Arestio pedwar mewn cysylltiad ag anhrefn Mayhill
- Cyhoeddwyd
Mae pedwar person lleol wedi cael eu harestio mewn cysylltiad â'r anhrefn yn ardal Mayhill Abertawe nos Iau.
Dywed Heddlu De Cymru bod tri dyn 36, 20 a 18 oed a bachgen 16 oed yn y ddalfa ar ôl cael eu harestio ar amheuaeth o drais anghyfreithlon.
Cafodd saith o swyddogion heddlu eu hanafu wrth iddyn nhw geisio delio gyda chriwiau o bobl ifanc oedd wedi ymgynnull yn wreiddiol ddathlu bywyd dyn ifanc lleol a fu farw'n annisgwyl ddydd Mercher.
Ond fe drodd yr achlysur yn anhrefn gyda rhai yn rhoi ceir ar dân a thaflu brics at dai yn Heol Waun-Wen.
Apêl am wybodaeth
Dywedodd y Ditectif Uwcharolygydd Gareth Morgan, sy'n arwain yr ymchwiliad: "Mae yna lawer o drigolion oedd yn bresennol yn ystod y cythrwfl, a fydd yn gwybod pwy wnaeth achosi'r difrod a bygwth trais.
"Rwy'n erfyn ar y cyhoedd i beidio gwarchod y rheiny a amlygodd y fath ddifaterwch at gymuned Mayhill a rhoi i ni enwau'r unigolion hynny y gellir eu gweld mewn lluniau ar y cyfryngau cymdeithasol.
"Mae gyda ni dîm neilltuol o dditectifs sy'n cynnal ymholiadau dwys i adnabod pobl oedd yn rhan o'r digwyddiad, ac rydym yn barod i weithredu ar sail unrhyw wybodaeth sy'n cael ei derbyn.
"Bydd ditectifs a heddweision yn bresennol ac yn weledol yn y gymuned dros y dyddiau ac wythnosau nesaf, ac mae disgwyl i ragor gael eu harestio."
Ychwanegodd bod modd o unrhyw un sy'n dymuno mynd i'r heddlu yn wirfoddol wneud hynny trwy fynd i Orsaf Heddlu Canol Abertawe.
Dywed datganiad y llu bod dim trafferthion pellach wedi bod yn yr ardal ers nos Iau.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Roedd faniau heddlu wedi parcio ar gorneli strydoedd nos Wener ac roedd swyddogion yn gofyn i bobl ble roedden nhw'n mynd a pham.
Roedd y llu'n atal pobl rhag mynd i Heol Waun-Wen.
Dywedodd Prif Gwnstabl Heddlu'r De, Jeremy Vaughan ddydd Gwener y bydd yn troi pob carreg i adnabod yr oddeutu 200 o bobl oedd yn rhan o'r cythrwfl.
Bydd y llu'n archwilio lluniau CCTV a lluniau ar y cyfryngau cymdeithasol i adnabod yr unigolion oedd yn gyfrifol. Maen nhw'n annog pobl i anfon lluniau a fideos wrth i'w hymholiadau barhau.
Mae'r lluniau a ddaeth i'r amlwg nos Iau "yn frawychus, a ddim yn olygfa y buasech chi'n ei ddisgwyl mewn cymuned mor glos", medd Tom Giffard, Aelod Ceidwadol o'r Senedd yn rhanbarth Canol Gorllewin Cymru.
Mae'n "anodd" dod i gasgliadau pendant ar sail fideos byr ar-lein, meddai ond mae'n dweud bod cwestiynau'n codi ynghylch yr hyn ddigwyddodd ac ymateb yr heddlu.
"Mae'n amlwg bod yna gyfnodau pan roedd nifer y bobl yn yr ardal [yn sylweddol uwch] o'i gymharu â nifer yr heddlu yno," meddai wrth raglen Breakfast Radio Wales.
"Rhaid gofyn cwestiynau ynghylch hyblygrwydd a chyflymder cael yr heddlu yno mewn niferoedd mawr."
"Rwyf wedi cael awgrym bod cannoedd o bobl yn taflu pethau atyn nhw, ac roedd yna ddau heddwas gyda tharianau rhag terfysg ac un fan heddlu.
"Yn amlwg, fyddwn ni ddim yn disgwyl i'r heddlu wneud llawer dan yr amgylchiadau yna, felly rwy'n meddwl bod yna gwestiwn teg i'w ofyn pam nad oedd rhagor o adnoddau yno yn gynt."
Yn ôl Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu'r De, Jenny Gilmer cafodd swyddogion eu hanfon i'w ardal "o fewn munudau".
Mewn neges ar Facebook ddydd Gwener, dywedodd bod y sefyllfa'n un "heriol", a bod swyddogion wedi eu hanfon i ardal Mayhill o bob rhan o'r rhanbarth.
Pobl yn 'grac'
Mae'r cerddor Angharad Jenkins yn byw ger ardal Mayhill. Dywedodd wrth raglen Dros Frecwast ddydd Sadwrn bod digwyddiadau nos Iau wedi "siglo'r gymuned shwd gyment ma'r gymuned... yn barod iawn i enwi'r rhai oedd yn involved".
"Dyw e ddim yn rywbeth sy'n digwydd yn yr ardal yma o gwbwl, a ma' pawb mor grac am y peth, fi'n credu bod pawb isie pawb sydd 'di bod yn rhan [o'r anhrefn] gael eu cosbi."
Mae dyn o ardal Fforestfach yn ceisio cysylltu â pherchennog un o'r cerbydau gafodd eu difrodi nos Iau i gynnig ei hen Vauxhall Astra, gan ei fod wedi prynu car newydd yn ddiweddar.
Dywed Ben Wheel, hyfforddwr ffitrwydd personol 27 oed, ei fod yn awyddus i helpu ar ôl gweld yr hyn a ddigwyddodd.
"Mae'n warthus," meddai. "Does dim un ffordd y dylai hyn fod wedi digwydd."
Mae perchennog busnes yn Abertawe, Sophie Heneberry ymhlith nifer sydd wedi bod yn helpu codi arian ar gyfer pobl sydd wedi eu heffeithio gan yr anhrefn.
Dywedodd bod pobl "yn barod i helpu mewn pob math o ffyrdd", gan gynnwys clirio'r llanastr, gosod byrddau pren ar ffenestri a gafodd eu torri, a chyfrannu'n ariannol.
"Mae pobl wedi bod yn rhyfeddol," meddai Ms Heneberry. "Dyna'r Abertawe ry'n ni'n ei nabod."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Mai 2021
- Cyhoeddwyd21 Mai 2021
- Cyhoeddwyd21 Mai 2021