'Angen i gwmnïau lletygarwch ysbrydoli pobl newydd'

  • Cyhoeddwyd
Ryan Peters
Disgrifiad o’r llun,

Ryan Peters: 'Angen ysbrydoli pobl newydd'

Mae prinder staff yn her fawr i'r diwydiant lletygarwch a bydd angen ailwampio mawr, yn ôl arbenigwr yn y maes.

"Roedd hi yn amlwg y byddai bywyd ar ôl y pandemig a Brexit ddim yn hawdd", meddai Ryan Peters, sy'n ddarlithydd yn y maes ym Mhrifysgol Cymru Drindod Dewi Sant.

Er ei fod yn cydnabod yr heriau, mae hefyd yn gweld cyfleon.

"Mae angen i gwmnïau a busnesau ysbrydoli pobl newydd nawr i weld gwerth a buddion posib mewn gweithio ym maes lletygarwch."

Mae'n cydnabod fod y cyfnod clo, ailagor yn araf a rheolau pellter cymdeithasol wedi achosi i weithwyr fod yn arbennig o nerfus yn y sector ond mae'n bendant fod yr argyfwng yn gyfle i ailwampio'r diwydiant.

Dywedodd Mr Peters fod angen nawr dod o hyd i ffyrdd newydd i "ddenu ac yn bwysig iawn, i gadw staff".

Mae gan yr arbenigwr twristiaeth o Lanelli flynyddoedd o brofiad ym myd lletygarwch fel rheolwr gyda chwmni Premier Inn.

Dywedodd fod angen i'r diwydiant wneud yn siŵr fod pobl yn gweld y maes "fel rhywle atyniadol, lle maen nhw wir ishe gweithio".

Wrth i gyfyngiadau gael eu llacio, a chaffis a thai bwyta ail-agor, mae pryder bod dim digon o staff ar gael i groesawu cwsmeriaid yn ôl.

Eisoes mae nifer o weithwyr sydd wedi bod i ffwrdd ar ffyrlo wedi cael swyddi mewn meysydd eraill, ac mae llawer hefyd wedi dychwelyd i'w cartrefi ar y cyfandir ar ôl Brexit.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Elizabeth Davies wedi dechrau cynnig prentisiaethau

Mae Elizabeth Davies, perchennog gwesty Lletycynin, Sanclêr, yn trio dod o hyd i ragor o staff ar hyn o bryd.

Ond wrth wynebu problemau tymor byr mae hi hefyd yn edrych i'r hir dymor ac yn cyflwyno syniadau newydd er mwyn denu gweithwyr.

"Mae hi'n anodd i gael pobl chi mo'yn, ni yn chwilio am sawl aelod o staff mewn gwahanol adrannau.

"Ond be ni wedi dechrau 'neud yw cynnig prentisiaethau i fagu hyder ac i sicrhau gwell gwasanaeth i'r cwsmeriaid."

Dyw dod o hyd i ateb i'r argyfwng staffio dros nos ddim yn hawdd.

Wrth gyfadde' hynny mae arweinwyr ym maes lletygarwch yng Nghymru yn gweld bod lle i newid a gwella wrth edrych i'r dyfodol.

Maen nhw yn pwysleisio'r angen i ddatblygu sgiliau ac arbenigedd, ochr yn ochr â lefel cyflogaeth, a sicrhau fod lletygarwch yng Nghymru nid yn unig yn denu cwsmeriaid, ond hefyd gweithwyr.

Yn ôl Ryan Peters mae'n amser nawr i ail-wampio.

"Fe allwn ni greu delwedd ac argraff newydd i'r dyfodol.

"Dyma y cyfle sy' gyda ni. Mae angen safonau proffesiynol a g'neud yn siŵr ein bod yn cydnabod a gwobrwyo sgiliau."

Pynciau cysylltiedig