'Diwylliant o fwlio' ymhlith staff GIG Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae yna "ddiwylliant" o fwlio yng Ngwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru sy'n golygu bod nifer o bobl ofn sôn am broblemau maen nhw'n eu hwynebu, yn ôl nifer o staff.
Mae gweithwyr y GIG yn dweud eu bod nhw wedi gweld neu wedi profi hiliaeth sefydliadol, rhagfarn rhyw a hefyd wedi wynebu rhwystrau wrth sôn am ddigwyddiadau o fwlio.
Fe honnir bod codi pryderon wedi arwain at fwlio, a bod targedau rhifol yn aml wedi cael eu blaenoriaethu o flaen lles staff.
Dywedodd Conffederasiwn y GIG eu bod nhw wedi eu "tristáu" gan yr honiadau. Ychwanegodd y GIG eu bod nhw'n cymryd adroddiadau o fwlio o ddifri.
Yn ôl canlyniadau arolwg staff GIG Cymru roedd 16% o weithwyr wedi profi achosion o fwlio, aflonyddu neu gamdriniaeth gan gyd-weithiwr arall, tra bod 10% wedi profi'r un peth gan reolwyr.
Yn y cyfamser, dywedodd 14% nad yw'r bwrdd iechyd yn gweithredu'n effeithiol os yw staff yn cael eu bwlio neu eu haflonyddu gan aelodau eraill o staff neu'r cyhoedd.
Mae pum person sy'n gweithio yn neu'n agos at GIG Cymru wedi sôn wrth BBC Cymru am eu profiadau o fwlio ac aflonyddu o fewn y gyfundrefn. Mae enw pob un wedi cael ei newid.
'Diwylliant o fwlio ac aflonyddu'
Dywedodd Oliver, sydd wedi gweithio fel ymgynghorwr mewn sawl adran wahanol, bod y diwylliant o fwlio yn "gyffredin" ym mhob bwrdd iechyd yng Nghymru.
"Mae yna ddiwylliant o fwlio ac aflonyddu sy'n gyffredin ar draws y rhan fwyaf o gyfundrefnau'r GIG," mae'n honni.
"Mae yna bocedi o ddiwylliannau gwael ac yn rhan o hynny chi'n cael bwlio, aflonyddu a hiliaeth - sy'n gallu bod yn rhagfarn anymwybodol - a chasineb at fenywod.
"Mae'r rhagfarn rhyw dwi wedi ei weld gan rai o fy nghydweithwyr... mae'n peri gofid i fi."
Dywedodd Oliver fod y system bresennol o godi pryderon yn gallu arwain at broblemau pellach i'r rheiny sy'n cwyno, gan fod y person sy'n cynnal yr ymchwiliad o fewn yr adran yn "gyffredinol yn rhan" o'r rheswm tu ôl y gŵyn.
"Mae hwn yn gallu gwneud pethau'n anodd i'r rheiny sydd yn siarad yn agored", meddai Oliver.
"Mae'n ddiwylliant sydd wedyn ddim yn sicrhau amgylchfyd diogel i bobl siarad yn agored a dweud wrth rywun bod materion yn ymwneud â diogelwch cleifion yn anghywir.
"Mae yna adrannau penodol ble mae pobl sydd naill ai'n fwlïaid ar ddamwain neu'n fwlïaid ar bwrpas a bydden nhw'n gwneud bywyd yn anodd i'r doctoriaid a nyrsys sydd wedi gwneud y cwynion yma.
"Mae staff wedyn yn poeni ac yn ofn codi problemau oherwydd maen nhw'n meddwl y bydd yn effeithio ar eu gyrfaoedd a gwneud eu bywyd gwaith yn anoddach.
"Dydy e ddim yr un peth ym mhob cyfundrefn, ond mae staff yn teimlo y bydd eu gyrfaoedd yn dioddef os ydyn nhw'n sôn am achosion o fwlio ac aflonyddu."
Mae Oliver yn honni bod hyn, yn ei dro, yn gallu arwain at bobl yn blaenoriaethu eu gyrfaoedd dros siarad am broblemau, tra bod cwrdd â thargedau rhifol yn aml yn cael ei flaenoriaethu dros ddiogelwch cleifion.
"Mae'r adnoddau yn brin ym mhobman yn y GIG ac fel arfer mae'r bwlio sy'n digwydd yn ymwneud â'r adnoddau sy'n cael eu defnyddio," ychwanegodd.
Ychwanegodd fod bwlio yn achosi pwysau ychwanegol i rai staff, ar ben y blinder sydd wedi cael ei ddioddef yn ystod y pandemig.
'Mae pobl ofn siarad'
Dywedodd Louise, nyrs, ei bod wedi penderfynu gadael y GIG ar ôl nifer o flynyddoedd yn ei swydd oherwydd y diwylliant o fwlio yn ei hadran.
Dywedodd: "Dwi wedi gweld bwlio, bwlio cynnil iawn, sy'n gwneud eich bywyd yn anodd.
"Dydyn nhw ddim yn gadael i chi gael amser bant i fynd i apwyntiadau, i ddefnyddio eich gwyliau blynyddol fel yr ydych yn dymuno... y driniaeth gyffredinol yn y ffordd maen nhw'n siarad â chi, mae bron fel 'Fi yw'r rheolwr felly fe wnâi siarad â chi fel rydw i'n dymuno'.
"Mae yna fwlio cynnil ond hefyd bwlio eithaf amlwg i'r pwynt ble mae pawb yn gweld beth sy'n digwydd, ond mae pobl yn rhy ofnus i siarad am y peth.
"Pan nes i siarad am fy mhrofiadau cafodd fy mywyd ei wneud yn anodd iawn. Roeddwn i'n teimlo fel fy mod i wedi cael fy nghau allan ac roedd yn gwneud i fi deimlo'n bryderus iawn am fynd i'r gwaith. Mae hwnna'n anarferol oherwydd dwi'n caru fy swydd a dwi'n caru'r GIG."
Dywedodd Louise fod cwrdd â thargedau'n aml yn fwy pwysig i reolwyr na lles staff.
"Gan edrych o'r top i lawr, mae'r ffocws gymaint ar dargedau nawr - bydd pobl yn gwneud unrhyw beth i gwrdd â'r targedau, hyd yn oed os mai'r canlyniad yw bod eich staff yn anhapus," mae'n honni.
"Does dim trugaredd, does dim cydymdeimlad."
Dywedodd Louise ei bod hi'n teimlo'n "lwcus" ei bod hi wedi gallu gadael ei swydd lawn amser a dechrau ar swydd ran amser tu allan y GIG, ond nad yw'r opsiwn yma ar gael i bawb.
"Mae yna nifer o bobl sydd yn y swydd oherwydd bod yn rhaid iddyn nhw fod yn y swydd yna, a does ganddyn nhw ddim dewis arall ond i fyw gyda hwn pob dydd, yn enwedig y rheiny sydd ddim yn cael eu trin yn neis iawn.
"Mae'n drist, mae'n drist iawn."
'Mae wastad yn brifo'r person sy'n ceisio brifo'r system'
Dywedodd ymgynghorwr arall, Lloyd, bod angen newid y ffordd mae cwynion yn cael eu trin, yn enwedig pan mae'n rhaid delio â rhestrau aros o fwy na 500,000.
"Mae wastad yn dod 'nôl i frifo'r person sy'n ceisio brifo'r system," meddai.
"Dydy pawb ddim yn ddigon dewr i frwydro'r system, felly mae angen i ni wybod ein bod yn gallu mynd at rywun fydd yn delio â'r mater.
"Dyw pethau ddim wedi newid. Felly dydy'r ymosodiadau micro, y bwlio... ddim wedi eu datrys.
"Byddan nhw'n parhau, felly pan mae'r pwysau a'r systemau'n gwaethygu ar restrau aros a chlinigau, bydd yn anochel yn arwain at fwy o ymosodiadau-micro, mwy o bwysau ar bobl sydd wastad wedi bod o dan bwysau."
Dywedodd Lloyd mai esiampl o'r fath yma o ymddygiad oedd uwch-reolwr yn gofyn iddo ar ddechrau'r pandemig dynnu ei fwgwd bant yn y swyddfa fel nad oedd pobl yn poeni am yr haint.
Dywedodd: "Roedd e'n eithaf annisgwyl, roeddwn ni'n gofyn am help. Doedd neb yn gwybod sut roedd e'n mynd i gael ei ledu. Roeddwn ni i gyd yn ceisio bod yn ofalus.
"Bob dydd ar y ward Covid o'n i'n meddwl fy mod wedi fy heintio'.
"Yng nghanol hwnna, doedd yr ymddygiad yna gan uwch-reolwr ddim yn dderbyniol. Roeddwn i'n eithaf trist amdano fe."
Dywedodd Lloyd bod y digwyddiad yna wedi digwydd yng ngwanwyn 2020, ar adeg pan mai dim ond fe ar adegau oedd yr unig ymgynghorwr ar y ward Covid. Roedd yn cael cawod dair neu bedair gwaith y dydd a'n cysgu mewn ystafell ar wahân yn ei gartref er mwyn osgoi trosglwyddo'r haint i'w deulu.
'Gorfodaeth a manipiwleiddio'
Dywedodd Amy, gweithiwr iechyd cynghreiriol bod yna ddiwylliant o "fanipiwleiddio a bygwth" yn yr ysbyty ble mae'n gweithio.
"Mae'n edrych fel petai ei fod yn ddiwylliant sy'n dod o'r top ac sy'n ffrydio lawr ac mae'n dod yn ffordd dderbyniol o drin pobl," meddai.
Ychwanegodd Amy "y peth mwyaf" mae'r rheolwyr yn gwneud yw manteisio ar y cleifion trwy beidio â rhoi lot o opsiwn i staff ond i weithio mwy o oriau neu mewn amgylchiadau anffafriol er mwyn sicrhau nad yw cleifion yn mynd heb ofal.
"Chi methu lleisio pryderon am ddiogelwch cleifion, rydych chi wastad yn cael eich beirniadu" mae'n honni.
"Dydw i erioed wedi gweithio rhywle ble mae staff yn teimlo mor ddigalon. Mae yna rai pobl sydd wedi gweithio yna am flynyddoedd, oherwydd nad oes ganddynt yr hyder i adael. Maen nhw'n teimlo eu bod nhw wedi eu bychanu gymaint ag o dan ormes.
"Dwi'n teimlo fel bod gan lot o bobl syndrom Stockholm ac eisiau gadael, ond dydyn nhw ddim yn teimlo eu bod nhw'n gallu."
Dywedodd fod staff yn cael rhoi barn ond eu bod nhw'n aml yn cael eu hanwybyddu neu eu diystyru - ac mae'n honni bod un rheolwr wedi gweiddi ar aelod o staff o flaen 50 cydweithiwr mewn cyfarfod.
Ychwanegodd Amy: "Dyw'r ffurflenni adborth byth yn gofyn am brif achos y broblem, achos maen nhw'n gofyn i chi beth mae eich rheolwr fel neu beth mae'r amgylchiadau gwaith fel, ond nid hynny yw'r broblem.
"Pan mae'r ffurflenni adborth yn dod 'nôl maent yn nodi bod gweithwyr yn rili hapus', achos dydyn nhw ddim wedi cyrraedd gwraidd y broblem - ar bwrpas, rydw i'n dychmygu.
"Mae digonedd o enghreifftiau o ymddygiad annerbyniol gan reolwyr tuag at staff wedi bod.
"Mae'n fath o orfodaeth a manipiwleiddio ac os nad ydych chi'n cytuno gyda'r rheolwyr mae eich bywyd yn anodd iawn. Mae'r bobl sy'n uchel lan yna wedyn yn cyflogi pobl sy'n meddwl mewn ffordd debyg iddyn nhw."
'Mynd yn groes i'r drefn yn achosibwlio'
Cafodd Mary ddiagnosis o salwch hirdymor dros 10 mlynedd yn ôl ac mae hi'n dibynnu ar y GIG am driniaeth reolaidd.
Yn ystod yr amser yma, mae wedi cael cais i roi adborth am wasanaethau GIG Cymru, a dywed ei bod wedi ei "syfrdanu" gan y bwlio mae wedi'i weld a phrofi.
"Beth maen nhw eisiau ar gyfer cleifion yw system stamp rwber," meddai.
"Maen nhw eisiau cael eu gweld yn ymgynghori â chleifion. Dydyn nhw ddim yn hoffi ateb y cwestiynau anodd."
Ychwanegodd: "Os nad ydy'r rheolau'n cael eu dilyn, mae yna fwlio. Mae hynna'n wir ar bob lefel a hefyd am gleifion.
"Gallai feddwl am ddau ddigwyddiad pan fwlion nhw fi. Roedd hwnna'n eithaf anodd."
Dywedodd Mary ei bod hefyd wedi gweld digwyddiad ble cafodd meddyg ei "wrthod" gan gydweithwyr yn ystod trafodaeth am gynllun triniaeth ar gyfer un claf.
Dywedodd: "Dywedodd y person yna, 'dwi methu mynd trwy hwn, dwi methu rhoi fy nheulu trwy hwn'.
"Does dim un ffordd mae'r person yn mynd i sefyll lan dros y claf eto - mae'n rhy anodd ac mae yna bris personol."
Honiadau 'difrifol'
O ganlyniad i'r enghreifftiau yma o fwlio, mae'r Gymdeithas Feddygol Brydeinig (BMA) wedi gofyn i Lywodraeth Cymru a darparwyr y GIG i fuddsoddi mewn, ac i sefydlu gwarchodwyr rhyddid i siarad yn agored yng Nghymru.
Mae gwarchodwyr yn bodoli eisoes yn Lloegr a'r Alban. Maen nhw'n cael eu penodi'n benodol fel bod pobl yn gallu sôn am bryderon wrthyn nhw - mae nhw'n cynnig cyfle i staff i siarad yn gyfrinachol.
Dywedodd Conffederasiwn GIG Cymru, y corff sy'n cynrychioli'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru, bod yr honiadau'n "ddifrifol iawn a bod rhaid iddyn nhw gael eu cydnabod".
"Dydyn ni ddim yn gallu gwneud sylw am achosion unigol," meddai'r cyfarwyddwr Darren Hughes.
"Mae'r GIG yn cymryd adroddiadau o fwlio ac aflonyddu yn ddifrifol ac rydyn ni'n drist i glywed am brofiadau'r unigolion yma.
"Rydyn ni eisiau i'r holl staff sy'n gweithio yn GIG Cymru i deimlo'n werthfawr, mae angen iddyn nhw wybod bod eu llais yn cael ei glywed. Rhaid iddynt gael cydnabyddiaeth a chefnogaeth fel ein bod ni'n gallu gweithio gyda'n gilydd i ddarparu'r gofal gorau posib i'r bobl yng Nghymru."
Ychwanegodd Mr Hughes bod nifer o'r rhaglenni cefnogi presennol wedi eu datblygu gydag undebau a Llywodraeth Cymru ac y bydd rhaglenni cefnogi pellach yn cael eu cyflwyno wrth i weithdrefnau gael eu hadolygu.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Mai 2021
- Cyhoeddwyd29 Mai 2021