Pump wedi eu cyhuddo o lofruddiaeth yng Nghasnewydd
- Cyhoeddwyd
Mae tri dyn a dau fachgen wedi ymddangos yn y llys wedi eu cyhuddo o lofruddio dyn yng Nghasnewydd.
Bu farw Ryan O'Connor, 26, yn dilyn ymosodiad yn Ffordd Balfe y ddinas nos Iau.
Fe wnaeth Lewis Aquilina, 19, Elliot Fiteni, 19, ac Ethan Strickland, 18, oll o Gaerdydd, a dau fachgen 17 oed nad oes modd eu henwi, ymddangos yn Llys Ynadon Casnewydd fore Llun.
Clywodd y llys bod y pump wedi eu cyhuddo o lofruddio Ryan O'Connor a dwyn bag Gucci ganddo ar 10 Mehefin.
Ni wnaeth yr un o'r diffynyddion gyflwyno ple i'r cyhuddiadau.
Cafodd y pump eu cadw yn y ddalfa, ac mae disgwyl iddynt ymddangos yn Llys y Goron Casnewydd ddydd Mawrth.
Mae teulu Mr O'Connor yn derbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.
Mewn teyrnged, dywedodd y teulu fod "Ryan yn berson cariadus a gofalgar".
"Mae wedi ein gadael yn llawer rhy fuan, a bydd pawb ohonom yn gweld ei eisiau yn fawr," meddai'r teulu.
"Roedd ei deulu a'r gymuned leol yn ei garu, ac mae hynny'n amlwg yn y gefnogaeth a gawsom ganddynt ar yr adeg anodd hon i'n teulu.
"Hoffai'r teulu cyfan ddiolch i bawb am y caredigrwydd maen nhw wedi'i ddangos inni hyd yn hyn.
"Byddem yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth i weithio gyda'r heddlu a chynorthwyo eu hymchwiliad mewn unrhyw ffordd y gallant."
'Patrolau lleol yn parhau'
Cafwyd hyd i Mr O'Connor yn anymwybodol, a bu farw er ymdrechion parafeddygon i'w achub.
"Byddwn yn parhau i fod â phresenoldeb amlwg dros y dyddiau nesaf a bydd patrolau lleol yn parhau," meddai'r Prif Uwcharolygydd Tom Harding, gan apelio ar bobl yr ardal i drafod unrhyw bryderon gyda'r heddlu.
Ychwanegodd eu bod yn gwerthfawrogi cefnogaeth y gymuned leol ers dechrau'r ymchwiliad "a bydd ein hymholiadau'n parhau wrth i ni ddod â'r rhai sy'n gyfrifol gerbron llys".
Parhau mae'r apêl am wybodaeth a lluniau dashcam.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Mehefin 2021