Galw eto ar i felin hanesyddol fod yn nwylo'r gymuned

  • Cyhoeddwyd
Melin y Brenin
Disgrifiad o’r llun,

Caeodd y felin yn yr 1940au a'r throi'n ganolfan ymwelwyr yn 1991

Mae ymgyrchwyr yn galw eto ar Gyngor Wrecsam i siarad gyda nhw er mwyn rhoi melin hanesyddol yn nwylo'r gymuned.

Methodd Melin y Brenin werthu mewn ocsiwn ym mis Mawrth, ac mae hi wedi dod i'r amlwg bod prynwr posib wedi tynnu'n ôl yn ddiweddarach oherwydd problemau gyda'r safle.

Wrth i'r cyngor wahodd cynigion pellach, mae Grŵp Cymuned Melin y Brenin yn dweud bod ganddyn nhw'r "sgiliau" i'w throi'n adnodd i'r ardal.

Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor eu bod yn "cydlynu â'r arwerthwyr ynghylch dyfodol yr adeilad".

Saif y felin ŷd ger mynedfa Llwybr Clywedog, sy'n cysylltu'r dref â safleoedd hanesyddol fel stad Erddig a Chanolfan Treftadaeth y Bers.

Roedd yn ganolfan i ymwelwyr yn y 1990au ond mae'n wag ers 2013.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r felin yn fan cychwyn i Lwybr Clywedog, sy'n cysylltu Wrecsam a safleoedd hanesyddol y dyffryn cyfagos

Yn yr arwerthiant ym mis Mawrth, roedd y cynnig gorau £1,000 yn llai na'r isafswm o £165,000, ac mae ymgyrchwyr yn dweud eu bod wedi ceisio siarad gyda'r cyngor yn dilyn hynny.

"Fel ar y cychwyn, 'dan ni eisiau iddyn nhw siarad efo ni," meddai cadeirydd Grŵp Cymuned Melin y Brenin, Phil Phillips.

"Siaradwch efo ni. Mae gynnon ni gynlluniau i ddod â hi'n ôl. Nid mater o ennill ceiniog sydyn ydy hyn - mae'r adeilad yma'n mynd i gostio llawer iawn o arian [i'w atgyweirio]."

Yn ôl Mr Phillips, mae'r grŵp yn barod i dalu £10,000 am y safle a'i drwsio gan ddefnyddio noddwyr, grantiau a gwirfoddolwyr.

"Mae gynnon ni'r gallu, y sgiliau, y bobl, a hefyd yr ewyllys, os liciwch chi, i ddod â'r felin yma'n ôl i'r gymuned lle mae hi i fod."

Un arall oedd â diddordeb yn y safle yw Vicki Roskams o sefydliad Enbarr yn Sir y Fflint, sydd wrthi'n adnewyddu adeilad John Summers yn Shotton.

Disgrifiad o’r llun,

Pris awgrymedig y felin yn yr arwerthiant ar 24 Mawrth oedd £165,000

Cafodd gynnig y felin wedi i'r arwerthiant gwreiddiol ddod i ben, ond ar ôl cytuno i'w prynu penderfynodd dynnu'n ôl oherwydd amgylchiadau'n ymwneud â'r maes parcio, hawliau tramwy, mwyngloddio a hawliau pysgota.

Mae rhai o'r materion hynny'n cael sylw mewn e-bost gan yr arwerthwyr sy'n gwahodd prynwyr posib i gyflwyno'u "cynnig gorau a diamod" erbyn 17:00 ar 2 Mehefin.

Yn ôl Ms Roskams, mae gwaith i'w wneud ar y safle.

"Mae angen llawer o waith ar y sylfaeni a chlirio'r dyfrffyrdd islaw," meddai.

Bydd y cyngor yn cyfarfod i drafod y cynigion ar 8 Mehefin, yn ôl yr e-bost gan yr arwerthwyr.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Wrecsam wrth BBC Cymru: "Ar hyn o bryd, rydym yn cydlynu â'r arwerthwyr ynghylch dyfodol yr adeilad hwn a byddwn yn rhoi diweddariad i aelodau ym mis Mehefin."

Pynciau cysylltiedig