Amrywiolyn Delta: Cau ysgol gynradd ar ôl prawf positif

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Ysgol Goetre
Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd yr ysgol ynghau am wythnos ar ôl hanner tymor er mwyn ei glanhau yn drwyadl

Mae Cyngor Merthyr wedi penderfynu y bydd ysgol gynradd yn y sir yn parhau ar gau am wythnos arall oherwydd pryder ynglŷn â'r amrywiolyn Delta.

Dywed y cyngor fod person wnaeth ymweld ag Ysgol Goetre cyn hanner tymor ar ddydd Gwener 28 Mai wedi profi'n bositif ar gyfer yr amrywiolyn.

Fe wnaeth yr unigolyn ymweld ar ddiwrnod hyfforddi a doedd yna ddim disgyblion yn bresennol.

Mae staff wedi cael cyfarwyddyd i hunan-ynysu tan 11 Mehefin.

Bydd yna broses o lanhau trwyadl yn digwydd yn y cyfamser gyda'r ysgol yn ailagor ar ddydd Llun 14 Mehefin.

Yn ôl y ffigyrau diweddaraf ar ddydd Gwener roedd 97 achos o'r amrywiolyn Delta wedi cael eu cadarnhau yng Nghymru.

Dywedodd Lisa Mytton, arweinydd Cyngor Merthyr, eu bod yn cydweithio gyda'r awdurdodau iechyd er mwyn rhwystro unrhyw ymlediad yn y gymuned.

"Dyw'r penderfyniad heb fod yn un hawdd, yn enwedig gan fod ysgolion wedi bod ynghau am gymaint o amser yn ystod y 12 mis diwethaf.

"Ond mae diogelwch ein pobl ifanc a'n staff yn flaenoriaeth."

Mae canolfan brofi wedi ei hagor yn agos i'r ysgol ar Ystâd Gurnos.

Bydd ar agor rhwng 09:00 a 17:00 a does dim rhaid trefnu apwyntiad o flaen llaw.

Dywedodd yr Aelod Senedd lleol Dawn Bowden fod y prawf positif yn achos pryder.

"Nid ydym wedi gweld yr amrywiolyn Delta yma tan nawr, felly fel ym mhob man arall mae'n rhaid i ni wneud bopeth yn ein gallu i wneud yn siŵr nad yw'n lledaenu yn ein cymunedau.... a hyd yn hyn dyw e heb.

"Rydym yn croesi bysedd nad yw'n lledaenu."