Ymddangosiad llys i ddyn ar gyhuddiad o dreisio
- Cyhoeddwyd

Roedd yna gyrch enfawr yn Llanbedr Pont Steffan ac ym mhentref Llangeitho yn dilyn yr ymosodiad
Mae dyn 45 oed o Dregaron sydd wedi ei gyhuddo o dreisio wedi ymddangos drwy gyswllt fideo yn Llys Y Goron Abertawe.
Cafodd Saul Henvey ei arestio wedi ymchwiliad i ymosodiad rhyw difrifol yn Llanbedr Pont Steffan ddydd Iau 6 Mai.
Ar ôl cadarnhau ei enw yn y gwrandawiad ddydd Llun, dywedodd Mr Henvey ei fod yn bwriadu cynrychioli ei hun pan fydd yr achos llawn yn cael ei gynnal.
Fe bennodd y Barnwr Paul Thomas 8 Tachwedd fel dyddiad dechrau'r achos hwnnw.
Cafodd yr achos ei ohirio nes y gwrandawiad nesaf ar 19 Gorffennaf.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Mai 2021
- Cyhoeddwyd9 Mai 2021