Covid: Clwstwr o achosion amrywiolyn India yn Sir Conwy

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Llandudno (generic)
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd rhai o'r achosion diweddaraf eu cofnodi yn Llandudno

Mae'r awdurdodau iechyd yn galw ar bobl yn Sir Conwy i fynd am brawf Covid mor fuan â phosib - hyd yn oed os nad oes ganddyn nhw symptomau.

Daw hyn ar ôl i 35 o achosion yn gysylltiedig gyda'r amrywiolyn o India - amrywiolyn Delta - gael eu cadarnhau yn Llandudno, Cyffordd Llandudno a Bae Penrhyn dros gyfnod Gŵyl y Banc.

Mae hynny'n mynd â'r cyfanswm o achosion yr amrywiolyn yng Nghymru i 97.

Dywedodd Gweinidog Iechyd Cymru, Eluned Morgan fod y sefyllfa yn Sir Conwy yn achosi gofid.

Mewn datganiad ar y cyd dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru, Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr a Chyngor Conwy eu bod yn annog pobl leol i fynd am brawf ac nad oes angen gwneud apwyntiad.

Dywedodd Dr Eleri Davies o Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Ni'n gwybod fod [yr achosion] yn gysylltiedig. Ni eisiau gwneud yn siŵr fod y sefyllfa ddim yn ehangu.

"A dyna pam rydym yn annog pobl i fynd am brawf nawr."

Disgrifiad o’r llun,

Canolfan brofi Ysgol Awel y Mynydd, Cyffordd Llandudno

Dywedodd fod yna achosion o'r amrywiolyn wedi eu cofnodi mewn bron pob un o fyrddau iechyd Cymru "ond nifer bach yn y rhan fwyaf o Gymru".

O ran y sefyllfa yn Sir Conwy dywedodd eu bod yn cadw golwg manwl ar y clwstwr ond nad oedd y cynnydd diweddar yn syndod pur.

"Oherwydd yn rhannol ein bod yn profi ac yn olrhain yn fwy manwl," meddai Dr Davies. "Ac roeddwn yn disgwyl y byddai'r ffigyrau yn cynyddu.

"Ry'n ni'n gwybod eu bod nhw'n gysylltiedig ac ry'n ni'n mynd trwy'r profion olrhain."

Niferoedd ysbytai ar eu hisaf

Dylai pobl yn Sir Conwy sydd heb symptomau fynd i uned brofi symudol yn Ysgol Awel y Mynydd, Cyffordd Llandudno.

Dylai rhag sydd â symptomau fynd i Ganolfan Busnes Conwy, yng Nghyffordd Llandudno.

Daw'r alwad wrth i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ddydd Llun eu bod yn ymestyn y rhaglen Profi, Olrhain a Gwarchod tan Mawrth 2022.

Yn y cyfamser, mae nifer y derbyniadau Covid-19 i ysbytai Cymru wedi cyrraedd y lefelau isaf ers dechrau'r pandemig.

Derbyniwyd chwech o gleifion Covid wedi'u cadarnhau a'u hamau ddydd Mawrth - pob un ym mwrdd iechyd Caerdydd a'r Fro - y record isaf hyd yma.

Disgrifiad,

'Os 'dach chi yn ardal Llandudno, ewch am brawf Covid'

Ar raglen Dros Frecwast dywedodd Eluned Morgan fod angen i bobl yr ardal fod yn wyliadwrus o'r amrywiolion newydd.

"Mae hyn yn gofidio ni, rydym yn ceisio gwneud ein gorau i sicrhau nad yw'r amrywiolyn yn lledu yng Nghymru.

"Dyna pam rydym yn gofyn i bobl fynd am brawf hyd yn oed os nad oes ganddynt symptomau.

"Ac rydym yn annog pobl 39 oed ac yn iau i fynd am frechlyn."

Ychwanegodd fod yr awdurdodau yn gwybod pwy yw'r 35 person dan sylw, ac fod y gwaith o olrhain y 35 yn mynd rhagddo, gan dargedu pobl mewn ffordd benodol iawn.

Dywedodd y cynghorydd sir, Trystan Lewis, fod y sefyllfa yn "bryder mawr".

"Os oes gennych chi unrhyw symptomau ewch am brawf inni gael trechu Covid," meddai.

"Mae'r amrywiolyn yn bryder felly gobeithio gallwn ni annog pawb i fynd am brawf a'r brechlyn."