Y Swistir: Ffwtbol, ffans a pharch i’r Wal Goch

  • Cyhoeddwyd
Cefnogwyr pêl-droed y SwistirFfynhonnell y llun, PHILIPPE DESMAZES

Er mai gelynion fyddan nhw yn eu gêm fawr gyntaf yn Euro 2020 ddydd Sadwrn mae 'na barch i'r Wal Goch a thîm Cymru yn y Swistir, meddai'r Cymro Ray Pritchard sy'n byw yno ers 25 mlynedd.

Mae cefnogwyr Cymru yn adnabyddus yno fel rhai sy'n hoffi hwyl, meddai'r dyn busnes sy'n gweithio yn niwydiant llety gwyliau yr Alpau ond sy'n dod o Lanfairfechan yn wreiddiol.

"Roedd 'na ddarn amdanyn nhw yn y papur newydd, dolen allanol yr wythnos diwethaf efo sylwadau ar ôl gêm Albania am pa mor dda oedd hi i weld ffans Cymru nôl yn y stadiwm," meddai Ray.

"Mae'r term y Wal Goch yn cael ei ddefnyddio amdanyn nhw yma hefyd.

Ffynhonnell y llun, Ray Pritchard

"Mae 'na barch at y Cymry ymysg y Swisiaid - maen nhw'n fwy adnabyddus am eu rygbi yma, ond mae eu henw mewn pêl-droed yn cynyddu hefyd.

"Dwi yn gwybod y tro diwethaf iddyn nhw chwarae yn yr Ewros fe wnaeth tîm Cymru greu enw da i'w hunain."

Angerdd dros 'La Nati'

Ond mae cefnogwyr-mewn-coch y Swistir yr un mor angerddol dros eu tîm hefyd, meddai Ray.

"Mae gan bêl-droed dipyn o gystadleuaeth gan hoci iâ a sgïo fel y prif chwaraeon yn y Swistir ond dros y 10 mlynedd diwethaf mae wedi datblygu a phêl-droed yw'r chwaraeon mwyaf yn y wlad rŵan.

"Mae'r tîm wedi bod yn chwarae yn dda iawn yn ddiweddar ac wedi cyrraedd y 10 uchaf yn y byd.

"Mae yn golygu llawer i'r wlad, mae'n dod â'r wlad at ei gilydd; gan bod ganddoch chi rannau o'r wlad sy'n siarad Almaeneg, rhannau Eidaleg a rhannau sy'n siarad Ffrangeg, pan mae'r tîm cenedlaethol - La Nati - yn chwarae, mae pawb yn dod tu ôl iddyn nhw. Felly mae'n bwysig iawn i'r Swistir.

"Dydi'r Swistir ddim llawer mwy na Chymru: mae'n dal i gael ei hystyried yn wlad gymharol fach gyda tua 7,500,000 - 8,000,000 o drigolion.

"Mae'r cefnogwyr yn llawn angerdd ac mae 'na ddilyniant mawr i dimau lleol, fel yn y Deyrnas Unedig, ac mae'r angerdd yno efo'r tîm cenedlaethol hefyd."

Pencampwriaeth sgïo Cymreig

Cefnogwr Manchester United yw Ray fel ei fam, Brenda Pritchard, sy'n cyfrannu i raglenni chwaraeon Radio Cymru yn achlysurol.

Yn byw yn Chardonne, ddim ymhell o Montreaux ar lan llyn Genefa, mae Ray wedi hen ymgartrefu yn y Swistir ond mae'n parhau i chwifio'r Ddraig Goch yn ei wlad fabwysiedig.

Ffynhonnell y llun, Ray Pritchard
Disgrifiad o’r llun,

Ray gyda'r sgïwr o'r Swistir Christophe Berra

Bymtheg mlynedd yn ôl roedd yn un o sylfaenwyr y Bencampwriaeth Sgïo Alpaidd Cymreig, digwyddiad blynyddol yn ardal sgïo Portes du Soleil sydd wedi mynd o nerth i nerth ers hynny.

Mae hefyd yn gweithio ar brosiect i efeillio pentref Champéry-Les Crosets yn y Swistir gyda Llandudno - cynllun sydd wedi ei ohirio oherwydd Covid ond a fydd, mae'n gobeithio, yn gallu ailgychwyn fis Medi 2021.

Ffynhonnell y llun, Region Dents du Midi
Disgrifiad o’r llun,

Daeth cynrychiolaeth o Landudno i Champéry-Les Crosets yn yr Alpau i drafod gefeillio yn 2020

Felly wrth i'r ddwy wlad sy'n agos at ei galon wynebu ei gilydd yn eu gêm agoriadol ym mhencampwriaeth Euro 2020 yn Baku ddydd Sadwrn, pwy fydd o'n ei gefnogi?

"Mi fydda' i'n cael fy nhynnu y ddwy ffordd, rydw i'n ddinesydd y Swistir bellach, ond dwi'n credu mai Cymru fydd yn dod gyntaf ddydd Sadwrn."

Faint o ffans fydd yn Baku?

Dyma'r pumed tro i'r Swistir gyrraedd yr Ewros ond pa mor wahanol fydd y profiad i'r cefnogwyr yn 2021?

Yn draddodiadol mae ardaloedd i gefnogwyr ddod at ei gilydd i wylio yn cael eu trefnu drwy'r wlad ond mae cyfyngiadau ar hynny oherwydd Covid-19.

"Pan mae'r tîm cenedlaethol yn chwarae mi fyddan nhw'n rhoi sgriniau mawr tu allan o gwmpas y llyn, ac mi fyddan nhw'n ddigwyddiadau mawr efo miloedd o bobl yn gwylio ac yn hapus iawn. Mae 'na awyrgylch dda."

Eleni bydd y digwyddiadau hynny wedi eu cyfyngu i ryw 100 o bobl, meddai Ray; mae rhai bwytai a thafarndai hefyd yn dangos y gêm.

Mae'n annhebygol y bydd llawer o gefnogwyr wedi trafaelio i Baku, meddai.

"Mae'r cyngor teithio i ffans wedi bod yn dawel. Does dim llawer o deithio wedi bod yma ar hyn o bryd ac mae'n gyffredinol wedi ei gyfyngu i'r Undeb Ewropeaidd, felly fyddwn ni ddim yn gweld niferoedd enfawr o'r Swistir yn mynd i Baku.

"Ond mae 'na gefnogaeth frwd ac mae gêm Cymru a Swistir yn cael ei grybwyll yn eithaf aml."

Pa mor bell mae'r Swistir yn credu y gallan nhw fynd yn y bencampwriaeth?

"Roedd 'na gyfweliad yma ar y penwythnos gyda Cristian Constantin, perchennog tîm FC Sion, ac un o'r enwau mwyaf ym mhêl-droed y Swistir, a doedd o ddim yn credu y bydden nhw'n mynd yr holl ffordd - efallai i'r chwarteri."

Beth am Gymru?

"Rydyn ni'n mynd i'w ennill! Byddai hynny'n wych!"

Fydd dim rhaid aros yn hir i weld pwy aiff â'r fuddugoliaeth gyntaf bwysig gyda gêm Cymru v Swistir yn cychwyn am 14:00 ddydd Sadwrn, 12 Mehefin: gallwch ei dilyn yn llif byw arbennig Cymru Fyw o 12:30. Pob lwc i Gymru!

Hefyd o ddiddordeb: