'Effaith Covid ar blant a gwasanaethau eto i ddod'
- Cyhoeddwyd
Mae'n bosib fod "lles cenhedlaeth gyfan o blant" wedi cael niwed oherwydd y modd mae rheolau Covid wedi effeithio ar weithwyr cymdeithasol yn ôl y sector.
Daw hyn wrth i'r ffigyrau diweddaraf ddangos gostyngiad o 20% yn nifer y gorchmynion diogelu ar gyfer plant - sef y drefn o osod pobl ifanc o dan ofal yr awdurdodau lleol.
Pryder y sector yw y bydd y nifer yma yn cynyddu'n sylweddol wrth i gyfyngiadau Covid gael eu llacio ymhellach.
"Mae yna o bosib gymaint â chenhedlaeth gyfan o blant a phobl ifanc sy' wedi cael niwed, neu ddim yn cael eu diogelu, a dyw hynny ddim yn dderbyniol," meddai Alison Hulmes, cyfarwyddwr BASW Cymru - y gymdeithas sy'n cynrychioli gweithwyr cymdeithasol.
Tu allan i gyfnod y pandemig fe fyddai gostyngiad yn nifer y gorchmynion diogelu, sef plant yn cael eu rhoi mewn gofal, yn cael ei weld fel rhywbeth positif gan olygu peidio gorfod gwahanu plant o'u teuluoedd.
Ond gan nad yw ysgolion, gweithwyr ieuenctid a gweithwyr cymdeithasol wedi gallu cadw llygad mor fanwl ar y rhai mwyaf bregus mewn cymdeithas oherwydd rheolau Covid, mae yna bryderon am y dyfodol. Mae cwestiynau fel a fydd digon o staff ac adnoddau ar gael i ddelio gyda'r cynnydd mewn galw.
"Rydym yn sicr yn disgwyl i'n niferoedd gynyddu yn sylweddol," meddai Ms Hulmes.
"Mae'r cyfleoedd cynnar i allu gweld lle'r oedd yna broblemau yn bod wedi bod yn absennol yn ystod y pandemig."
Dywedodd fod rôl ysgolion yn y broses diogelu wedi ei effeithio, gan eu bod wedi bod ynghau am gyfnodau hir.
Rhoi plentyn mewn gofal yw'r cam olaf un o safbwynt yr awdurdodau lleol - i'r sawl sydd angen cymorth fe allai fod yn fendith.
Profiad Emma
Dywedodd Emma ei bod yn cael ei cham-drin yn wael gan ei rheini "yn emosiynol ac yn gorfforol".
"Yna cefais fy ngham-drin yn rhywiol gan fy nhad, pan oeddwn yn ifanc iawn tua chwech.
"Cefais fy mhwnio gan un rhiant o flaen y gweithiwr cymdeithasol a chefais fy rhoi yng ngofal yr awdurdod. Roedd hynny ond i fod am bythefnos ond yna dywedodd fy mam nad oedd hi mi am fynd nôl adre."
Erbyn hyn mae Emma yn 31 ac yn dweud mai ei symud o'i chartref oedd yr opsiwn cywir a'r "unig opsiwn iddi hi".
"Fe es i gartref plant ac ar y cyfan roedd o'n beth da i fod o amgylch plant oedd â phrofiadau tebyg," meddai.
"Roedd e'n rhoi rhyw fath o reolau a ffiniau, ac mae'n siŵr mai dyna beth oeddwn ei angen. Roedd o'n dda."
Yn ôl ffigyrau sydd wedi eu gweld gan y BBC, y llynedd cafodd 1,120 o orchmynion eu gwneud yng Nghymru rhwng Mawrth 2020 ac Ionawr 2021.
Mae hynny yn ostyngiad o 1,400 ar y flwyddyn flaenorol.
Dywedodd Christopher Dunn, o Voices for Care Cymru, nad oedd y ffigyrau yn syndod iddo
"Rydym yn gwybod fod canran uchel o gyfeiriadau ar gyfer gorchmynion yn dod o'r maes addysg neu iechyd, ac rydych yn gwybod nad oedd y bobl ifanc dan sylw yn cael eu gweld gan yr oedolion yna fyddai'n eu diogelu fel arfer a hynny am resymau dealladwy," meddai
Dywedodd Tayler, o orllewin Cymru, na fyddai hi wedi mynd i'r brifysgol oni bai ei bod wedi bod drwy'r gyfundrefn gofal ers yn bedair oed.
"Mae'n gymaint o bechod y bydd rhai pobl yn colli mas oherwydd nad ydynt yn gwybod yn wahanol," meddai.
"Maen nhw'n meddwl bod yr hyn sy'n digwydd yn OK a hynny yw'r peth sy'n achos pryder. Oherwydd dydyn nhw ddim yn gwybod mai'r hyn sy'n digwydd yw esgeulustod neu gam-drin neu rywbeth tebyg."
'Mynd i'r afael â'r heriau'
Dywed Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLLC) ei fod yn amlwg fod gwir effaith coronafeirws ar blant a gwasanaethau plant "eto i ddod."
"Mae cynghorau yn pryderu yn fawr am effaith Covid-19 ar blant bregus... ac yn gynyddol yn tanlinellu pryderon am y gofynion fydd yn cael eu rhoi ar wasanaethau wrth i reolau'r cyfnod clo gael eu llacio," meddai llefarydd.
Dywed y gymdeithas ei bod yn pwyso ar Lywodraeth Cymru i wneud yn siŵr fod arian ar gael i "gwrdd â'r cynnydd mewn galw a'r pwysau ychwanegol yn y tymor byr a'r hir dymor".
Dywed Llywodraeth Cymru fod y pandemig wedi golygu problemau ychwanegol i gymhlethdod gwaith cymdeithasol ac y bydd hyn yn "cael effaith i'r dyfodol.
Dywedodd llefarydd eu bod yn gweithio ar y cyd gyda chynghorau a phartneriaid eraill "i fynd i'r afael â'r heriau hyn".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Mai 2021
- Cyhoeddwyd11 Ebrill 2021