Galw am wneud plant mewn gofal yn ymwybodol o'u record

  • Cyhoeddwyd
Victoria PritchardFfynhonnell y llun, Victoria Pritchard
Disgrifiad o’r llun,

Doedd Victoria Pritchard ddim yn ymwybodol bod ei ffeil yn bodoli nes i ddarlithydd ddweud wrthi amdano

Mae dynes gafodd ei cham-drin a'i hesgeuluso pan yn blentyn yn ymgyrchu dros newid y gyfraith i roi gwybod i'r rheiny sy'n gadael gofal bod hawl ganddyn nhw i weld eu record gyda'r gwasanaethau cymdeithasol.

Doedd Victoria Pritchard, 37, ddim wedi sylweddoli bod ganddi'r hawl i weld ei ffeil pan oedd hi'n troi'n 18 oed.

Pan gafodd hi afael arno yn y pendraw, roedd hi'n teimlo fel ei bod wedi'i methu gan y rheiny oedd yn gyfrifol am ei gofal.

Ond mae hi'n dweud y cafodd wybod ei bod yn rhy hwyr i fynd â'r rheiny i gyfraith, er nad oedd hi wedi cael gwybod manylion ei hachos cyn hynny.

Mae Cyngor Sir Gâr bellach wedi lansio ymchwiliad i ofal Mrs Pritchard, ac yn dweud y byddai'n "amhriodol" i wneud sylw pellach gan fod hwnnw ar waith.

Ffynhonnell y llun, Victoria Pritchard
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Victoria Pritchard bod cyfarfod ei gŵr wedi'i helpu i ymdopi gyda'i gorffennol

Mae cyfraith y DU yn rhoi'r hawl i bawb weld y wybodaeth sydd gan wasanaethau plant amdanyn nhw, ond dydy'r rheiny sy'n gadael gofal pan yn 18 oed ddim yn cael eu hysbysu am hynny.

Dywedodd Mrs Pritchard nad oedd hi'n ymwybodol bod ei ffeil yn bodoli nes iddi astudio gradd mewn Gwaith Ieuenctid a Chymunedol.

"Fe wnaeth fy narlithydd ddweud wrtha i y gallwn i weld y ffeil, ac i ddechrau ro'n i jest yn meddwl 'gallai hwnnw fod yn ddiddorol' - wnes i ddim meddwl lot amdano," meddai.

"Ond pan ges i afael arno ro'n i mewn sioc - doeddwn i ddim wedi sylweddoli cyn lleied roeddwn i wedi cael fy helpu."

'Dydy pobl ddim yn ymwybodol o'r peth'

Mae Mrs Pritchard bellach wedi ennill gwobrau am ei gwaith gyda phobl ifanc, ac mae hi nawr yn gweithio ym maes iechyd meddwl plant.

Mae hi wedi dechrau deiseb yn galw ar wasanaethau cyhoeddus i gysylltu â phobl ifanc sy'n gadael gofal pan maen nhw'n troi'n 18 oed i roi gwybod iddyn nhw am fodolaeth eu ffeil.

"Dydy pobl ddim yn ymwybodol o'r peth - efallai y bydd rhai eisiau ei weld a rhai ddim, ond rwy'n credu y dylai fod yn gyfraith eu bod nhw yn cael gwybod bod ganddyn nhw'r hawl," meddai Mrs Pritchard.

"Hefyd, os ydy gwasanaethau cyhoeddus yn gwybod, pan fo'r plentyn yma yn troi'n 18 fe fyddan nhw'n cael gwybod beth sydd yn eu ffeil, fe fyddan nhw'n gweithio i'r safonau gorau posib."

Ffynhonnell y llun, Victoria Pritchard
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Victoria Pritchard dreulio amser gyda'i rhieni ac mewn dau gartref maeth pan yn ifanc

Mae BBC Cymru wedi gweld rhannau o record gofal Mrs Pritchard, sy'n cynnwys ei bod wedi gofyn am fwyd gan wasanaethau cymdeithasol, ond eu bod hwythau wedi dweud nad eu cyfrifoldeb nhw oedd hynny.

"Oll ydw i eisiau ydy newid y gyfraith fel y gall pobl weld eu ffeil nhw - dyw e ddim yn deg ar blant," meddai.

"Rydw i'n un o'r rhai lwcus sydd wedi gallu trawsnewid fy mywyd, ond mae'n bwysig i wneud y newid yma er mwyn helpu'r plant sy'n gadael gofal nawr.

"Mae'r plant yna yn haeddu llais a byddai'n eu galluogi nhw i ddeall yn well yr hyn maen nhw wedi'i brofi, a rhoi gwybod iddyn nhw a oes angen unrhyw help arnyn nhw allai wella eu safon byw yn y dyfodol."

Dywedodd Cyngor Sir Gâr: "Rydyn ni eisoes yn gofyn i'n staff fod yn rhagweithiol gan weithio gyda phlant trwy gydol eu hamser mewn gofal fel eu bod yn cael cyfle cyson i adlewyrchu a gwneud sylw ar eu profiadau."

Pynciau cysylltiedig