'Mae'r rheolau am werthu capeli yn annheg'

  • Cyhoeddwyd
Capel UticaFfynhonnell y llun, Capel Utica
Disgrifiad o’r llun,

Mae Elfed Wyn ap Elwyn wedi arwain ymgyrch leol i brynu capel Utica yn Gellilydan

Dywed un o gynghorwyr Sir Conwy bod yn rhaid lobïo llywodraeth y DU i newid y rheolau sydd ynghlwm â phrynu adeiladau fel capeli a bod y rheolau presennol yn "annheg".

Ar hyn o bryd mae'r Comisiwn Elusennau yn nodi bod yn rhaid i ymddiredolwyr unrhyw elusen sicrhau y fargen orau wrth werthu adeilad.

Wrth siarad ar Bwrw Golwg dywedodd Trystan Lewis bod rheolau o'r fath yn annheg.

"Mae angen lobïo llywodraeth San Steffan a dweud nad yw hyn yn deg," meddai.

"Ein cyn-deidiau gododd y capeli yma drwy chwys eu talcennau. Maent wedi'u codi ag arian prin y gymuned ac yna maent yn cael eu gwerthu am grocbris i bobl estron neu eu troi'n garejis - gan wneud mwngreliaid ohonyn nhw a difetha'r bensaernïaeth."

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Elfed Wyn ap Elwyn mai'r ymgyrch capel Tom Nefyn a'i sbardunodd

Daw ei sylwadau wrth i Elfed Wyn ap Elwyn arwain ymgyrch i geisio prynu ei gapel lleol. Mae e'n disgwyl cael clywed yn fuan a yw'r cais i brynu capel Utica yn Gellilydan ar gyfer y gymuned wedi llwyddo mewn ocsiwn yn Llundain.

Mewn datganiad dywedodd llefarydd ar ran y Comisiwn Elusennau: "Yn unol â'n canllawiau, wrth werthu neu brydlesu tir ac eiddo elusennol, dylai pob ymddiriedolwr geisio cael y fargen orau i'w helusen.

"Disgwyliwn i bob ymddiriedolwr wneud penderfyniadau er lles gorau yr elusen. Rhaid i'r penderfyniadau hyn hefyd fod yn unol â dibenion cyfreithiol yr elusen honno, ei dogfen lywodraethol a'r gyfraith ar werthu a phrydlesu tir elusennol.

"Diben elusen yw'r hyn y mae wedi'i sefydlu yn ôl y gyfraith i'w gyflawni, ac fel arfer ceir y manylion yn y ddogfen lywodraethol.

"Rydym yn deall y gallai'r penderfyniadau hyn fod yn anodd weithiau ac efallai y bydd y gymuned leol yn teimlo'n gryf neu'n anghytuno â'r penderfyniadau a wneir yn unol â'r gyfraith a dyletswyddau ymddiriedolwyr."

Ffynhonnell y llun, Trystan Lewis
Disgrifiad o’r llun,

'Mae angen newid y gyfraith am brynu adeiladau capeli,' medd y Cynghorydd Trystan Lewis

"Dyna ganolbwynt y broblem," ychwanegodd Trystan Lewis sy'n aelod o bwyllgor cynllunio Cyngor Conwy.

"Mae'n rhaid lobïo i newid hyn - mae angen cael mwy o adeiladau sy'n adnodd i'r gymdeithas. Mae yna fwy o angen nag erioed am ganolfannau cymunedol wrth i bobl brofi unigrwydd wedi'r pandemig."

'Nid yr elw mwyaf yw'r gwerth gorau'

Dywed Elfed Wyn ap Elwyn mai'r ymgyrch i brynu capel Tom Nefyn a'i sbardunodd i arwain ymgyrch i geisio prynu capel Utica.

"'Nes i deimlo'n ofnadwy ar ôl gweld bod Capel Bethania ym mhentre Pistyll wedi cael ei werthu am dros chwarter miliwn.

"Roedd meddwl am weld capel Utica yn cael ei droi i dŷ haf yn ormod i fi rywsut. Dwi'n meddwl bod capel Utica yn le delfrydol i ddatblygu menter gymdeithasol.

"Mi fedrith gwerthiant capel gyfoethogi ardal mewn llawer mwy o ffyrdd na jyst yn ariannol. Os yw'r capel yma yn dod i ddwylo'r gymdeithas leol, fydden i'n gallu creu swyddi parhaol ac hefyd cadw hanes y lle yn fyw. Mae angen iddo fod yn adeilad cymdeithasol."

Dywedodd Sioned Hughes, prif ymgynghorydd, Cwmni Tai Altair: "Rhaid ystyried nad yr elw mwyaf yw'r gwerth gorau. Mae'n amser i'r Comisiwn elusennau a'r gyfraith fod yn edrych ar werth am arian. Fydd yna ddim newid nes bod y crafangau yma ar ymddiredolwyr yn gallu symud."

Pynciau cysylltiedig