Pryderon am ddiffyg cyllid i elusen ffoaduriaid yn Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
Refugee Kindness
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r elusen yn dosbarthu nwyddau i ffoaduriaid, ac yn rhoi unrhyw gymorth arall sydd angen arnynt hefyd

Mae elusen yn Wrecsam sydd yn cefnogi ceiswyr lloches a ffoaduriaid yn bryderus am y dyfodol ar ôl methu dod o hyd i gyllid allweddol.

Sefydlodd Rachel Watkin o'r Orsedd elusen Refugee Kindness ar ôl rhoi cadeiriau i deulu o Syria oedd wedi symud i'r ardal.

Mae'r bargyfreithiwr a'r barnwr rhan amser hefyd wedi sefydlu grŵp Facebook er mwyn helpu teuluoedd eraill mewn angen.

Mae'r cyfan wedi tyfu tu hwnt i'w disgwyliadau, ond gyda hynny daw pryderon am gynaliadwyedd hirdymor yr elusen heb fwy o nawdd.

'Roeddan nhw'n fy ngalw i'n angel!'

"Ym mis Awst 2020 nes i benderfynu cymryd amser i ffwrdd o fy ngwaith, tacluso'r tŷ, a nes i gynnig cadeiriau am ddim ar Facebook," meddai Ms Watkin.

"Daeth 'na deulu Cwrdaidd i'w nôl nhw ac mi oeddan nhw mor ddiolchgar.

"Nes i ddechrau siarad efo nhw a gofyn os oedd'na fwy o betha' oeddan nhw angen, a ddywedon nhw bod 'na chydig o bethau - rhewgell, bwrdd er enghraifft.

"Nes i holi ar dudalen Facebook leol os oedd 'na rywun yn gallu eu helpu nhw, a nes i gasglu cymaint o bethau iddyn nhw a'u rhoi nhw iddyn nhw, ac mi oeddan nhw'n fy ngalw i'n angel!"

Wedi'r profiad hynny fe benderfynodd ei bod eisiau sefydlu corff swyddogol i ddarparu cymorth o'r fath.

Rachel Watkin
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Rachel Watkin ei hysbrydoli i ddechrau'r elusen ar ôl rhoi cymorth i deulu Cwrdaidd

Mae Ms Watkins bellach wedi helpu 54 o deuluoedd hyd yma ac mae gan y grŵp Facebook dros 700 o aelodau.

Mae'r gwaith yn golygu cydlynu'r gwirfoddolwyr a chasglu a dosbarthu y nwyddau, ac yn swydd llawn amser bellach.

Mae Ms Watkin wedi cymryd amser i ffwrdd o'r gwaith er mwyn helpu rhedeg yr elusen ac mae dau o wirfoddolwyr hefyd yn gweithio saith diwrnod yr wythnos.

Mae'r elusen hefyd wedi gorfod rhentu gofod er mwyn storio nwyddau.

'£1,500 sydd gennym ni'

"Pan wnes i ei sefydlu yn y lle cyntaf doedden ni ddim angen funding, ond rŵan mae gennym ni gymaint o deuluoedd ac yn gwneud mwy o bethau, mae wedi mynd yn fwy anodd," meddai.

"Mae pobl wedi bod yn hael ac wedi rhoi arian i ni, ond dim ond tua £1,500 sydd gennym ni.

"Mae angen i ni edrych ar bethau o safbwynt mwy hirdymor os ydyn ni am oroesi, a dwi'n meddwl mai'r unig ffordd ydy creu swyddi cyflogedig i bobl gyda'r elusen.

"'Da ni'n elusen newydd ond er mwyn bod yn gymwys ar gyfer lot o'r nawdd mae'n rhaid i chi fod wedi bod yn gweithio ers dwy flynedd.

"Dydyn ni ddim wedi bodoli am flwyddyn eto ond mae pethau wedi ffrwydro.

"Rydyn ni wedi gosod deadline o fis Medi ar gyfer sicrhau nawdd - tu hwnt i hynny, pwy â ŵyr."

Khawla
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Khawla ei bod yn "ddiolchgar iawn" am gymorth yr elusen

Mae Khawla o Syria yn dweud bod y rhoddion mae hi, ei gŵr a'u tri mab wedi ei dderbyn wedi eu helpu yn fawr, ac mae'r gwirfoddolwyr wedi dod yn ffrindiau newydd iddi.

"Pan gyrhaeddon ni gyntaf, roedd hi'n galed, ond nawr mae'n dda. Maen nhw [Refugee Kindness] wedi helpu lot, a dwi yn ddiolchgar iawn," meddai.

Mae Rokaya yn dod o Syria yn wreiddiol ac wedi cyrraedd o Libanus 18 mis yn ôl.

Mae hi'n dweud bod yr elusen wedi ei helpu gyda phob mathau o bethau, a'i helpu i ddod i arfer gyda'i chartref newydd.

"Rwy'n deiliwr ac mae'r grŵp wedi dod a deunyddiau newydd i mi ar gyfer fy swydd," meddai.

Rokaya
Disgrifiad o’r llun,

Mae Rokaya yn dod o Syria yn wreiddiol ac wedi cyrraedd y DU o Lebanon 18 mis yn ôl

Mae Jordan Hughes yn gwirfoddoli gyda Refugee Kindness.

"Mae eu helpu nhw yn werth chweil," meddai.

"Mae yna ddiwrnodau pan dwi yn teimlo y caf i ddiwrnod i ffwrdd, ond rwy'n methu aros bant. Rwy'n caru hyn, Rwy'n hoffi helpu pobl.

"Rydw i wedi gorffen yn y brifysgol nawr ac mae hi yn dod i'r pwynt lle dwi angen chwilio am swydd lawn amser i helpu cefnogi fy merch.

"Byddwn i yn dwli pe bai hyn yn troi yn swydd - bydden i yn caru gweld dyfodol tymor hir i'r elusen."

Pynciau cysylltiedig