Euro 2020: Beth ydych chi'n ei wybod am dîm Twrci?
- Cyhoeddwyd

Wedi gêm gyfartal yn erbyn Y Swistir mae Cymru'n barod am eu hail gêm o'r grŵp yn Euro 2020 yn erbyn Twrci. Ond faint ydych chi'n ei wybod am dîm pêl-droed Twrci? Dyma ambell ffaith ddiddorol.
Detholion y byd
Mae Twrci yn y 29fed safle yn rhestr detholion y byd FIFA ar hyn o bryd, deuddeg safle'n is na Chymru sy'n 17eg. Ym mis Mehefin 2004 roedd Twrci yn bumed yn netholion y byd - eu safle uchaf erioed.
Prif glybiau Twrci
Y tri chlwb pêl-droed mwyaf llwyddiannus yn y wlad yw Fenerbahçe (28 pencampwriaeth genedlaethol), Galatasaray (23) a Beşiktaş (21) - mae'r 'Tri Mawr' fel maen nhw'n cael eu galw wedi ei lleoli yn Istanbwl.
Ers 1924 mae 15 o glybiau wedi ennill pencampwriaeth Twrci. Mae tîm o Istanbwl wedi ennill y bencampwriaeth ar 76 achlysur, gyda'r holl dimau tu allan i Istanbwl yn ennill cyfanswm o 16 teitl.
Mae timau o Dwrci wedi cystadlu yng Nghwpan Ewrop ers blynyddoedd lawer, ond mae'n siŵr mai'r uchafbwynt oedd pan enillodd Galatasaray Gwpan UEFA yn 2000 gan guro Arsenal yn y rownd derfynol.

Cefnogwyr Fenerbahçe yn ystod gêm yn erbyn eu gelynion pennaf, Galatasaray
Saunders a Toshack
Yn 1995 fe adawodd ymosodwr Cymru, Dean Saunders, Aston Villa am Galatasaray am £2.35 miliwn. Ei gyn-reolwr yn Lerpwl, Graeme Souness oedd wrth y llyw yn Galatasaray, a chwaraeodd Saunders ran allweddol wrth i'r clwb gipio'r cwpan cenedlaethol yn 1996.
Rhwng 1997 a 1999 roedd John Toshack yn rheolwr ar Beşiktaş, ac enillodd y cwpan cenedlaethol yn ei dymor cyntaf yno. Ond byddwch yn ofalus wrth sôn am 'Toshack' efo pobl o Dwrci... mae'n golygu gair anweddus yn eu hiaith nhw!

Saunders yn chwarae dros Galatasaray. Cafodd 75 cap dros Gymru rhwng 1986 a 2001, gan sgorio 22 gôl
Chwaraewyr adnabyddus o Dwrci
Mae'n debyg mai Hakan Sükür yw'r enw mwyaf yn hanes pêl-droed Twrci. Gyda chlwb Galatasaray roedd yn chwarae am y rhan fwyaf o'i yrfa, ac fe sgoriodd 51 o goliau mewn 112 ymddangosiad dros ei wlad. Sgoriodd bedair gôl mewn gêm yn erbyn Cymru yn Istanbwl yn 1997, wrth i Dwrci ennill 6-4.
Yn 2011 fe fentrodd Hakan Sükür i'r byd gwleidyddol ac fe gafodd ei ethol yn Aelod Seneddol i Gynulliad Cenedlaethol Mawr Twrci. Yn 2016 fe wnaeth sarhau Arlywydd Twrci, Recep Tayyip Erdoğan, yn gyhoeddus ar Twitter, ac fe roedd hyn yn stori enfawr yn y wlad. Hwyrach yn 2016 cafodd un o'r mudiadau gwleidyddol yr oedd Sükür yn perthyn iddo ei labelu'n 'grŵp terfysgol' gan Lywodraeth Twrci, ac felly fe roedd rhaid iddo adael y wlad.
Mae Sükür bellach yn byw'n alltud yn yr Unol Daleithiau, ac mae adroddiadau ei fod yn gweithio fel gyrrwr Uber a gwerthwr llyfrau yn ardal San Fransisco gan fod gwladwriaeth Twrci wedi hawlio ei dai, eiddo a'i arian yn Nhwrci.

Hakan Sükür yn cynrychioli Twrci yn gêm gyn-derfynol Cwpan y Byd 2002 yn erbyn Brasil
Y golwr Rüştü Reçber sydd â'r nifer fwyaf o gapiau dros Dwrci - cafodd 120 ohonynt rhwng 1994 a 2012. Chwaraeodd ei yrfa gyfan dros glybiau yn Nhwrci, heblaw am gyfnod gyda Barcelona 2003-06, ond llond llaw o gemau gafodd o yng Nghatalonia ac roedd yng nghysgod Víctor Valdés.
Gyda'i wallt hir, paent dan ei lygaid a'i natur eitha' gwyllt o chwarae roedd Rüştü'n dipyn o ffefryn gyda'r gynulleidfa ryngwladol yng Nghwpan y Byd 2002 yng Nghorea a Japan ble orffennodd Twrci'n drydydd.

Rüştü Reçber - eicon pêl-droed Twrci a phêl-droed rhyngwladol yn y 90au a 00au
Un arall oedd yn dipyn o cult hero oedd y chwaraewr canol cae Tugay Kerimoğlu. Chwaraeodd dros dri chlwb yn ei yrfa; Galatasaray, Glasgow Rangers a Blackburn Rovers, ac fe enillodd 94 o gapiau rhwng 1990 a 2007.
Roedd Tugay'n chwaraewr dawnus tu hwnt, ac mae'n drueni iddo beidio symud i Uwchgynghrair Lloegr nes iddo fod yn ei 30au. Pan ofynnwyd i Mark Hughes, rheolwr Blackburn o 2004 i 2008, os hoffai pe byddai Tugay 10 mlynedd yn iau, dywedodd "na, achos fe fyddai Tugay 10 mlynedd yn iau yn chwarae yng nghrys Barcelona."

Tugay yn dathlu tra'n chwarae dros Blackburn Rovers yn erbyn Burnley, 1 Mawrth 2005
Un oedd yn chwarae dros Barcelona oedd Arda Turan, ac roedd hefyd gyda Galatasaray ac Atlético Madrid. Cafodd 100 o gapiau dros Dwrci rhwng 2006 a 2017. Heddiw, mae Turan nôl yn chwarae gyda'i glwb proffesiynol cyntaf, Galatasaray.
Mae Turan yn ffrind ac yn gefnogwr brwd o Arlywydd Twrci, Recep Tayyip Erdoğan, ac roedd yr Arlywydd yn dyst yn ei briodas yn 2018.

Arda Turan yn cynrychioli Barcelona yn ceisio taclo chwaraewr mwyaf adnabyddus Cymru, Gareth Bale
Roedd Bülent Korkmaz yn chwarae yn amddiffyn Galatasaray o 1990 i 2005, ac mae'n cael ei alw yn 'Büyük Kaptan' - 'Y Capten Mawr'. Roedd yn rhan o'r tîm Galatasaray eiconig a enillodd Cwpan UEFA yn 2000, gyda Hakan Sükür, Rüştü a Tugay.
Twrci yn yr Euros
Eleni yw'r pumed gwaith i Dwrci ymddangos ym Mhencampwriaethau Ewrop. Y tro cyntaf oedd yn 1996 yn Lloegr, ac yna 2000, 2008 ac 2016. Yn 2008 fe orffennodd Twrci yn y trydydd safle yn y bencampwriaeth, wedi iddynt golli 3-2 i'r Almaen yn y rownd gyn-derfynol.
Ben-ben â Chymru
Mae gan Gymru record eitha' da yn erbyn Twrci; chwarae chwech, ennill tair gwaith, colli ddwywaith ac un gêm gyfartal. Roedd y gêm gyntaf rhwng y ddwy wlad yn 1978, gyda'r gêm diweddaraf yn 1997.
Mae'r gemau i gyd wedi bod yn rhai agos, heblaw am fuddugoliaeth 4-0 i Gymru ar Barc Ninian yn 1980, a buddugoliaeth 6-4 i Dwrci yn 1997.

Roedd 10 gôl yn y gêm ddiwethaf rhwng Twrci a Chymru, 20 Awst, 1997
Carfan Twrci i Euro 2020
Mae gan Dwrci chwaraewyr sydd gyda rhai o glybiau mwyaf Ewrop, fel Merih Demiral gyda Juventus, Ozan Kabak gyda Lerpwl a Hakan Çalhanoğlu sydd efo AC Milan.
Mae yna dri chwaraewr yng ngharfan Twrci a enillodd Gynghrair Ffrainc gyda Lille eleni - Zeki Çelik, Yusuf Yazıcı a Burak Yılmaz.
Mae carfan Twrci yn un ifanc, gydag ond dau chwaraewr dros 27 mlwydd oed - y golwr Mert Günok a'r capten, Burak Yılmaz.

Burak Yilmaz yn chwarae dros glwb Lille OSC eleni. Mae wedi sgorio 29 gwaith dros ei wlad mewn 68 gêm
Y rheolwr
Rheolwr Twrci yw Şenol Güneş, cyn-chwaraewr proffesiynol yn yr 1970au a 1980au a oedd yn chwarae yn y gôl. Enillodd 31 cap dros Dwrci a dyma ei ail gyfnod wrth y llyw - ef oedd yn rheoli rhwng 2000 a 2004, ac arweiniodd Twrci i'r trydydd safle yng Nghwpan y Byd 2002.
Mae hefyd yn gyn-athro ysgol ac roedd yn dysgu yn ninas Trabzon ddiwedd yr 1970au a dechrau'r 1980au.

Şenol Güneş ar ochr y cae yn ystod y golled i'r Eidal ar ddiwrnod agoriadol Euro 2020
Canlyniadau diweddar
Colli a wnaeth Twrci yng ngêm gynta'r bencampwriaeth, 3-0 yn erbyn Yr Eidal yn Rhufain. Cyn y gêm yna doedd Twrci heb golli mewn chwe gêm (pedair buddugoliaeth a dwy gêm gyfartal) - gan gynnwys buddugoliaeth drawiadol 4-2 yn erbyn Yr Iseldiroedd.
Yn eu tair gêm olaf cyn Euro 2020 roedd buddugoliaeth yn erbyn Azerbaijan (2-1) a Moldova (2-0), a gêm gyfartal yn erbyn Guinea (0-0).
Beth mae'r bwcis yn ei ddweud?
Er gwaethaf eu colled i'r Eidal, Twrci yw'r ffefrynnau i ennill y gêm nos Fercher yn ôl y bwcis. Gareth Bale a Burak Yilmaz yw'r ffefrynnau i sgorio gyntaf - y ddau ar 4/1.


Hefyd o ddiddordeb: