Wrecsam: Dean Keates yn gadael y clwb

  • Cyhoeddwyd
Dean KeatesFfynhonnell y llun, Rex Features
Disgrifiad o’r llun,

Roedd cytundeb Dean Keates yn dod i ben ddiwedd y tymor

Mae Wrecsam wedi cadarnhau bod eu rheolwr Dean Keates wedi gadael y clwb ar ôl i'r tîm golli cyfle o drwch blewyn i sicrhau lle yng ngemau ail gyfle'r Gynghrair Genedlaethol.

Roedd cytundeb Keates i fod i ddod i ben ar ddiwedd y tymor ac ni fydd yn cael ei adnewyddu.

Mae wedi bod wrth y llyw ers 2019, ei ail gyfnod fel rheolwr yn y clwb.

Roedd Wrecsam wedi colli eu lle yn safleoedd gemau ail gyfle Cynghrair Genedlaethol Lloegr ar ddiwrnod ola'r tymor wedi iddyn nhw gael gêm gyfartal oddi cartref yn Dagenham & Redbridge.

Mae Keates yn gadael y Cae Ras ynghyd â'r rheolwr cynorthwyol, Andy Davies a hyfforddwr y tîm cyntaf, Carl Darlington.

Dywedodd y cyd-gadeiryddion Rob McElhenney a Ryan Reynolds: "Hoffen ni ddiolch i Dean, Andy a Carl am eu holl ymdrechion ar ran y clwb, mewn amgylchiadau a oedd ar adegau yn heriol.

"Rydym wedi ymrwymo i ddychwelyd y clwb i'r Gynghrair ar y cyfle cyntaf ac rydym yn teimlo y bydd newid rheolwr yn rhoi'r cyfle gorau i ni gyflawni'r amcan hwnnw.

"Bydd croeso bob amser i Dean, Andy a Carl yn y clwb."

Pynciau cysylltiedig