Meddygon 'wedi'u bwlio' am godi pryderon Covid

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
NHS doctorsFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae meddygon yng Nghymru wedi wynebu bwlio a chamau disgyblu am godi pryderon am amodau gwaith a diogelwch, medd arweinydd undeb.

Dywedodd Dr Phil Banfield o BMA Cymru bod meddygon oedd yn cwyno am waith cyn ac yn ystod y pandemig coronafeirws yn cael eu gweld fel "rhai oedd yn codi twrw".

Ychwanegodd bod pryder y bydd bwlio ymysg staff yn gwaethygu wrth geisio taclo rhestrau aros ar ôl Covid.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod bwlio staff y GIG yn "gwbl annerbyniol".

Dr Banfield yw cadeirydd pwyllgor ymgynghorwyr BMA Cymru, a dywedodd fod staff yn wynebu cael eu targedu gan gydweithwyr neu hyd yn oed cael eu gorfodi i adael GIG Cymru am godi pryderon am fwlio neu iechyd a diogelwch.

Dywedodd: "Mae staff yn reit dda am godi pryderon, ond dydyn nhw ddim yn gwneud os ydyn nhw'n mynd i fynd i drafferth am wneud, neu os ydyn nhw'n synhwyro nad oes dim yn mynd i newid.

"Beth sy'n digwydd yw eich bod chi'n dueddol o beidio trafferthu."

Ffynhonnell y llun, BMA
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dr Phil Banfield bod meddygon yn aml yn cael eu herlid am godi pryderon am amodau gwaith

Ychwanegodd: "Yr hyn sy'n digwydd wedyn yw bod y person sydd wedi mynegi pryder yn cael ei erlid, naill ai gan gydweithwyr neu gan y gwasanaethau iechyd eu hunain.

"Maen nhw'n teimlo wedi'u hynysu. Mae hynny'n arwain at y bobl anghywir yn gadael y gwasanaeth iechyd."

Dywedodd hefyd fod meddygon sy'n dymuno mynd i dribiwnlys oherwydd bwlio wedi cael cyngor y bydden nhw'n ennill eu hachos, ond na fydden nhw fyth yn gweithio yng Nghymru eto.

Meddygon wedi'u bygwth am wisgo masgiau

Manylodd Dr Banfield am rai materion a gododd yn nyddiau cynnar y pandemig, yn enwedig yn ymwneud gyda PPE.

"Roedd gwahaniaeth rhwng y cyngor swyddogol am PPE a phryderon ein haelodau yn y gweithle," meddai.

Dywedodd fod rhai meddygon yn gwrthod gwisgo masgiau heblaw ar y wardiau cyn i hynny ddod yn orfodol mewn ysbytai.

Yn y dechrau, meddai, roedd meddygon yn cael cyfarwyddyd i dynnu masgiau mewn ardaloedd cyhoeddus ysbytai.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Dr Banfield fod meddygon wedi cael cyfarwyddyd i beidio gwisgo masg mewn ardaloedd cyhoeddus yr ysbytai

"Ar fwy nag un achlysur," meddai, "cafodd mwy nag un meddyg ei fygwth gyda chamau disgyblu am ddweud nad oedd yn gyffyrddus cerdded o gwmpas heb fasg."

Dangosodd arolwg gan BMA Cymru yn Hydref 2020 fod 63% o ymatebwyr oedd angen PPE wedi dweud nad oedden nhw'n hyderus y bydden nhw'n cael prawf priodol am PPE.

Roedd 30% hefyd yn dweud na wnaethon nhw adrodd pryderon am PPE am eu bod yn teimlo na fydadi rheolwyr yn gweithredu.

Rhestrau aros

Gyda rhestrau aros wedi tyfu yn ystod y pandemig, roedd gan Dr Banfield bryder y byddai bwlio'n gwaethygu.

Dywedodd: "Y risg yw wrth i wasanaethau iechyd ddod o dan bwysau i glirio'r rhestrau y bydd mwy o fwlio, ac rydym wedi gweld peth tystiolaeth o hynny'n barod.

"Mae staff eisoes wedi ymlâdd, ac fe fydd hynny'n arwain at bobl yn gadael y GIG."

Mae BMA Cymru yn galw am benodi gwarchodwyr annibynnol i daclo'r problemau i staff y GIG.

Byddai'r gwarchodwyd, sydd eisoes yn bodoli yn Lloegr a'r Alban, yn rhoi cyfle i staff siarad yn gyfrinachol am bryderon.

Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydden nhw'n ystyried cyflwyno gwarchodwyr, ac y bydden nhw'n lansio polisi newydd ym mis Mehefin i'r GIG gyda'r nod o atal bwlio yn y gweithle.

Dywedodd llefarydd: "Mae unrhyw ffurf o wahaniaethu, bwlio ac ati o fewn y GIG yn gwbl annerbyniol, ac rydym yn ystyried materion fel hyn o ddifri.

"Rydym yn parhau i weithio gyda'r GIG i daclo bob ffurf o wahaniaethu ac yn disgwyl i staff GIG Cymru gael eu trin gyda pharch ac urddas.

"Mae polisïau mewn lle i sicrhau y gall sefydliadau GIG weithredu i daclo unrhyw bryderon sy'n cael eu codi, ac mae staff yn cael eu hannog i godi unrhyw bryderon."