Cei Connah: Dynes yn y llys ar gyhuddiad o lofruddio dyn

  • Cyhoeddwyd
Heddlu yn nhafarndy'r Old Quay House ddydd Sul
Disgrifiad o’r llun,

Roedd swyddogion heddlu'n parhau i ymchwilio i'r achos yn yr ardal ddydd Sul

Mae dynes 46 oed wedi ymddangos mewn gwrandawiad byr yn y llys wedi'i chyhuddo o lofruddiaeth yn Sir y Fflint.

Mae Emma Berry o Ffordd y Doc, Cei Connah, wedi'i chyhuddo o ladd Dean Michael Bennett, 31, brynhawn Sadwrn diwethaf.

Clywodd Llys Ynadon Llandudno ddydd Mawrth fod Mr Bennett wedi'i drywanu.

Cafodd ei gludo mewn awyren i'r ysbyty ond bu farw'n ddiweddarach.

Cafodd y diffynnydd ei chadw yn y ddalfa a bydd yn ymddangos yn Llys y Goron yr Wyddgrug ddydd Mercher.

Byddai'n rhaid gwneud unrhyw gais am fechnïaeth i'r barnwr yno.

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi diolch i drigolion lleol a'r rhai sydd wedi cynorthwyo gydag ymchwiliadau ond maen nhw wedi apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth sydd eto i ddod ymlaen i wneud hynny ar unwaith.

Mae dyn 35 oed a merch 16 oed a gafodd eu harestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad bellach wedi cael eu rhyddhau heb gyhuddiad.

Ni fydd unrhyw gamau pellach yn cael eu cymryd yn eu herbyn.