Llywodraeth Cymru'n 'gwerthfawrogi difrifoldeb Covid hir'
- Cyhoeddwyd
Dylai pobl sy'n dioddef o effeithiau hir-dymor Covid-19 fod yn hyderus fod Llywodraeth Cymru yn gwerthfawrogi difrifoldeb y cyflwr, yn ôl y Gweinidog Iechyd.
Mae Eluned Morgan wedi cyhoeddi rhaglen gwerth £5m o gefnogaeth ychwanegol i bobl â Covid hir.
Fe fydd y rhaglen 'Adferiad' yn cynnwys canllawiau newydd i feddygon teulu a bydd "llwybrau" diagnosis, a thriniaethau newydd yn cael eu datblygu ar gyfer pobl â salwch mwy cymhleth.
Y nod, yn ôl Ms Morgan, yw sicrhau y gall pobl gael eu cyfeirio at driniaeth arbenigol yn yr ysbyty, lle bo hynny'n addas, ar ôl ymgynghori â'u meddyg teulu.
"Mecanwaith yw hyn i sicrhau bod pobl yn deall bod 'na lwybr clir pan ma' nhw'n dioddef o Covid hir," meddai Ms Morgan.
"Ma' hwnna'n dechre o allu helpu ei hunain, wedyn cael help o'r GPs, ond os oes angen wedyn i gael help fwy arbenigol yna trwy'r ysbytai.
"Ond ma' hwn yn rhywbeth sy'n effeithio ar bobl mewn gymaint o wahanol ffyrdd ma' rhaid i ni gael yr arbenigwyr i ddod ynghyd ac edrych ar y person a'n ymateb i'r person fwy na dim arall."
Ond nid yw'r rhaglen yn ymrwymo i sefydlu canolfannau Covid hir canolog arbenigol, fel yn Lloegr, er gwaethaf galwadau ar Lywodraeth Cymru i ddilyn eu hesiampl.
Yn ôl y Gweinidog Iechyd, y weledigaeth yng Nghymru yw ceisio cynnig gofal mor agos i gartref ag sy'n bosib.
"Ein hathroniaeth ni fel Llywodraeth Cymru yw i geisio rhoi gofal mor agos i gartrefi pobl â phosib - dyma pam dwi'n meddwl mai dyma'r llwybr cywir - fod pobl yn mynd trwy eu meddygon teulu yn lleol ac wedyn os oes angen help ychwanegol, bod y meddygon teulu yn ymwybodol i le maen nhw'n gallu anfon pobl."
'Y corff yn mynd trwy sioc'
Dywed Nicola Hughes-Evans ei bod wedi cael Covid-19 ym mis Ebrill 2020, ac mae'n dal i ddioddef ei sgil-effeithiau.
"Am y chwech wythnos gyntaf doedd gen i ond tymheredd uchel, dim byd arall," meddai.
"Wedyn ro'n i'n cael cur pen drwg, yn methu aros yn effro a methu cerdded i lawr grisiau.
"Roedd fy nghoesau a bob man yn brifo ac ro'n i'n colli gwallt fi. Pan o'n i'n cerdded o'n i mond medru cerdded am 20 munud a ro'n i'n pasio allan."
Cafodd wybod wedyn mai effaith Covid-19 oedd yn gyfrifol.
"Roedd hynny'n dipyn o sioc. Doeddwn i ddim yn gwybod be' oedd yn mynd ymlaen a doedd 'na neb 'efo atebion ar y pryd.
"Mi oeddwn i'n gweithio oriau mawr [cynt] ond rŵan dwi'n stryglo i wneud lot o bethau oeddwn i'n gallu wneud o'r blaen.
"Mae gen i chronic fatigue, fibromyalgia, mae gen i PTSD (post traumatic stress disorder) ond dim PTSD arferol - dwi'n teimlo'n iawn ond dydi corff fi ddim, mae o'n mynd trwy sioc."
Mae hi'n dal i gael trafferth cerdded i fyny'r grisiau ac mae hyd yn oed mynd i'r gawod yn boenus.
"Mae'n teimlo fatha bod gen i gleisiau drosta fi i gyd ac ella rhai diwrnodau fedra i ddim even cerdded."
Dywedodd ei bod yn croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru am roi mwy o arian i helpu cleifion Covid hir.
"Dwi wedi ffeindio allan bod 'na glinigau wedi bod yn Lloegr ers blwyddyn dwytha' i bobl efo Covid hir ond does 'na ddim rhai wedi bod yng Nghymru.
"Mi fydd yn grêt i bobl sydd wedi bod mor sâl â fi."
10% i brofi effeithiau tymor hir
Bydd rhaglen Adferiad yn cael ei hadolygu bob chwe mis i ystyried yr ymchwil ddiweddaraf am y cyflwr.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, bydd y £5m yn cael ei ddefnyddio i helpu staff y gwasanaeth iechyd i adeiladu gwasanaethau newydd; hyfforddiant ac adnoddau digidol newydd am ddiagnosis a thriniaethau yn ogystal ag offer digidol newydd i fonitro'r galw a'r capasiti.
Mae cannoedd o filoedd o bobl yng Nghymru wedi cael Covid-19 ac mae ymchwil yn awgrymu y gallai cynifer â 10% brofi effeithiau tymor hir.
Ym mis Mai amcangyfrifodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol fod miliwn o bobl ledled y DU wedi hunan-adrodd am Covid hir - hynny yw pobl â symptomau sydd wedi para mwy na phedair wythnos ar ôl cael eu heintio.
Mae hyn yn cynnwys 50,000 o bobl yn byw yng Nghymru.
"Beth ma' unigolion angen gwybod mwy nag unrhyw beth yw cydnabyddiaeth bod hwn yn glefyd sy' angen ei gymryd o ddifri'," meddai Ms Morgan.
"Ma' nhw eisiau cydnabyddiaeth o'r llywodraeth, o'r byrddau iechyd, ein bod ni'n meddwl bod hyn yn ddifrifol ac yn cadw golwg ar y sefyllfa. A hefyd ein bod ni'n dal i ddysgu ac yn gwrando arnyn nhw."
'Dysgu ac addasu'n gyflym'
Mae Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu yng Nghymru hefyd wedi croesawu'r rhaglen newydd.
Dywedodd yr Athro Peter Saul, cyd-gadeirydd CBMT Cymru: "Mae'r cyflwr wedi'i gwneud yn ofynnol inni ddysgu ac addasu'n gyflym i gefnogi ein cleifion.
"Gofal sylfaenol sy'n arwain gofal Covid hir a bydd y cyhoeddiad hwn yn rhoi'r hyder inni bod gennym y seilwaith, yr wybodaeth a'r data i feddygon teulu a'u timau ar draws Cymru ymateb i anghenion cleifion."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd14 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd18 Mai 2021
- Cyhoeddwyd28 Ebrill 2021