Dim adolygiad yn achos marwolaeth siop sglodion

  • Cyhoeddwyd
Mavis BranFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Mavis Bran yn yr ysbyty chwe diwrnod ar ôl cael ei llosgi gan olew berwedig

Mae awdurdodau wedi penderfynu yn erbyn cynnal adolygiad i farwolaeth menyw o Sir Gâr a honnodd i'w gŵr ei llosgi gydag olew berwedig wedi ffrae yn y siop sglodion roedden nhw'n ei rhedeg.

Bu farw Mavis Bran, 69, wedi i'w horganau fethu chwe diwrnod ar ôl cael llosgiadau difrifol i 46% o'i chorff yn y digwyddiad yn siop Chipoteria yn Hermon ym mis Hydref 2018.

Cafwyd ei gŵr, Geoffrey Bran, yn ddieuog o lofruddiaeth a dynladdiad yn Llys Y Goron Abertawe yn Nhachwedd 2019.

Clywodd y llys bod Mrs Bran wedi dweud wrth ffrind wythnos cyn ei marwolaeth ei bod "yn ofn" ac yn meddwl bod ei gŵr am ei lladd.

Ddydd Mawrth dywedodd grŵp aml-asiantaeth, sy'n cynnwys Cyngor Sir Gâr, Bwrdd Iechyd Hywel Dda a Heddlu Dyfed-Powys nad ydyn nhw am gynnal Adolygiadau Lladdiad Domestig (ADD) i'r amgylchiadau cyn y farwolaeth.

Mae modd cynnal adolygiad yn dilyn honiad o laddiad domestig i weld a allai amgylchiadau'r farwolaeth arwain at atal achosion tebyg, ac i wella'r gwasanaeth a'r ymateb i ddioddefwyr. Does dim rhaid i lys gael unrhyw un yn euog i gynnal ADD.

'Meini prawf heb eu cyrraedd'

Y Cynghorydd Ann Davies yw cadeirydd Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Sir Gâr. Dywedodd bod aelodau wedi ailystyried amgylchiadau'r achos a'u trafod yn llawn, cyn iddi hi, "fel cadeirydd" benderfynu yn erbyn cynnal ADD.

"Mae'r penderfyniad ar sail ystyriaethau a ellir dysgu gwersi neu wella ymatebion gwasanaethau o fewn a rhwng asiantaethau, ac mae wedi cael ei drafod gyda theulu Mrs Bran," meddai.

Dywed Ms Davies ei bod yn hytrach wedi gofyn i grŵp gorchwyl a darfod ystyried ac ymateb i "sawl thema allweddol ble gellir fod rhai cyfleoedd i ni wella a chryfhau arferion ar draws y rhanbarth".

Ffynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Geoffrey Bran bod ei wraig wedi llithro a thynnu'r olew dros ei hun

Dyma'r eildro i'r bartneriaeth benderfynu yn erbyn cynnal adolygiad. Penderfynodd ym mis Mawrth i ailedrych ar eu penderfyniad gwreiddiol wedi i'r grŵp ymgyrchu Safelives, sy'n ceisio atal trais domestig, fynegi "pryder dwfn" yn niffyg adolygiad.

Mae e-bost at y grŵp yn cadarnhau "nad yw'r meini prawf ar gyfer cynnal ADD wedi eu cyrraedd".

Siom a syfrdan

Dywed Rachel Williams o Safelives: "Rwy'n wirioneddol siomedig. Nid dyrannu bai yw nod ADD.

"Mae yna i roi llais i'r dioddefwr, ac rwy'n credu nad yw llais Mavis yn cael ei glywed ac mae hwn yn gyfle sy'n cael ei golli i ddysgu gwersi o'i hachos."

Mae'r penderfyniad diweddaraf yn "syfrdanol", medd prif weithredwr Advocacy After Fatal Domestic Abuse (AAFDA), Frank Mullane, a ymgyrchodd i sicrhau bod yr adolygiadau'n dod yn ddeddf yn 2011.

"Fy nealltwriaeth i yw bod y corff comisiynu'n teimlo bod di gwersi i'w dysgu. Ni allaf ddeall sut gellir dod i'r casgliad yna heb golwg fanwl, ac mae hynny'n golygu golwg fanwl o fewn y gymuned hefyd."

Dywedodd llefarydd ar ran Cymorth i Ferched Cymru hefyd bod y penderfyniad yn "siomedig" gan y byddai adolygiad "wedi gallu cynnig gwersi i wella ymatebion ar draws y gymuned i fenywod a merched sy'n profi camdriniaeth".

Yn gynharach eleni, fe wnaeth yr Ysgrifennydd Cartref, Priti Patel orchymyn i fwrdd gwasanaethau cyhoeddus Cyngor Torfaen wneud tro pedol ac adolygu amgylchiadau marwolaeth Ruth Williams a gafodd ei lladd gan ei gŵr, Anthony, yn eu cartref yng Nghwmbrân yn 2020.