Mis Mai 2021: Y glwypaf erioed yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mis Mai eleni oedd y gwlypaf yng Nghymru ers i'r Swyddfa Dywydd ddechrau eu cofnodion 160 mlynedd yn ôl.
Mae hyn yn gwbl wahanol i'r un adeg y llynedd - yr ail fis Mai mwya' heulog ers ddechrau'r cofnodion.
Mae Geraint Vaughan Jones yn Athro yn yr adran Gwyddoniaeth Atmosfferig (Atmospheric Science) ym Mhrifysgol Manceinion. Cafodd ei radd yng Nghaergrawnt ac yna doethuriaeth yn Rhydychen, cyn mynd 'mlaen i wneud gwaith ymchwil ar ran y Swyddfa Dywydd.
Yma mae'n esbonio beth mae'r ffigyrau yn ei olygu, ac os oes posib darogan newidiadau mawr i'r tywydd yn y dyfodol.
Mae Gwanwyn 2021 wedi rhoi enghraifft ardderchog i ni o ba mor anwadal yw'r tywydd yng Nghymru.
Yn ôl y Swyddfa Dywydd cafodd Cymru 207 mm o law ar gyfartaledd ym Mai 2021, sydd o bell ffordd y cyfanswm misol uchaf dros Gymru ym mis Mai ers i ystadegau'r Swyddfa Dywydd gychwyn yn 1860 (y record cyn hynny oedd 184 mm yn 1967).
Mae hyn tua 2.5 gwaith y cyfanswm ar gyfartaledd o 83 mm ym mis Mai:
Fe welwn o'r graff uchod mai Mai yw un o'n misoedd sychaf fel rheol, gyda'r cyfnod o Hydref tan Ionawr y misoedd gwlypaf. Ac yn wir ym mis Ebrill eleni dim ond 16.8 mm o law ddisgynnodd ar Gymru - y seithfed isaf yn rhestr y Swyddfa Dywydd am y mis hwnnw.
Ond ar ôl mis sych a heulog Ebrill daeth y dilyw ym mis Mai!
'Gwasgedd isel'
Felly, pam gawsom ni fis Mai mor wlyb? Mae'r ddau graff isod yn dangos y patrwm gwasgedd ar gyfartaledd ym misoedd Ebrill a Mai.
Gwelwn fod gwasgedd uchel wedi bod efo ni drwy fis Ebrill (chwith), yn gydnaws â'r tywydd braf, sych, ond fod gwasgedd isel wedi cymryd ei le drwy gydol mis Mai.
Mae'r mapiau isod yn dangos lleoliad y jetlif yn ystod y ddau fis. Llif ysgafn o'r gogledd-orllewin oedd drosom ym mis Ebrill - cyfeiriad sy'n arwain at wasgedd uchel ar wyneb y ddaear.
Gwahanol iawn oedd hi ym Mai, gyda jetlif cryf ar gyfartaledd i'r de o Brydain - cyfeiriad sy'n galluogi stormydd i'n cyrraedd - ac yn wir gwelsom sawl storm o wynt a glaw yn ystod y mis.
O ystyried y cwestiwn p'un ai yw hyn yn rhan o batrwm cynyddol, rhaid cofio fod Mai 2020 wedi bod yn sych a heulog, fel yr oedd Ebrill hefyd y llynedd.
Yn wir, gyda glawiad o 14.3 mm dros Gymru ym mis Mai y llynedd, hwn oedd yr ail fis Mai sychaf yn holl ystod data y Swyddfa Dywydd, ac fe'i dilynwyd gan y mis Mai gwlypaf yn y gyfres!
Gyda chymaint o amrywiaeth o flwyddyn i flwyddyn, ofer yw ceisio dirnad tuedd tymor hir o ddata fis ar y tro. O ystyried blynyddoedd cyfan fodd bynnag, mae peth tystiolaeth ystadegol fod yr hinsawdd yn mynd yn wlypach, gyda chwech o'r blynyddoedd ers 2000 ymysg yr ugain gwlypaf yn y 160 mlynedd diwethaf, a dim ond dwy yn yr ugain sychaf.
Ond eto, mae amrywiaeth o flwyddyn i flwyddyn yn llawer mwy na'r tuedd tymor hir. Mae'r patrwm cryfaf ym misoedd y Gaeaf, yn gydnaws â rhagolygon modelau hinsoddol y bydd gaeafau yn troi'n gynhesach a gwlypach yn ystod y ganrif hon a hafau'n boethach a sychach.
Mwy o law na gwledydd eraill Prydain?
O'i gymharu â gwledydd eraill Prydain mae Cymru, efo cyfartaledd blynyddol o 1460 mm o law, rywfaint sychach na'r Alban (1550 mm) ond yn wlypach na Gogledd Iwerddon (1130 mm) a Lloegr (850 mm).
Fel gwlad sy'n ffinio cefnfor i'r gorllewin, o ble daw'r rhelyw o'n tywydd, mwynhawn hinsawdd gymharol glaear (dim rhy boeth, dim rhy oer) a chymharol wlyb, gyda chyfnodau o law ar unrhyw adeg o'r flwyddyn all barhau am wythnosau.
Hefyd o ddiddordeb: