Negeseuon sarhaus i reolwraig sydd wedi'i chysylltu â Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
Casey StoneyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Enillodd Casey Stoney 130 o gapiau i Loegr

Mae cyn-reolwr clwb pêl-droed merched Manchester United wedi derbyn negeseuon rhywiaethol ar Twitter ar ôl cael ei chysylltu gyda swydd rheolwr tîm dynion Wrecsam.

Pe bai'n cael ei phenodi, Casey Stoney fyddai'r ferch gyntaf i gael ei phenodi'n rheolwr tîm proffesiynol dynion yn y DU, ac yn ôl y bwcis hi yw'r ffefryn i gael y swydd ar hyn o bryd.

Ond mae Ms Stoney wedi ymbellhau oddi wrth unrhyw gysylltiad â'r swydd, ar ôl derbyn negeseuon sarhaus ar Twitter.

Mae'r cyn-amddiffynwr a enillodd 130 cap i Loegr ar y llwyfan rhyngwladol, wedi beirnadu'r negeseuon.

'Cywilydd arnoch chi'

Dywedodd y dylai'r unigolion dan sylw fod â chywilydd am gyhoeddi negeseuon o'r fath.

"Os oes gennych chi ferch, chwaer, gwraig neu fam, dylech fod â chywilydd," meddai ar Twitter.

Mae nifer fawr wedi ymateb gyda negeseuon yn cefnogi Ms Stoney, ac yn pwysleisio y byddai'n gaffaeliad i unrhyw dîm pêl-droed.

Ymateb CPD Wrecsam

Dywedodd cyfarwyddwr CPD Wrecsam, Humphrey Ker, ei bod yn galonogol gweld safon yr ymgeiswyr sydd wedi rhoi eu henwau ymlaen am swydd y rheolwr hyd yma.

"Serch hynny mae'r gamdriniaeth sydd wedi cael ei anelu at ymgeiswyr posib ar gyfryngau cymdeithasol yn 'styrbio rhywun, a hoffwn ymddiheuro iddyn nhw ar ran y clwb.

"Fel y byddai mwyafrif llethol ein cefnogwyr yn cytuno, nid oes croeso i'r math yma o ymddygiad yn CPD Wrecsam a byddwn yn parhau i weithio gyda gweddill y byd pêl-droed i weld diwedd ar gamdrin ar-lein."

Gadawodd Ms Stoney ei swydd gyda Manchester United ym mis Mai ar ôl iddynt orffen yn bedwerydd yn yr Uwch Gynghrair Merched a cholli allan ar le yng Nghynghrair y Pencampwyr.

Wedi tair blynedd yn y swydd, dywedodd ei bod yn teimlo fod yr amser yn iawn iddi gymryd seibiant.

Ffynhonnell y llun, Rex Features
Disgrifiad o’r llun,

Roedd cytundeb Dean Keates yn dod i ben ddiwedd y tymor

Daeth swydd rheolwr Wrecsam yn wag ar ôl i'r tîm fethu â chyrraedd gemau ail-gyfle'r EFL yn gêm ola'r tymor.

Penderfynodd y clwb - sydd wedi cael ei brynu gan y ddau actor Hollywood, Rob McElhenney a Ryan Reynolds - i beidio ag ymestyn cytundeb y rheolwr, Dean Keates, a gafodd ei benodi yn 2019.

Dywedodd yr actorion eu bod wedi ymrwymo i gael Wrecsam yn ôl i Gynghrair Genedlaethol Lloegr cyn gynted a phosib, ac mai newid rheolwr fyddai'n rhoi'r cyfle gorau iddynt gyflawni hynny.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Casey Stoney MBE 💙

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Casey Stoney MBE 💙

Dywedodd prif sgoriwr tîm Cymru, Helen Ward, y byddai'n "wych gweld menyw yn cymryd swydd lefel uwch gyda thîm dynion", ond roedd rhaid i'r amgylchiadau fod yn addas.

"Mae Casey wedi gwneud yn dda iawn efo Manchester United ond mae hi'n dal yn weddol ddibrofiad fel rheolwr, felly os nad yw hi'n teimlo ei fod e'n iawn, dydi hi ddim am fynd amdani," meddai Ms Ward wrth y BBC.

Ond roedd hynny'n siwr o ddigwydd yn hwyr neu'n hwyrach, meddai.

"Pan welwch chi reolwr benywaidd maen nhw'n llai profiadol na lot o ddynion am nad yw gêm y merched wedi bod yn broffesiynol ers llawer o amser.

"Dyw'r amser iawn ddim wedi dod eto, ond dwi'n meddwl ei fod ar y ffordd."