd ar y gweill ar hyn o bryd?
Rhaglen ddogfen i S4C o'r enw Dylan a Titw i Ben Draw'r Byd. Comedi o'r enw Rockdown ar gyfer sianel YouTube Ffilmiau Twm Twm. A sgwennu'r cerddi yma i Radio Cymru dros gyfnod cystadleuaeth pêl-droed Euro 2020.
Hefyd o ddiddordeb: