Mwy o achosion amrywiolyn India 'yn debygol' yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae'r gweinidog iechyd "yn sicr" yn disgwyl mwy o achosion o amrywiolyn India o'r coronafeirws yng Nghymru dros yr wythnosau nesaf.
Dywedodd Eluned Morgan ei bod yn "debygol o ddigwydd" o ystyried yr hyn mae'r llywodraeth yn ei wybod am yr amrywiolyn.
Mae 'na amheuaeth bod yr amrywiolyn yn lledaenu'n gynt o fewn y boblogaeth.
Ond mae astudiaeth yn dangos bod brechlynnau Pfizer ac AstraZeneca yn effeithiol yn ei erbyn.
Dywedodd Ms Morgan hefyd bod lefelau'r feirws yn dal yn "isel iawn" yng Nghymru ar hyn o bryd.
Wrth siarad yng nghynhadledd coronafeirws Llywodraeth Cymru ddydd Llun, dywedodd y prif swyddog meddygol fod "tua 57" o achosion o'r amrywiolyn diweddaraf yma erbyn hyn.
Dywedodd Dr Frank Atherton fod y cynnydd mewn achosion yn "rhywbeth y mae angen i ni ei wylio'n ofalus iawn" gan fod y niferoedd wedi "cynyddu yn ystod yr ychydig ddyddiau diwethaf".
Ychwanegodd Dr Atherton mai'r mesurau fel pellhau cymdeithasol a gorchuddio wynebau oedd "y pethau sy'n ein cadw ni'n ddiogel" ac roedd risg y gallai'r sefyllfa "fynd i'r gwrthwyneb" pe bai'r mesurau hynny'n cael eu llacio.
"Fe ddylen ni barhau ar y dull pwyllog yma yng Nghymru".
Ychwanegodd: "Dylai'r cyhoedd boeni am y cynnydd eto mewn coronafeirws yn gyffredinol mewn gwirionedd.
"Mae gennym nifer fach o achosion, 57 ar hyn o bryd o'r amrywiad Indiaidd, fel y mae'n cael ei alw, ond tanamcangyfrif fydd hynny ac rwy'n disgwyl i'r niferoedd godi."
Mae'r rhan fwyaf o'r 57 achos yn ardal bwrdd iechyd Caerdydd a'r Fro, yn ôl Dr Atherton.
Dywedodd bod achosion wedi'u canfod ym mhob ardal bwrdd iechyd ar wahân i Powys.
Ond dywedodd fod modd olrhain pob un o'r achosion yng Nghymru yn ôl i "bwynt mynediad... felly rydyn ni'n eu rheoli fel clystyrau".
Atal teithio i ardaloedd yn Lloegr?
Yn gynharach ddydd Llun, ar raglen Dros Frecwast Radio Cymru, dywedodd Eluned Morgan bod yr amrywiolyn yn "lledaenu yn fwy cyflym", ac felly bod y llywodraeth wedi cynllunio camau nesaf posib.
"Ni yn gofidio y bydd yr ystadegau'n codi, mae hynny'n debygol o ddigwydd, o beth ni'n deall hyd yma o'r amrywiolyn yma.
"Ni wedi sicrhau bod mesurau mewn lle os welwn ni gynnydd yng nghyfradd y feirws yma, yn yr amrywiolyn yma.
"Fydd 'na gyfle i ni fynd mewn i gymunedau i gynyddu'r gyfradd ry'n ni'n rhoi brechlyn yn y cymunedau yna, a falle dod ymlaen gyda'r ail dos.
"Felly mae rhaglen gyda ni mewn golwg, ond dy'n ni yn disgwyl gweld fwy o achosion yn ystod yr wythnosau nesa' yn sicr."
Yn wahanol i'r Alban, nid yw pobl yng Nghymru yn cael eu hatal rhag teithio i lefydd yn Lloegr gyda nifer uchel o achosion o'r amrywiad Indiaidd.
Ond ychwanegodd Eluned Morgan y bydd y llywodraeth "yn adolygu'r sefyllfa'n gyson".
Er y pryderon am yr amrywiolyn newydd, dywedodd y gweinidog nad yw ailagor y sector lletygarwch ym mis Ebrill wedi achosi naid mewn achosion.
Roedd pobl yn cael cyfarfod yn yr awyr agored o 26 Ebrill, a hyd yma "ychydig iawn o effaith mae hynny wedi ei gael", meddai.
Ond ychwanegodd ei bod yn rhy gynnar i weld effaith posib llacio rheolau ar gyfarfod dan do, a ddaeth i rym ar 17 Mai.
"Ry'n ni yn eitha' hapus gyda'r ffordd mae pethau wedi digwydd o ran llacio tu fas, fel chi'n gweud mae'n rhy gynnar i 'neud asesiad ar y feirws yn symud tu mewn eto - gewn ni weld dros yr wythnosau nesa'."
Ychwanegodd bod lefelau achosion Cymru yn gyffredinol yn parhau'n isel - ar tua 10 i bob 100,000 o bobl, sy'n "iawn o'i gymharu gyda ble y'n ni wedi bod".
Cafodd 101 o achosion newydd o Covid-19 ond dim un farwolaeth eu cofnodi ddydd Llun, ond hynny dros gyfnod o 48 awr.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Mai 2021
- Cyhoeddwyd4 Mehefin 2021